大象传媒

Arweinydd Gwynedd yn gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr Foden

Neil Foden yn y 90au
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bosib fod troseddu Neil Foden - yma yn y 90au - wedi dechrau dros 40 mlynedd yn 么l

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden ar 么l i ragor o honiadau am gam-drin plant ddod i鈥檙 amlwg am y cyn-brifathro.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dyfrig Siencyn nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud 鈥渇od angen ymdrin 芒 hwn yn fuan ac yn sydyn, dwi鈥檔 meddwl mai鈥檙 Adolygiad Amddiffyn Plant ydy鈥檙 ffordd orau i wneud hynny".

鈥淢ae ymchwiliad cyhoeddus am gymryd blynyddoedd," meddai.

"Ond os oes 鈥榥a ymchwiliad cyhoeddus, os oes 鈥榥a benderfyniad i gael un, fyddwn ni鈥檔 croesawu fo.鈥

Ymddiheuriad 'os bydd bai ar y cyngor'

Mae鈥檔 cydnabod fod cwestiynau i鈥檞 hateb, gan ddweud ei fod yn 鈥渉yderus y bydd y cwestiynau yna鈥檔 cael eu hateb drwy drefn yr Adolygiad Amddiffyn Plant ac mi fyddwn ni erbyn fory (dydd Gwener) wedi cyflwyno鈥檙 holl dystiolaeth.鈥

鈥淢ae 鈥榥a gytundeb llwyr, does 鈥榥a ddim gwahaniaeth barn yngl欧n 芒鈥檙 angen i ganfod beth aeth o鈥檌 le," meddai.

"Ac os oes 鈥榥a rywbeth wedi mynd o鈥檌 le ar ein prosesau ni, gweithredu arnyn nhw, ac os oes yna unrhyw un o swyddogion y cyngor, fyddwn ni yn delio 芒 hynny yn y ffordd arferol.

"Does dim amheuaeth am yr angen i fynd i wraidd y broblem yma ac fel dwi wedi dweud ar sawl achlysur, mi fyddwn ni鈥檔 troi pob carreg posib i ganfod atebion."

Aeth ati i ddweud: 鈥淥s bydd unrhyw fai ar y cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro.鈥

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淥s bydd unrhyw fai ar y cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro," meddai Dyfrig Siencyn

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C yn gynharach, fe wnaeth cyn-arweinydd y cyngor, Alun Ffred Jones, alw ar yr awdurdod lleol i ymddiheuro.

Dywedodd ei fod "yn meddwl yn sicr fod gan y cyngor sir fel awdurdod addysg le i ymddiheuro am gamgymeriadau sydd yn amlwg wedi digwydd".

鈥淢ae yna gamgymeriadau wedi digwydd ar ran y cyngor ac mi fyddwn yn sicr yn meddwl byddai'n ddoeth ymddiheuro ar ran hynny ac mae yna bobl eraill yn nes at yr hyn oedd yn digwydd ac y byddwn i am glywed wrthyn nhw hefyd,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alun Ffred Jones wedi galw ar Gyngor Gwynedd i ymddiheuro

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi siarad gyda nifer sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 cyngor sy鈥檔 codi amheuon am y modd mae鈥檙 awdurdod lleol a鈥檙 arweinyddiaeth wedi ymateb i鈥檙 sefyllfa.

Maen nhw hefyd am weld ymddiheuriad gan y cyngor i鈥檙 dioddefwyr.

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn dweud bod "dyletswydd ac angen" ar Gyngor Gwynedd i gynnal ymchwiliad annibynnol o'u prosesau diogelu plant ar fyrder er mwyn adfer hyder y cyhoedd.

Wrth ymateb, dywedodd Dyfrig Siencyn fod 鈥渁droddiadau annibynnol wedi digwydd ac mi fyddwn ni yn edrych yn eitha' buan yn ein cyfarfodydd cabinet am yr angen am unrhyw fath o ymchwiliad i unrhyw brosesau yn ein tyb ni sydd angen edrych arnyn nhw".

Mi wrthododd Liz Saville Roberts gefnogi arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd, gan ddweud ei bod yn "gresynu" bod Foden wedi cyflawni'r fath droseddau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Liz Saville Roberts eisiau i'r cyngor gomisiynu adolygiad annibynnol ar unwaith i'w prosesau diogelu plant

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedwar o blant rhwng 2019 a 2023.

Fe ddatgelodd rhaglen Wales Investigates honiadau pellach am Foden a鈥檌 bod yn bosib fod y pedoffeil wedi cam-drin am dros 40 mlynedd.

Clywodd Wales Investigates hefyd bod o leiaf 12 o ddioddefwyr Foden yn dwyn achosion cyfreithiol sifil yn erbyn Cyngor Gwynedd - fel y cyngor oedd yn ei gyflogi.

Pe bai'r hawlio am iawndal yn llwyddiannus, mae'r gyfreithwraig sy'n eu cynrychioli yn dweud y gall gostio miliynau o bunnoedd i'r cyngor.

Yn ystod achos Foden daeth i鈥檙 amlwg bod uwch aelod o staff wedi codi pryderon am agosrwydd Foden at rai merched yn eu harddegau yn 2019 - gan rybuddio ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau.

Cafodd y pryder ei basio at Gyngor Gwynedd, ond cafodd penderfyniad ei wneud i beidio cynnal ymchwiliad ffurfiol.

Yn ystod yr achos llys dywedodd Garem Jackson, cyn-bennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, ei fod wedi gadael i uwch swyddog diogelu wybod ond fod y swyddog wedi dweud nad oedd angen ymchwilio gan nad oedd honiadau swyddogol wedi eu gwneud.

Mae 大象传媒 Cymru ar ddeall bod pedwar o weithwyr y cyngor yn rhan o鈥檙 penderfyniad i beidio cynnal ymchwiliad. Mae tri yn dal i gael eu cyflogi yno.

Mae Mr Jackson wedi dweud fod diogelu yn "flaenoriaeth allweddol" a鈥檌 fod yn arfer trafod gyda鈥檙 swyddog priodol a dilyn eu cyngor nhw os oedd pryderon yn cael eu codi.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i weld pa wersi sydd i鈥檞 dysgu.

Ond mae nifer yn poeni fod adolygiad o鈥檙 fath yn gyfyng ac mae yna alwadau pellach am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau Cyngor Gwynedd.

Mae gr诺p cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth, yr aelodau o鈥檙 Senedd Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor a鈥檙 Aelod Seneddol Liz Saville Roberts yn cefnogi鈥檙 galwadau hynny.