Cartrefi Cymru 芒'r nifer fwyaf o finiau gwastraff yn y DU

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Underdown, o Flaenau, newydd symud o Loegr ac yn dweud nad oes rhaid iddo ddefnyddio ei fin du o gwbl bellach oherwydd system ailgylchu Cymru

Mae gan gartrefi yng Nghymru y nifer uchaf o finiau yn y DU ar gyfartaledd, yn 么l ymchwil, gyda rhai trigolion yn dweud eu bod yn hyll ac yn beryglus.

Ar hyn o bryd, mae Cymru'n ail yn y byd o ran ailgylchu gwastraff cartref, ac mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud mai鈥檙 rheswm am hyn yw鈥檙 broses o wahanu deunyddiau.

Ond mae hynny鈥檔 golygu hyd at 10 bin fesul cartref, gyda Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot ymhlith y lleoedd gyda鈥檙 mwyaf o wastraff i鈥檞 ddidoli yn y DU.

Dywedodd rhai trigolion ym Mlaenau Gwent fod biniau鈥檔 aml yn cael eu cadw ar balmentydd gan nad oes lle arall ar eu cyfer, gan rwystro llwybrau cerdded ac anharddu'r ardal.

Ond mae eraill yn credu bod yr opsiynau ailgylchu yng Nghymru yn 鈥渄da iawn鈥.

Dywedodd y cyngor fod chwe bin yn cael eu darparu yn gyffredinol - papur, plastigau, caniau, gwydr, cardbord a bwyd - ynghyd 芒 gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Gall trigolion hefyd ddewis cael biniau ar gyfer tecstilau, batris, eitemau trydanol bach, gwastraff gardd a chewynnau.

Yn 么l ymchwil diweddar gan y gr诺p ymgyrchu diwygio trethi Taxpayers鈥 Alliance, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd 芒'r nifer uchaf o finiau posib yn y DU, sef 10.

Dywed hefyd fod cyfartaledd Cymru o chwe bin fesul cartref yn uwch na鈥檙 un rhanbarth arall yn y DU.

Ond yn 么l rhestrau safonol y cynghorau, Castell-nedd Port Talbot sydd 芒'r nifer fwyaf o finiau posib yng Nghymru, sef naw, a Gwynedd y lleiaf, sef pump.

Dyw'r ffigyrau hyn ddim yn cynnwys casgliadau dewisol o eitemau penodol.

Yn ogystal, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau ailgylchu gwastraff newydd ym mis Ebrill, sy鈥檔 golygu bod gwastraff swyddfeydd, busnesau a llety gwyliau hefyd yn gorfod cael ei ddidoli i鈥檞 ailgylchu.

'Amhosib llusgo'r biniau i gyd trwy鈥檙 t欧'

Roedd gan drigolion ym Mlaenau, Blaenau Gwent, farn gymysg am effeithiolrwydd y system finiau.

Un sy'n anhapus gyda'r sefyllfa yw Keziah Jones, 35. 鈥淩oedd gyda ni fagiau o鈥檙 blaen, oedd yn llawer mwy ymarferol... ro'n i鈥檔 gallu eu cadw nhw yn fy nghypyrddau cegin," meddai. "Mae鈥檙 rhain mor hyll.鈥

Er bod troli wedi鈥檌 darparu ar gyfer pentyrru鈥檙 cynwysyddionm mae'n dweud "allen ni ddim cael rhai yn eu lle mwyach, ac maen nhw鈥檔 torri鈥檔 aml yn y gwynt.鈥

Does dim dewis, meddai, ond cadw鈥檙 biniau y tu allan i鈥檞 drws ffrynt yn barhaol.

"Alla' i ddim llusgo'r rheiny i gyd trwy鈥檙 t欧 ar ben fy hun - mae'r gegin ar yr ail lawr.

鈥淢ae fy mam-gu yn byw ar y stryd yma hefyd, ac mae鈥檙 [biniau] yma mor anymarferol. Fedar hi ddim llusgo鈥檙 drol yma o gwmpas, mae鈥檔 hunllef i鈥檙 henoed.鈥

Ychwanegodd y gallai鈥檙 biniau fod yn 鈥渂eryglus鈥 gan eu bod yn blocio鈥檙 palmentydd.

鈥淧an roedd fy mab bach yn iau ac mewn bygi, roedd yn rhaid i mi fynd allan i鈥檙 ffordd,鈥 meddai.

Dyw didoli eitemau "ddim yn broblem" i Stephen Pegler, 68, ond "mae cymaint o sibrydion am ailgylchu achos dan ni'n gweld nhw'n dadlwytho...

"Yr hyn sy鈥檔 fy nghorddi - 'dan ni'n mynd i'r dreffaerth o wahanu popeth ac mae鈥檙 cyfan wedyn yn mynd i鈥檙 un lle.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae pryder bod dim dewis ond gadael bagiau a biniau ar y strydoedd

Mae Elizabeth Gething, 77, yn byw ar ei phen ei hun ac yn dweud nad oes ganddi ddigon o wastraff i lenwi鈥檙 holl finiau ailgylchu.

鈥淒ydi pawb ddim yn golchi a gwahanu [pethau i'w hailgylchu]. Mae鈥檔 dibynnu os oes gan bobl yr amynedd ai peidio.鈥

A hithau'n ddiwrnod gwlyb a gwyntog, roedd Ms Gething yn codi sbwriel o鈥檙 stryd.

鈥淢ae鈥檔 10 o鈥檙 gloch nawr, a dydi'r dynion sbwriel dal ddim yma. Mae鈥檔 ofnadwy. Dyle nhw ddod yn gynharach o lawer.鈥

'Mae'n dda i'r amgylchedd'

Dywedodd Paul Harrington, 72, ei fod yn adeiladu storfa finiau wrth adnewyddu ei gartref.

鈥淩wy鈥檔 lwcus oherwydd dwi yng nghanol gwneud y gwaith yma beth bynnag, ond rhaid i lawer o bobl eraill eu cael yn sownd tu allan i鈥檞 drysau ffrynt,鈥 meddai.

鈥淒oes dim ots 'da chi sortio popeth - mae'n dda i'r amgylchedd.鈥

Symudodd Mark Underdown, 42, i Flaenau tua thri mis yn 么l o Surrey, lle 鈥渕aen nhw鈥檔 ei wneud e'n hollol wahanol鈥.

鈥淩wy鈥檔 meddwl bod ailgylchu yng Nghymru yn dda iawn i fod yn onest,鈥 meddai. 鈥'Dan ni'm hyd yn oed yn defnyddio ein biniau du oherwydd ry'n ni'n ailgylchu popeth.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai'n poeni fod y biniau lluosog yn cymryd gormod o amser i鈥檞 gweinyddu, gan arwain at wasgaru sbwriel

Yn 么l prif weithredwr y Taxpayers鈥 Alliance, John O鈥機onnell, mae cynghorau yng Nghymru'n "rhoi baich aruthrol ar aelwydydd trwy鈥檙 system gwahanu gwastraff sy鈥檔 aml yn hurt o gymhleth".

Ond dywedodd gr诺p ymgyrchu Cymru鈥檔 Ailgylchu bod peidio gwahanu gwastraff yn golygu bod cynghorau鈥檔 "llai tebygol o allu gwerthu deunyddiau ailgylchu i fusnesau sydd angen deunyddiau ansawdd da i greu cynhyrchion newydd".

Mae Dr Tommaso Reggiani, uwch ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, wedi cynnal ymchwil mewn economeg ymddygiadol.

Tra bod ailgylchu, meddai, yn gallu 鈥測mddangos yn rhad ac am ddim鈥, mewn gwirionedd mae llawer o gostau cysylltiedig.

Maen nhw'n cynnwys costau corfforol, fel dod o hyd i le ar gyfer biniau amrywiol, ond hefyd costau seicolegol fel amser a thensiwn posib o fewn aelwydydd.

鈥淔el bodau dynol, rydym wastad yn tueddu i leihau costau,鈥 meddai.

鈥淢ae biniau niferus yn cynyddu cost cydymffurfio 芒鈥檙 rheolau - gall pobl deimlo braidd yn llethol a'r canlyniad anfwriadol wedyn yw mwy o ddefnydd o鈥檙 bin du.鈥

Fe allai pobl gael eu digalonni ymhellach, ychwanegodd, gan yr elfen o 鈥渄daioni cyffredinol鈥, gan deimlo bod eu hymdrech yn ofer os maen nhw'n gwneud eu gorau i ailgylchu pan fo eraill ddim yn trafferthu.

Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Tommaso Reggiani yn dweud ei bod yn bwysig addysgu pobl am ailgylchu.

Awgrymodd Dr Reggiani er mai dirwyon yw'r ymateb yn aml, gallai gorfodi mwy cadarnhaol ar sail gwobrwyo, fel gostyngiadau yn y dreth gyngor, arwain at ganlyniadau gwell.

Enghraifft dda o hynny, meddai, yw'r cynlluniau ad-dalu poteli, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo, hyd yn oed os ydyn nhw wedi talu am y botel ymlaen llaw.

Ychwanegodd bod angen profi cynlluniau鈥檔 wyddonol, ac addysgu pobl ynghylch ailgylchu o oedran ifanc.

Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent: 鈥淢ae gwahanu eitemau ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn arwain at lefelau heintio is ac o ganlyniad mae鈥檙 deunyddiau'n werth mwy yn y pen draw.鈥

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae sefyllfa ailgylchu Cymru o ganlynad 鈥渃adw deunyddiau ar wah芒n i gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau鈥檙 gwastraff rydym yn ei anfon i鈥檞 losgi ac i safleoedd tirlenwi.鈥