Eryri: 'Peidiwch rhannu lleoliadau hardd ar Instagram a TikTok'
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n ymweld ag Eryri dros y penwythnos ac yn tynnu lluniau o fannau prydferth 'dych chi wedi eu gweld, mae 'na rybudd - meddyliwch yn galed gyntaf cyn eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dyna neges swyddogion y parc cenedlaethol ar drothwy penwythnos G诺yl y Banc arall, wrth iddyn nhw ddisgwyl miloedd o ymwelwyr i'r ardal unwaith eto.
Gyda thirwedd a llecynnau godidog i'w canfod mewn sawl rhan o'r parc, mae rhybudd bod rhai o'r mannau mwyaf bregus eisoes yn gweld dirywiad ar 么l i'r lleoliadau gael eu datgelu ar wefannau cymdeithasol.
Yn aml dyw pobl sydd wedyn yn ceisio ymweld 芒'r un llefydd ddim yn sylweddoli pa mor bell sy'n rhaid cerdded i gyrraedd yno, na chwaith pa mor heriol all y llwybrau hynny fod.
'Cynlluniwch yn well'
Mae gan Barc Cenedlaethol Eryri bellach ymgyrch sy'n annog pobl i beidio 芒 gadael '么l troed digidol' wrth ymweld - er enghraifft, peidio tagio union leoliadau os ydyn nhw'n darganfod rhyw fan dirgel newydd.
Mae'r arferiad yn un sy'n cael ei weld yn aml ar blatfformau fel Instagram a TikTok, gyda lleoliadau fel pyllau Llwybr Watcyn a golygfeydd dramatig Crib Goch eisoes ymhlith y rhai sy'n boblogaidd ar blatfformau cymdeithasol.
Ond mae hynny'n gallu achosi problemau fel sbwriel mewn ardaloedd o'r parc sydd wedyn yn gweld cynnydd sydyn mewn poblogrwydd.
"Mae pobl yn postio'r lluniau yma, ac wedyn mae ganddoch chi bobl eraill sydd isio tynnu lluniau yn yr un llefydd," meddai Ioan Gwilym o Barc Cenedlaethol Eryri.
Os ydy pobl yn mynnu postio lluniau o'r fath, mae'r parc yn eu hannog i gynnwys gwybodaeth hefyd am hyd y daith, y tywydd a'r math o ddillad ac offer sydd ei angen i gyrraedd yno, fel bod pobl wedi paratoi'n gywir.
Daw hyn wedi cynnydd yn nifer y galwadau i dimau achub mynydd Eryri eleni - gyda th卯m Llanberis yn dweud bod cynnydd o 18% wedi bod yn nifer y galwadau o'i gymharu 芒 llynedd.
"'Dan ni isio i bobl ddod yma, a mwynhau prydferthwch y parc cenedlaethol," ychwanegodd Ioan.
"Ond 'dan ni'n gofyn i bobl gynllunio'n well pan maen nhw'n dod - fe allen nhw roi disgrifiad o beth ydi'r cit sydd ei angen arnyn nhw i gyrraedd yma, fel bod pobl eraill yn gwybod hefyd."
Mae'n dweud bod llawer o bobl ddim yn sylweddoli pa mor bell sydd yn rhaid cerdded i gyrraedd rhai o'r llefydd yn y mynyddoedd - na chwaith pa mor sydyn mae'r tywydd yn gallu newid.
"'Dach chi'n gallu gweld newid yn y tymheredd mewn jyst cwpl o gannoedd o fetrau," meddai. "Mae angen cael y 'sgidiau iawn, yr offer iawn a'r dillad iawn."
'O na, maen nhw wedi ffeindio'r lle'
Mae Dr Einir Young o Eco-amgueddfa Pen Ll欧n, sy'n hyrwyddo treftadaeth a diwylliant yr ardal honno, yn cytuno gydag ymgyrch Parc Cenedlaethol Eryri i gael pobl i bostio'n gyfrifol ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Un o'r pethau sy'n difetha llefydd i bobl leol a phawb arall yw pobl sy'n dilyn influencers i lefydd hardd, yn eu flip flops, ac yn tynnu llun ac yn gadael gwybodaeth am y lleoliad yna, fel bod pobl eraill gwirion yn mynd i'r un lle, ac yn difetha fe i bawb," meddai.
Ar un trip gyda'i g诺r i Wlad yr I芒 bu'n aros gyda ffrind lleol, oedd wedi sylwi ar duedd tebyg yn ei gwlad hithau hefyd.
"'Naeth hi gipio'r llyfr Lonely Planet oddi wrthon ni, chwilio drwyddo fe, a dweud 'o na, maen nhw 'di ffeindio'r lle yna, dyna hwnna 'di mynd am byth'," meddai.
Er mai cyfryngau cymdeithasol ac nid llyfrau sy'n cael eu defnyddio'n amlach bellach i ledaenu'r neges, mae Einir yn dweud bod y neges i deithwyr yn parhau i fod yr un peth - byddwch yn "sensitif" ble bynnag rydych chi'n mynd.
"Mae isie i bobl feddwl am gyrchfannau twristiaeth fel cartrefi i ddechrau - lle ni'n byw yw e, ni ddim isie pobl i ddod yna a chargo ar draws bob dim," meddai.
"Felly mae angen hyfforddi pobl fi'n credu. Ni wedi clywed am 'take only photos, leave only footprints', ond nawr mae rhywbeth am yr '么l troed digidol' hefyd - chwarae teg [i'r Parc Cenedlaethol]."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023