Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gigs mis Mehefin 2024
Gyda thymor y gwyliau wedi dechrau'n gadarn ym mis Mai, mae'r baton wedi'i basio i fis Mehefin gyda sawl g诺yl gerddorol i ddod dros y pedair wythnos nesaf.
Yn ogystal 芒 hynny bydd llawer o s锚r mwya'r byd yn dod i Gymru mis yma.
Cynan Evans o d卯m Gorwelion sydd wedi casglu rhai o'r uchafbwyntiau ynghyd.
G诺yl Tawe
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe - 8/6/24
Bydd llawer o dalentau cerddorol Cymru i'w gweld yng Ng诺yl Tawe, sy'n cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau, ac yn para trwy鈥檙 dydd Sadwrn.
Ymhlith y perfformwyr mae Bitw, Breichiau Hir, Ci Gofod, a HMS Morris sydd ar ganol taith o Brydain ar hyn o bryd. Hefyd, a hwythau newydd ddychwelyd o Showcase Cymru yng ng诺yl The Great Escape yn Brighton bydd artistiaid megis Mellt ac N鈥橣amady Kouyat茅 yn perfformio.
Am y tro cyntaf eleni, bydd yr 诺yl yn digwydd dros ddeuddydd, gan orffen gyda pharti yn y Bunkhouse, Abertawe ar nos Sul, 9 Mehefin, yng nghwmni'r gr诺p Melin Melyn a鈥檜 cyfuniad unigryw o surf-rock, gwerin a pop seicedelig.
Gig G诺yl Cefni
Llangefni - 8/6/24
Mae Bwncath yn dychwelyd i 糯yl Cefni unwaith eto eleni, y tro yma ar dop y bil!
Yn cefnogi Bwncath ar ddydd Sadwrn yr 诺yl flynyddol yn Llangefni mae'r hogia' lleol, Fleur De Lys, ac hefyd Y Cledrau, Ffatri Jam a llawer mwy o dalentau o'r ardal.
Hwn yw'r gig sy'n cloi'r 诺yl sy'n dechrau ddydd Mercher, 5 Mehefin. Bydd llawer yn digwydd yn y dref dros y pedwar diwrnod gan gynnwys gweithdai clocsio, cwis tafarn, nosweithiau comedi, lansiadau llyfrau a gemau chwaraeon fel rhan o weithgareddau鈥檙 wythnos.
Yws Gwynedd a Pys Melyn
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Diwedd neges YouTube
Madryn, Chwilog - 8/6/24
Mae Yws Gwynedd a'i fand wedi hen ennill eu lle fel un o brif fandiau'r wlad, yn adnabyddus am eu caneuon bywiog a'u perfformiadau trydanol.
Daw'r gig hwn yn fuan wedi rhyddhau y sengl newydd, Bae, a chyn haf prysur o wyliau cerddorol i'r band.
Yn perfformio yn y gig hefyd mae'r band o Ben Ll欧n, Pys Melyn, sydd wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers yr oedden nhw yn yr ysgol.
Cafodd eu halbwm cyntaf, Bywyd Llonydd, ei enwi ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2021.
Ym mis Awst cafodd eu hail albwm, Bolmynydd, ei ryddhau ac maent wedi teithio'n eang yn perfformio'n fyw ers hynny.
Chroma a Loose Articles
Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 9/6/24
Cyn mentro ar lwyfan enfawr Stadiwm Emirates yn cefnogi Foo Fighters ar 13 Mehefin, bydd Chroma yn perfformio yn rhywle maen nhw'n hen gyfarwydd ag o sef Clwb Ifor Bach.
Rhyddhaodd Chroma eu halbwm cyntaf, Ask For Angela, y llynedd ar 么l blynyddoedd o gigio'n helaeth.
Mae Loose Articles, fydd hefyd yn cefnogi Foo Fighters, yn fand o Fanceinion.
Mae鈥檙 gig yma yn rhan o鈥檜 taith 鈥淩oad To Foos Tour鈥 a hwn fydd gig olaf y bandiau cyn eu noson fawr ym Manceinion.
Adjua
Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 14/6/24
Mae Adjua, sydd wedi derbyn clod am ei sain unigryw, yn cyfuno pop, soul, ac R&B.
Daw o ardal Splott yng Nghaerdydd. Mae'n cyfansoddi cerddoriaeth ers 2021 ac yn ddiweddar fe ryddhaodd hi EP o'r enw Self.
Mae hi'n cynhyrchu ei cherddoriaeth ei hun a dywedodd ei bod yn cael ei dylanwadu gan brofiadau bywyd a'i hysbrydolrwydd.
Yn ymuno ag Adjua ar y noson fydd Miss Faithee, Sahala a Generation Feral.
Gigs mawr yng Nghymru
Take That, Olly Murs
Stadiwm Swansea.com 鈥 6/6/24
P!nk
Stadiwm Principality 鈥 11/6/24
The Smashing Pumpkins + Weezer
Castell Caerdydd 鈥 14/6/24
Taylor Swift
Stadiwm Principality - 18/6/24
Bryan Adams
Llangollen 鈥 18/6/24
Foo Fighters
Stadiwm Principality 鈥 25/6/24
Manic Street Preachers a Suede
Llangollen 鈥 28/6/24
Gwyliau eraill
Ffiliffest
Caerffili 鈥 8/6/24
G诺yl Maldwyn
Llangadfan 鈥 21/6/24
G诺yl Roc y Dd么l
Bethesda 鈥 22/6/24
G诺yl y Gwylliaid
Dinas Mawddwy 鈥 28/6/24
G诺yl Rhuthun
Rhuthun 鈥 29/6/24