Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caerdydd: Carcharu gyrrwr tacsi am dreisio dynes yn ei th欧
Mae gyrrwr tacsi o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 11 mlynedd ar 么l iddo dreisio dynes yn ei chartref ar 么l ei chludo adref.
Fe wnaeth Jakir Hussain, 39, fynnu bod y ddynes yn gadael iddo ddefnyddio'r t欧 bach yn ei chartref, cyn ei threisio yn ei hystafell wely.
Clywodd y llys fod Hussain, sy'n dad i ddau o blant, wedi casglu'r ddynes o ganol y ddinas yn ei dacsi ar 么l iddi fod am noson allan gyda ffrindiau.
Ond wedi iddo ei gyrru i'w chartref, fe aeth i gefn y tacsi a chloi'r drysau nes iddi gytuno i adael iddo ddefnyddio'r t欧 bach.
Wedi hynny fe orfododd ei hun i mewn i'w hystafell wely, a'i threisio.
'Methu ymddiried mewn pobl mwyach'
Gwadodd Hussain y cyhuddiad o dreisio, ond cafodd ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful fis Tachwedd yn dilyn lluniau CCTV a thystiolaeth DNA yn ei erbyn.
Clywodd y llys fod y ddioddefwraig bellach wedi symud o'i chartref oherwydd y digwyddiad, a bod y trawma wedi achosi iddi geisio lladd ei hun.
Dywedodd fod y digwyddiad wedi cael effaith ar "bob agwedd" o'i bywyd, a'i bod hi bellach yn fwy tebygol o beidio ymddiried mewn pobl broffesiynol oedd yn ceisio ei helpu.
"Ers y digwyddiad dwi ddim wedi gallu mynd i mewn i dacsi, dwi methu ymddiried mewn gyrwyr tacsi o gwbl, ac mae hyd yn oed effeithio arna i i'r pwynt lle os yw ffrindiau benywaidd yn mynd am noson allan, na'i gynnig eu gyrru adref yng nghanol nos," meddai.
"Dwi bellach ddim yn ystyried tacsis yn llefydd saff. Nes i ymddiried mewn rhywun roeddwn i'n meddwl oedd yn broffesiynol, i fynd 芒 fi adre'n saff y noson honno."
Clywodd y llys fod Hussain, o ardal Grangetown - neu Threlluest - y ddinas, wedi byw ym Mhrydain ers wyth mlynedd, ac ar fin dod yn dad am y trydydd tro.
Dywedodd y cofiadur Eugene Egan y dylai'r ddynes fod wedi gallu disgwyl "cael ei thrin yn barchus" gan ei gyrrwr tacsi a'i "chludo adref yn saff".
"Roeddech chi mewn safle o ymddiriedaeth tuag ati, safle o ymddiriedaeth y cymeroch chi fantais o hynny," meddai.
Ychwanegodd: "Ddylai'r un gyrrwr tacsi fyth fod yn gofyn i ddefnyddio t欧 bach teithiwr benywaidd. Roeddech chi jyst eisiau mynd i mewn i'w th欧."
Cafodd Hussain ei ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar, a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gweithio fel gyrrwr tacsi am gyfnod amhenodol.