Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhuddo llanc, 17, o Gaerdydd o lofruddio tair merch yn Southport
Mae llanc 17 oed sy'n hanu o Gaerdydd wedi ymddangos mewn llys am y tro cyntaf wedi ei gyhuddo o lofruddio tri phlentyn yn Southport.
Bu farw tair merch - Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice Aguiar, naw oed - wedi iddyn nhw gael eu trywanu yn ystod dosbarth dawns.
Mae barnwr wedi codi'r cyfyngiadau sydd fel arfer yn atal y wasg a'r cyfryngau rhag cyhoeddi enwau diffynyddion dan 18 oed.
Mae Axel Muganwa Rudakubana wedi ei anfon i ganolfan gadw ieuenctid ar 么l ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl.
Yn ogystal 芒'r tri chyhuddiad o lofruddiaeth, mae hefyd wedi ei gyhuddo o 10 achos o geisio llofruddio, a bod ym meddiant arf finiog, sef cyllell gegin grom.
Mae disgwyl iddo fynd o flaen yr un llys eto ar 25 Hydref, pan fydd disgwyl iddo gyflwyno ple.
Aeth y diffynnydd o flaen llys ieuenctid yn gynharach - yn llys ynadon y ddinas, sydd yn yr un adeilad 芒'r Llys y Goron.
Roedd yn gwisgo tracwisg lwyd ac fe orchuddiodd ei wyneb gydol y gwrandawiad a barodd am bum munud.
Cafodd wyth plentyn arall a dau oedolyn oedd yng nghanolfan Hart Space eu hanafu yn yr ymosodiad ddydd Llun, ac mae rhai o'r unigolion yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cyhoeddodd Ysbyty Plant Alder Hay fore Iau bod dau o'r plant yn eu gofal nhw wedi cael eu rhyddhau, a bod pump yn rhagor, gan gynnwys un oedd yn Ysbyty Athrofaol Aintree yn wreiddiol, mewn cyflwr sefydlog.
Fe gyhoeddodd Heddlu Glannau Mersi fanylion y cyhuddiadau yn erbyn y llanc yn ystod cynhadledd i'r wasg yn fuan wedi hanner nos.