大象传媒

'Dewis rhwng elw neu'r blaned' i fusnesau twristiaeth

John Whitehead o flaen ei lety eco
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae John Whitehead wedi rhedeg ei lety gwyliau gwyrdd ers dros 25 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau twristiaeth yn "gorfod dewis rhwng cynaliadwyedd ac elw" yn 么l un perchennog llety gwyliau, sy'n galw am fwy o gymorth i fusnesau fod yn fwy gwyrdd.

Dywedodd John Whitehead, sydd wedi rhedeg ei borthdy eco ym Mharc Cenedlaethol Eryri ers dros 25 mlynedd, bod angen i'r sector helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Daw wrth i鈥檙 cwmni teithio poblogaidd Lonely Planet ddewis Cymru fel un o鈥檙 gwledydd mwyaf cynaliadwy i ymwelwyr deithio iddi eleni.

Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud ei bod nhw鈥檔 cefnogi busnesau twristiaeth i fod yn fwy cynaliadwy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 600,000 o bobl yn cyrraedd copa'r Wyddfa pob blwyddyn

Ers prynu ei westy, mae Mr Whitehead wedi ei drawsnewid i fod yn eiddo eco-gyfeillgar trwy inswleiddio'r t欧 o鈥檙 newydd, gosod paneli solar a "boeler sy鈥檔 gweithredu ar belenni anifeiliaid".

鈥淣id yw鈥檙 pethau hyn yn rhad ond, er gwaetha hynny, does dim llawer o arian allan yna i helpu," meddai.

"Gyda鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, falle bod modd adennill costau ymhen rhyw pum, chwe mlynedd ac weithiau dydy busnesau ddim yn barod i dderbyn hynny. Maen nhw鈥檔 chwilio am elw cyflymach."

Ychwanegodd: "Mae鈥檙 llywodraeth yn gallu arwain ar hyn. 鈥楧a ni mor bell i lawr y ffordd o ran newid hinsawdd erbyn hyn ac mae angen iddyn nhw wneud mwy i helpu."

Disgrifiad,

Mae Ffion yn teithio o gwmpas rhai o rannau tawelach Cymru'n nofio gwyllt

Yn 么l arolwg diweddar gan YouGov, mae 35% o oedolion y Deyrnas Unedig yn awyddus i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae鈥檙 ffigwr yna yn uwch eto ymhlith pobl ifanc (42%), gan gynnwys unigolion fel Ffion sy鈥檔 rhannu ffyrdd eco-gyfeillgar o deithio gyda鈥檌 miloedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd: 鈥淒wi鈥檔 gwneud pwynt o fynd i lefydd sydd yn gynaliadwy achos dwi鈥檔 teimlo bod gyda fi gyfrifoldeb i wneud hynny.

"Felly un o鈥檙 pethau dwi鈥檔 hoff o wneud yw nofio gwyllt a dwi鈥檔 gwneud fy ngorau i ddangos i bobl bod 鈥榥a lefydd anhygoel yng Nghymru sy鈥檔 dawelach na鈥檙 llefydd enwog sy鈥檔 gallu bod yn orlawn.

鈥淒wi hefyd yn trial cefnogi busnesau cynaliadwy i leihau fy 么l-troed carbon. Dwi鈥檔 meddwl bod Cymru鈥檔 le da i ddod am wyliau cynaliadwy ond mae 鈥榥a waith dal i wneud i wella pethau eto."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ynys Llanddwyn yn un o leoliadau poblogaidd y wlad i dwristiaid

Yn 么l Nia Jones, sy鈥檔 gyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys M么n, mae gan fusnesau鈥檙 diwydiant gyfrifoldeb i fod yn fwy eco-gyfeillgar.

Dywedodd: 鈥淢ae yna dwf amlwg wedi bod yn y galw am wyliau cynaliadwy yng Nghymru.

"Os allwn ni fel diwydiant ymateb i鈥檙 cynnydd hwnnw, bydd busnesau Cymru鈥檔 elwa yn y diwedd.鈥

鈥淥nd hefyd mae yna allyriadau carbon ychwanegol a cholled o fioamrywiaeth yn sgil twristiaeth ac felly mae gennym ni ddyletswydd i weithredu pan bod modd gwneud,鈥 meddai.

Sut mae Cymru鈥檔 cymharu 芒 gweddill y byd?

Mae Dr Rhys ap Gwilym, sy鈥檔 uwch-darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud bod Cymru dal ar ei h么l hi o ran twristiaeth gynaliadwy o鈥檌 gymharu 芒 rhai o wledydd Ewrop.

鈥淒wi鈥檔 credu bod 鈥榥a fodelau da allan yna fel y gwledydd Llychlyn felly, Norwy, y Ffindir a Sweden," meddai.

"Mae 鈥榥a ffyrdd da o weithredu o ran twristiaeth gynaliadwy yn y llefydd yma yn barod a dwi鈥檔 credu bod 鈥榥a le i Gymru ddysgu rhywfaint ohonyn nhw.

"Mae strategaeth dda gyda ni ar gyfer dyfodol y sector yma ond mae鈥檙 cam olaf ar goll ar hyn o bryd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Rhys ap Gwilym o Brifysgol Bangor

I鈥檙 ardaloedd sy鈥檔 denu鈥檙 nifer fwyaf o ymwelwyr mae ceisio taro cydbwysedd yn bwysig.

Dyna pam mae Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi sawl cynllun newydd ar waith.

Dywedodd Angela Jones o awdurdod y parc: 鈥淢ae cynaliadwyedd yn bwysig iawn i ni. Dyna pam da ni wedi creu systemau fel Sherpa鈥檙 Wyddfa a鈥檙 ymgyrch yr Wyddfa ddi-blastig."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydym yn cefnogi busnesau o fewn y sector twristiaeth i wireddu eu huchelgeisiau o fod yn wyrdd drwy ein hadnodd Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.

"Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda busnesau twristiaeth i sicrhau twf cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. Bydd ein Cronfa Paratoi at y Dyfodol sy鈥檔 werth 拢20m hefyd yn helpu busnesau i ddod yn fwy cynaliadwy.鈥

Pynciau cysylltiedig