大象传媒

Angen mwy o hyfforddiant iechyd meddwl yng nghefn gwlad

Wyn Thomas ac ei giFfynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Wyn Thomas bod ansicrwydd am y dyfodol yn 'ofid mawr' i ffermwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae undeb amaethyddol yn galw am hyfforddi mwy o bobl i adnabod arwyddion o iselder a phryder ymhlith ffermwyr.

Mae bron i dair mil o bobl wedi bod ar gwrs Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl sy鈥檔 cael ei redeg gan yr elusen wledig Sefydliad DPJ.

Ond yn 么l Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mae angen hyfforddi llawer mwy.

Yn y cyfamser, mae elusen sy鈥檔 cynnig cymorth i ffermwyr yngl欧n ag amrywiaeth o faterion, o gwblhau gwaith papur i broblemau iechyd meddwl, yn dweud bod ei gwaith achos wedi bod ar ei lefel uchaf erioed yn 2023.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Davies yw Prif Weithredwr elusen Tir Dewi

Cafodd Tir Dewi ei sefydlu yn 2015 i gynnig cymorth i ffermwyr a鈥檜 teuluoedd.

Eleni mae'r elusen - sydd 芒 saith aelod o staff a thua 70 o wirfoddolwyr - wedi helpu 160 o ffermydd, gan weld tri achos newydd yr wythnos.

Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Gareth Davies, fod cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd, gan gynnwys costau cynyddol yn arwain at bwysau ariannol ar ffermydd, ansicrwydd am gymorthdaliadau amaethyddol a hefyd y ffaith bod pobl yn fwy parod i drafod problemau iechyd meddwl.

Yn 么l Wyn Thomas, aelod o staff Tir Dewi: 鈥淢ae ansicrwydd yn ofid mawr, ansicrwydd am y dyfodol a beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd gyda鈥檙 taliadau sengl ac yn y blaen.

"Mae TB wedi bod yn ofid yn ystod y flwyddyn eleni.

'Mae olyniant yn beth mawr'

"Ond hefyd ni鈥檔 gweld llawer o achosion sy鈥檔 ymwneud gyda anghymod o fewn teuluoedd.

"Mae olyniant yn beth mawr, mae ffermwyr yn mynd yn h欧n ac mae ansicrwydd yngl欧n 芒 phwy sy鈥檔 mynd i鈥檞 dilyn nhw i mewn i鈥檙 busnes."聽

Mewn ymateb, mae undeb amaethyddol yn galw am roi hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i fwy o bobl i鈥檞 helpu i adnabod arwyddion pryder ac iselder ac i gynnig cefnogaeth lle mae ei angen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elin Jenkins yn dweud bod problemau iechyd anifeiliaid yn 'gwbl niweidiol' i iechyd meddwl ffermwyr

Dywedodd Elin Jenkins, swyddog polisi gydag UAC, fod ffermwyr yn teimlo dan bwysau am nifer o resymau.

鈥淒w i鈥檔 meddwl mai鈥檙 un mwyaf sy鈥檔 effeithio ar ffermwyr yw鈥檙 gwaith papur 鈥 mae鈥檔 achos straen mawr," meddai.

"Mae problemau iechyd anifeiliaid hefyd. Does dim byd mwy dinistriol i ffermwr na chael eich taro 芒'r dici芒u.

"Mae鈥檔 gwbl niweidiol i iechyd meddwl unrhyw un... Mae yna ansicrwydd hefyd yn ymwneud 芒 chyllid 鈥 [mae鈥檔] eithaf aneglur ar hyn o bryd."

Mae UAC yn un o lawer o sefydliadau gwledig sydd wedi anfon staff ar hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl sy鈥檔 cael ei ddarparu gan Sefydliad DPJ, elusen sy鈥檔 cefnogi pobl yn y sector amaethyddol.

Dechreuodd Sefydliad DPJ roi Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ym mis Awst 2018.

Ers hynny mae bron i 3,000 o bobl wedi derbyn yr hyfforddiant o wahanol feysydd gwaith gan gynnwys ffermwyr, milfeddygon, staff marchnadoedd da byw ac undebau ffermio.聽

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwrs hyfforddiant wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol, yn 么l Kay Helyar

Kay Helyar yw Rheolwr Hyfforddiant Sefydliad DPJ.

Dywedodd fod rhai o'r rheini sydd wedi cael yr hyfforddiant wedi cysylltu 芒 hi i ddweud bod y cwrs yn gwneud gwahaniaeth ymarferol.聽

"Ces i e-bost gan fenyw a oedd wedi defnyddio鈥檙 hyfforddiant i weld yr arwyddion bod rhywun yn ei theulu yn meddwl am hunanladdiad.

"Ac roedd hi'n gallu gofyn y cwestiwn anodd hwnnw, oherwydd ry鈥檔 ni'n delio gyda hynny ar y cwrs.

"Ac roedd hi鈥檔 gwybod, pan gafodd hi ateb cadarnhaol, roedd hi鈥檔 gwybod ble i gyfeirio鈥檙 person hwnnw am gefnogaeth ac mae鈥檔 teimlo bod yr hyfforddiant wedi achub bywyd y person hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Elen Williams, dydi'r galw am gymorth 'ddim yn mynd i ddistewi'

Mae Elen Williams yn gweithio i Sefydliad DPJ yn y gogledd: 鈥淒ydy鈥檙 galw am gymorth efo iechyd meddwl ddim yn mynd i ddistewi.

"Da ni鈥檔 dal yn mynd i yrru 'mlaen efo鈥檙 gwaith fel elusennau amaethyddol a gweithio gyda鈥檔 gilydd.聽

"Hyd yn oed os ydych chi鈥檔 gweithio yn y siop leol, yn y dafarn leol neu rywbeth yn y gymdeithas mae鈥檙 hyfforddiant yma ar gael i unrhyw un sy鈥檔 ymwneud 芒 phobl mewn amaethyddiaeth.

"Os ydych chi鈥檔 gallu sylweddoli ar y pethau bach yna sy鈥檔 golygu nad ydyn nhw cweit yn iawn, ond 鈥榙a chi ddim yn gwybod lle i droi neu sut i helpu nhw, wel mae鈥檙 hyfforddiant yma i chi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe aeth Emily Jones ar y cwrs ar 么l gweld 'newid' yn ei chymuned leol

Fe wnaeth Emily Jones o Dregaron gofrestru ar y cwrs ar 么l gweld newidiadau yng nghymeriad pobl yn ei chymuned leol.

"Wrth siarad 芒 phobl, do鈥檔 nhw ddim mor fywiog, doedd ganddyn nhw ddim y sbarc hwnnw amdanyn nhw ac ro鈥檔 i鈥檔 gallu gweld bod pobl yn dioddef ac yn cael trafferth gyda鈥檜 hiechyd meddwl.

"Ro鈥檔 i eisiau ceisio helpu trwy estyn allan at bobl.

"Mae'n ddiwydiant unig iawn鈥 ac ro鈥檔 i eisiau bod yn rhywun mae pobl yn gallu dod ati i siarad."

Stigma ymysg ffermwyr h欧n

Dros y blynyddoedd diwethaf bu mwy o ffocws ar drafod iechyd meddwl, a dywed Gareth Davies, Prif Weithredwr Tir Dewi, fod hyn wedi helpu i leihau鈥檙 stigma yn enwedig ymhlith ffermwyr iau.

Ond mae鈥檙 stigma鈥檔 dal i fodoli, meddai ymysg y to h欧n: 鈥淥s y鈥檆h chi鈥檔 dweud wrth ffermwr, 鈥楻y鈥檆h chi鈥檔 amlwg yn cael trafferth gyda鈥檆h iechyd meddwl鈥, yna efallai y byddan nhw鈥檔 dweud, 鈥極, felly nawr ry鈥檆h chi鈥檔 meddwl fy mod i鈥檔 wallgo ar ben popeth arall.鈥

"Mae鈥檔 label nad y鈥檔 nhw鈥檔 defnyddio yn aml iawn, felly mae鈥檔 rhaid i ni fod yn ofalus.聽

鈥淵r hyn maen nhw yn ei ddweud, mewn llawer o achosion, yw nad y鈥檔 nhw鈥檔 teimlo eu hunain neu nad y鈥檔 nhw鈥檔 cysgu'n dda, neu allan nhw ddim canolbwyntio ar wneud rhywbeth.

"Yr hyn maen nhw'n ei ddweud mewn gwirionedd yw eu bod yn cael trafferth gyda phethau fel gorbryder, gyda phethau fel iselder.聽

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod y ffaith ein bod ni鈥檔 profi鈥檙 lefelau uchaf erioed o achosion, yn rhannol oherwydd bod y sgwrs am iechyd meddwl wedi cael ei normaleiddio yn fwy, ond hefyd oherwydd bod cymaint o broblemau bellach o fewn y byd amaeth.鈥

Beth bynnag yw鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu ffermwyr, neges yr elusennau yw bod cymorth cyfrinachol ar gael.

Maen nhw鈥檔 annog ffermwyr i gysylltu wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer blwyddyn brysur arall yn 2024.

Pynciau cysylltiedig