大象传媒

Terfysg Trel谩i: 17 o bobl yn y llys

Trelai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ceir eu rhoi ar d芒n a gwrthrychau, gan gynnwys t芒n gwyllt, eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn

  • Cyhoeddwyd

Mae 17 o bobl wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud 芒'r anhrefn gyhoeddus yn Nhrel谩i yng Nghaerdydd ym mis Mai 2023.

Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trel谩i ar 22 Mai y llynedd ar 么l i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.

Cafodd ceir eu rhoi ar d芒n a gwrthrychau, gan gynnwys t芒n gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r chwith i'r dde: Connor O'Sullivan, Harvey James, Jayden Baston a Jayden Wescott

Y rhai fu'n ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi'u cyhuddo o derfysg (riot) oedd:

  • Lianna Tucker, 18 o Drel谩i

  • Michaela Gonzales, 26 o Drel谩i

  • Jaydan Baston, 20 o Gaerau

  • Harvey James, 18 o'r Tyllgoed

  • Jumana Fouad, 18 o Drel谩i

  • Jordan Webster, 28 o Drel谩i

  • Kieron Beccano, 25 o Sain Ffagan

  • Luke Williams, 30 o Drel谩i

  • Jayden Westcott, 20 o Drel谩i

  • Zayne Farrugia, 24 o Gaerau

  • Kyle Telemaque, 18 o Drel谩i

  • Connor O鈥橲ullivan, 25 o Gaerau

  • Callum O鈥橲ullivan, 23 o Drel谩i

  • Ashdon O鈥橠are, 26 o Drel谩i

  • Jordan Bratcher, 26 o Lanisien

  • Jamie Jones, 23 o Lanrhymni

  • McKenzie Danks, 21 o Gaerau

Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r chwith i'r dde: Zayne Farrugia, Michaela Gonzales, Kyle Telemaque, Jumana Fouad a Luke Williams

Mae McKenzie Danks hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod ar heddwas. Mae'n gwadu'r cyhuddiadau hynny.

Ni wnaeth yr un o'r diffynyddion gyflwyno ple i'r cyhuddiad o derfysg, ac fe gafon nhw oll eu rhyddhau ar fechn茂aeth ddiamod cyn eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Hydref.

Ond fe wnaeth un diffynnydd - Ryan Knight, 19 o Sblot - fethu ag ymddangos yn y llys, ac fe gafodd gwarant ei gyhoeddi ar gyfer ei arestio.

Cyn i鈥檙 gwrandawiad ddechrau, dywedodd y Barnwr Stephen Harmes fod yr achosion yn ymwneud ag anhrefn "o ganlyniad i ddau fachgen yn anffodus yn colli eu bywydau ar eu beic trydan".

鈥淢ae wedi cymryd peth amser,鈥 ychwanegodd.

32 o heddweision wedi'u hanafu

Yn amlinellu eu hachos yn erbyn y diffynyddion, dywedodd Alex Orndal KC ar ran yr erlyniad fod 33 o bobl wedi cael eu hanafu yn yr anhrefn - 32 o heddweision ac un aelod o'r cyhoedd.

Ychwanegodd fod amryw o bethau wedi cael eu taflu at yr heddlu, gan gynnwys cerrig, fframiau gwely a th芒n gwyllt.

Dywedodd fod un heddwas wedi cael ei daro gan "fom petrol", ond na chafodd unrhyw un anafiadau difrifol.

Mae disgwyl i ragor o bobl ymddangos yn y llys ddydd Gwener, wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron gyhuddo 31 o bobl yr wythnos ddiwethaf.

Pynciau cysylltiedig