Cyhuddo dyn yn dilyn 'ymosodiad parhaus' ar ddynes

Disgrifiad o'r llun, Mae dyn wedi鈥檌 gyhuddo o saith drosedd ar 么l i ddynes gael ei chanfod ag anafiadau difrifol.

Mae dyn wedi鈥檌 gyhuddo o geisio treisio, bygwth lladd ac achosi niwed corfforol difrifol ar 么l i ddynes gael ei chanfod ag anafiadau difrifol i鈥檞 hwyneb.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y ddynes wedi dioddef "ymosodiad parhaus" yn ardal Wdig, Sir Benfro, nos Wener.

Mae Benjamin Guiver, o Abergwaun, yn wynebu saith cyhuddiad.

Mae鈥檙 dyn 34 oed wedi鈥檌 gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.

Bydd presenoldeb heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn tawelu meddwl y gymuned, meddai鈥檙 llu.

Mae'r heddlu wedi apelio ar dystion i gysylltu 芒 nhw gydag unrhyw wybodaeth.