Gething: Dim cwestiynau 'dilys' yn sgil y rhoddion

  • Awdur, Catrin Haf Jones
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒

Mae鈥檙 Prif Weinidog wedi dweud nad oes cwestiynau 鈥渄ilys鈥 yngl欧n 芒鈥檌 gymeriad na鈥檌 ymddygiad yn sgil y ffrae am y rhodd o 拢200,000 i鈥檞 ymgyrch arweinyddiaeth.

Mae Mr Gething yn mynnu bod y rhoddion wedi eu datgan yn gywir ac o fewn y rheolau.

Mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod Seneddol Llafur wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r mater.

Wrth gael ei holi gan Bwyllgor Craffu Senedd Cymru ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi bod yn 鈥渙nest drwy gydol yr amser yngl欧n 芒鈥檙 hyn yr ydw i wedi ei wneud".

Dywedodd Vaughan Gething hefyd bod angen trafod y 鈥渞ealiti鈥 bod ymgyrchoedd gwleidyddol yn gostus.

鈥淥s nad ydych chi鈥檔 mynd i gael y wladwriaeth i ariannu pleidiau ac ymgyrchoedd, sut y鈥檆h chi鈥檔 mynd i godi arian?

鈥淪ut mae gwneud hynny felly yw dilyn y rheolau, a datgan beth ydych chi鈥檔 mynd i鈥檞 wneud a datgan yn glir bod eich sefyllfa chi fel ymgeisydd ddim wedi ei gyfaddawdu gan y ffynonellau ariannol amrywiol sydd wedi cael eu datgan.鈥

Roedd Mr Gething yn ymateb i Aelod Plaid Cymru o鈥檙 Senedd, Llyr Gruffydd, oedd yn dweud bod cwestiynau yngl欧n 芒鈥檌 grebwyll wrth dderbyn yr arian yn y lle cyntaf.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi 鈥渄ilyn yr holl reolau sydd angen i fi eu dilyn".

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol, James Evans mai swydd Vaughan Gething yw "rhoi hyder i'r cyhoedd, a fydd yn gwylio heddiw, bod y feirniadaeth yn iawn, a dy fod yn gwneud penderfyniadau er lles Cymru ac nid er mwyn dod yn brif weinidog Cymru".

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog fod ei lywodraeth yn ffocysu ar eu blaenoriaethau gan gynnwys yr argyfwng costau byw, treth i bobl dosbarth gweithiol a'r gwasanaeth iechyd.