大象传媒

Y cyn-weinidog Lee Waters i adael y Senedd yn 2026

Lee WatersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lee Waters wedi cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 Aelod o'r Senedd Lee Waters wedi cyhoeddi na fydd yn ceisio cael ei ethol yn 2026, gan ddweud ei fod wedi treulio digon o amser mewn gwleidyddiaeth.

Mae Mr Waters wedi bod yn aelod dros Lanelli ers 2016, ac ef oedd y dirprwy weinidog dros yr economi a thrafnidiaeth nes i Vaughan Gething gael ei ethol yn brif weinidog yn gynharach eleni.

Roedd yn ffigwr dadleuol yn ystod y cyfnod hwnnw wrth iddo gyflwyno'r gyfraith a oedd yn gosod terfyn cyflymder o 20mya mewn sawl man.

Wrth ysgrifennu ar wefan LinkedIn dywedodd nad oedd yn cynnig ei enw i gael ei ddewis fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.

Ysgrifennodd: 鈥淓rbyn yr etholiad nesaf fe fydda i wedi treulio degawd llawn yn ein Senedd.

"Dydw i erioed wedi ystyried swydd etholedig yn yrfa, ond yn hytrach yn wasanaeth cyhoeddus.

鈥淩ydw i wedi rhoi 100% i鈥檙 r么l ac wedi gwneud fy ngorau glas fel cynrychiolydd etholaeth ac fel gweinidog.

"Rwy'n ddiolchgar i bobl Llanelli a Chwm Gwendraeth am roi'r cyfle i mi wasanaethu. Mae wedi bod yn fraint wirioneddol, ac yn her enfawr."

Pan wnaeth Mr Waters y cyhoeddiad yn gynharach eleni ei fod yn gadael ei r么l fel gweinidog, dywedodd y byddai hefyd yn gadael X, sef Twitter gynt.

Ysgrifennodd ar y pryd: 鈥淒ros y 15 mlynedd ddiwethaf rydw i wedi treulio gormod o amser ar Twitter.

Ychwanegodd ei fod yn "derbyn pentwr o sylwadau cas hyd yn oed ar y negeseuon mwyaf diniwed.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd arwyddion ffyrdd eu fandaleiddio wrth i'r polisi 20mya ddod i rym

Ym mis Medi 2023 goroesodd Mr Waters bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd a gafodd ei alw gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Astudiodd Mr Waters, o Rydaman, Sir Gaerfyrddin, wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 么l gadael Ysgol Dyffryn Aman.

Ymunodd 芒鈥檙 Blaid Lafur, gan gymryd swydd gydag Ysgrifennydd Cymru ar y pryd Ron Davies yn ei helpu i redeg ei ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru yn 1998 cyn datganoli.

Yna fe ymunodd Mr Waters 芒'r 大象传媒, a bu'n gweithio fel cynhyrchydd newyddion radio am nifer o flynyddoedd.

Symudodd i ITV Cymru, gan ddod yn brif ohebydd gwleidyddol.

Yn 2007 daeth Mr Waters yn gyfarwyddwr yr elusen feicio Sustrans Cymru, sy'n ymgyrchu ar wella seilwaith cerdded a seiclo.

Gadawodd i arwain melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig yn 2013, cyn rhedeg yn llwyddiannus fel ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Llanelli.

Mae Mr Waters yn briod ac mae ganddo ddau o blant, ac mae'n rhannu ei amser rhwng ei gartref ym Mro Morgannwg a'i etholaeth yn Llanelli.