大象传媒

Celf weledol yn cael ei thrin yn 'israddol' yn yr Eisteddfod

Angharad Pearce JonesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad Pearce Jones yn gweithio yn y maes ers dros 30 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae celf weledol yn cael ei thrin yn israddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol o'i gymharu 芒 ffurfiau artistig eraill, yn 么l enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain eleni.

Fe wnaeth Angharad Pearce Jones dderbyn y fedal a'r wobr ariannol o 拢5,000 mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd ar ddiwrnod agoriadol yr 诺yl.

Ond mae hi'n credu bod y celfyddydau gweledol yn yr Eisteddfod yn cael eu gweld fel y "poor relation - ry'n ni wastad yn teimlo fel 'na, ychydig bach yn ymylol".

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai'r celfyddydau gweledol yw鈥檙 genre sydd 芒鈥檙 gwariant uchaf o bob un o鈥檙 ffurfiau artistig yn yr Eisteddfod.

Enillodd Angharad Pearce Jones y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain eleni gyda'i gwaith 'Pa ochr o鈥檙 ffens wyt ti?'.

Gwaith metel anferthol yw hwn, sydd wedi cael ei arddangos yn y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Ms Jones: "Be' 'da ni鈥檔 anghofio ydy fod y pethau ma' pobl yn ei ddweud yn y Lle Celf yr un mor bwysig os nad yn fwy eang na rhai o鈥檙 pethau eraill sy鈥檔 digwydd ar draws y cae.

"Mae 'na bobl yn y Lle Celf yn s么n am - fel dwi'n ceisio ei wneud - rhaniadau dros y byd, yr argyfwng amgylcheddol, mae gen ti bobl yno sydd wedi perffeithio eu crefft.

鈥淏lwyddyn yma mi gawsom ni seremoni ar y llwyfan, sy鈥檔 wych, efo鈥檙 trympedi a phopeth, ac wedyn dyna fo, mae 'di mynd.鈥

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwaith Ms Jones yn cael ei arddangos yn y Lle Celf yn ystod yr Eisteddfod

Ar 么l ennill ei medal, fe aeth Ms Jones yn 么l adref i'w bwthyn ym Mrynaman i gwblhau prosiect masnachol - arwydd ar gyfer siop goffi.

Mae hi wedi bod yn gweithio fel gof yn ogystal ag artist ers y 1990au.

鈥淢ae gen i lot, lot, lot o waith ymlaen. Mae gen i dri o blant," meddai.

"Mae鈥檔 rhaid i fi gario 'mlaen i 'neud arian felly dwi methu fforddio mynd i鈥檙 Eisteddfod bob dydd a just mwynhau."

Yr artist a enillodd Fedal Aur Crefft a Dylunio oedd Laura Thomas, gwehyddes a greodd waith sy'n dathlu harddwch edafedd.

'Llai o sylw i'r Lle Celf'

Mae artistiaid o bob rhan o Gymru wedi bod 芒 stondinau y tu allan i鈥檙 Lle Celf er mwyn gwerthu eu darnau yn ystod yr Eisteddfod.

Un o'r artistiaid hynny oedd Ruth J锚n Evans o Aberystwyth, wnaeth ennill gwobr Josef Herman yn Eisteddfod 2023 am ei gwaith seramig.

Mae hi鈥檔 cytuno bod artistiaid yn gallu teimlo fel eu bod yn cael eu hanghofio o'i gymharu 芒 ffurfiau artistig arall sydd i'w gweld o amgylch y Maes.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ruth J锚n Evans ei bod wedi cael wythnos 鈥渁rbennig o dda鈥 yn y Brifwyl eleni

鈥淢ae鈥檙 celfyddydau gweledol wastad wedi bod [yn eilradd] yn yr Eisteddfod," meddai.

"Ond dwi鈥檔 teimlo yn y blynyddoedd diwetha' bod 'na llai a llai o sylw yn cael ei roi i'r Lle Celf."

Ond ychwanegodd bod hi wedi cael wythnos 鈥渁rbennig o dda鈥 yn y Brifwyl eleni.

"'Da ni 'di cael cefnogaeth dda gan bobl leol, a chynulleidfa cwbl newydd."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Y celfyddydau gweledol yw鈥檙 genre sydd 芒鈥檙 gwariant uchaf o bob un o鈥檙 ffurfiau artistig yn yr Eisteddfod."