Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Herio'r syniad bod 'dim celf Gymreig' mewn arddangosfa newydd
- Awdur, Elen Davies
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Mae hanesydd celf yn ceisio herio鈥檙 syniad bod "dim celf Gymreig" yn bodoli.
Ers y 1980au, mae Peter Lord wedi bod yn archwilio鈥檙 myth a wnaed 75 mlynedd yn 么l, gan ddarganfod a chofnodi hanes celf ac artistiaid Cymreig.
Ddydd Sadwrn, bydd arddangosfa newydd ganddo yn agor am y tro cyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sy鈥檔 addo "datgelu stori鈥檙 genedl".
Yn 1950, dywedodd y nofelydd, bardd a chyfieithydd Dr Llewelyn Wyn Griffith: 鈥So much for the past. No patron, no critic, therefore no painter, no sculptor, no Welsh Art. It is as simple as that.鈥
Cafodd y syniad nad oes celf Gymreig yn bodoli ei ailadrodd gan sawl un arall ers hynny hefyd.
Ond mae arddangosfa newydd, sydd wedi ei guradu gan yr hanesydd celf, Peter Lord, yn herio鈥檙 farn honno.
Wedi ei lleoli yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae鈥檙 arddangosfa yn cyfuno casgliad helaeth Peter Lord o ddarluniau ac arteffactau Cymreig ag eitemau o鈥檙 Casgliad Celf Genedlaethol yn y llyfrgell.
Mae dros 250 o weithiau celf o "arwyddoc芒d cenedlaethol" yn rhan o鈥檙 arddangosfa, gyda nifer o鈥檙 eitemau ar gael i鈥檙 cyhoedd weld am y tro cyntaf erioed.
鈥楢dnodd diwylliannol cyfoethog鈥
Yn 么l Mr Lord, dylai lluniau gael eu gwerthfawrogi nid yn unig yn weledol ond am yr hyn maen nhw鈥檔 ei ddweud am stori鈥檙 genedl.
鈥淵n hytrach na dilyn confensiynau estheteg hanes celf y traddodiad Seisnig, mae鈥檙 arddangosfa newydd yn ystyried fel man cychwyn perthnasedd delweddau gweledol i lwybr hanesyddol y genedl Gymreig,鈥 meddai.
鈥淲rth ddilyn y methodoleg radical hwn, mae鈥檔 datgelu adnodd diwylliannol cyfoethog nad yw wedi cael ei werthfawrogi鈥檔 llawn o鈥檙 blaen.
"Ond mae鈥檙 arddangosfa鈥檔 dangos nid yn unig anwiredd datganiad Dr Llewelyn Wyn Griffith, a wnaed 75 o flynyddoedd yn 么l, ond mae鈥檔 arwain i ni ystyried oblygiadau鈥檙 meddylfryd a orweddai y tu 么l iddo i鈥檙 genedl heddiw.鈥
Gyda naratif canolog yn rhedeg drwyddi, mae鈥檙 arddangosfa yn dechrau gyda byd gweledol y bonedd, y dosbarth canol a phobl gyffredin Cymru, a symud ymlaen wedyn at bortreadau gwahanol o hunaniaethau Cymreig.
鈥楢ddo gwledd i ymwelwyr鈥
Yn 么l Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae鈥檙 arddangosfa newydd yn datgelu stori am gyfoeth diwylliant gweledol Cymru yn ogystal 芒 hanes cymdeithasol a gwleidyddol y wlad.
Dywedodd y prif weithredwr, Rhodri Llwyd Morgan, bod yr arddangosfa'n "cynnig profiad cyfoethog tu hwnt sy鈥檔 llawn straeon difyr a them芒u amserol am ein perthynas gyda chelf weledol".
"Mae gwybodaeth ddofn ac arbenigedd Peter a鈥檙 paru effeithiol rhwng ei gasgliad hynod a chasgliadau鈥檙 llyfrgell yn addo gwledd i ymwelwyr.鈥
Mae rhai o eitemau鈥檙 arddangosfa yn cynnwys hunan-bortread o Edward Owen, Penrhos; llun Elizabeth Gwynne, Taliaris gan John Lewis; Hen Walia,聽Marquis of Anglesey gan John Roberts;聽T欧 Haf gan Beca (Peter Davies);聽Conway Castle from the Shore gan Clara Knight a聽Vase of Flowers gan Gwen John.
Bydd yr arddangosfa yn agor Ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024.