Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddwas yn gwadu ymosod yn rhywiol ar blentyn
Mae rheithgor yng Nghaerdydd wedi clywed bod swyddog gyda Heddlu Gwent wedi ymosod yn rhywiol ar blentyn dan 13 oed.
Mae John Stringer, sy'n 42 oed ac o Gaerdydd, yn gwadu pum cyhuddiad yn ymwneud 芒 cham-drin plentyn.
Clywodd y llys bod Mr Stringer wedi cael ei arestio wedi i'r ferch siarad gyda chymhorthydd dysgu yn yr ysgol.
Dywedodd Ian Wright ar ran yr erlyniad y byddai Mr Stringer, yn 么l y ferch, "yn ei chyffwrdd mewn ffordd rywiol".
Roedd y ferch hefyd yn honni y byddai'n "dangos fideos iddo o ferched hanner noeth" ac "achosi iddi wneud yr un peth ag oedd y merched yn ei wneud yn y fideo".
Fe gafodd rhieni'r ferch eu galw i'r ysgol, yr heddlu eu hysbysu a Mr Stringer ei arestio yr un diwrnod.
Clywodd y llys bod y ferch wedi recordio cyfweliad i'r heddlu yn y dyddiau canlynol.
Roedd Mr Stringer, meddai, wedi mynnu iddi wneud yr hyn y dywedodd wrthi am ei wneud, er ei hamharodrwydd hithau.
Honnodd y ferch hefyd i Mr Stringer聽ddweud taw "hithau fyddai ar fai" pe bai ei rhieni'n dod i wybod beth oedd yn digwydd ac yn ei gael yntau i drwbl.
Mae Mr Stringer wedi pledio'n ddieuog i bum cyhuddiad - dau o ymosod yn rhywiol, dau o achosi neu ysgogi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithred rywiol ac un o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.
Mae'r achos yn parhau.