Carcharu chwaraewr snwcer am ymosod ar ei bartner

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae Michael White wedi colli ei le ar Daith Snwcer y Byd

Mae chwaraewr snwcer o Gymru wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar am ymosod ar ei bartner.

Cafodd Michael White, 33, o Gastell-nedd, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau am ymosodiad a achosodd niwed corfforol gwirioneddol.

Dywedodd Cymdeithas Biliards a Snwcer Proffesiynol y Byd (WPBSA) ei fod wedi colli ei le ar Daith Snwcer y Byd a rhestr detholion y byd.

鈥淣id yw'r WPBSA yn goddef ymddygiad o'r fath gan aelod, ac rydym wedi cymryd camau ar unwaith i dynnu Michael White fel aelod," meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd Michael White yn 60ain yn rhestr detholion y byd cyn iddo gael ei wahardd

Dywedodd y sefydliad ei fod wedi bod yn monitro'r achos llys ac wedi galw cyfarfod brys yn dilyn y ddedfryd.

Bydd aelodaeth White yn dod i ben "ar unwaith".

White oedd y chwaraewr ieuengaf i sgorio canrif mewn cystadleuaeth, a hynny pan oedd yn naw oed, ac roedd yn bencampwr amatur y byd yn 14 oed.

Enillodd ei dlws mawr cyntaf yng Nghystadleuaeth Agored India yn 2015.

Roedd yn 60ain yn rhestr detholion y byd cyn iddo gael ei wahardd.