ý

'Angen llawer o berswâd i godi treth incwm y flwyddyn nesaf'

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Senedd
  • Cyhoeddwyd

Mae ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gweinidogion yn ystyried codi treth incwm y flwyddyn nesaf ond y byddai angen "llawer o berswâd".

Dywedodd Mark Drakeford y byddai codi’r gyfradd sylfaenol 20c yn dod ag arian “sylweddol” i mewn ond yn taro’r rhai ar incwm cymedrol gan fod trothwyon treth wedi’u rhewi tan 2028 a bod “mwy a mwy o bobl” yn talu’r dreth wrth i gyflogau godi gyda chwyddiant.

Dywedodd bod "menyw ifanc" yn ei etholaeth yng Ngorllewin Caerdydd wedi dweud wrtho nad oedd hi "wedi bwyta ers tridiau" oherwydd bod talu ei bil treth cyngor "wedi ei gadael heb ddim".

Dywedodd Drakeford fod gweinidogion yn edrych ar dreth incwm bob blwyddyn ond ei fod yn pryderu am y rhai "sydd ar gyrion ymdopi, ac weithiau ddim yn ymdopi".

Roedd y cyn-brif weinidog Drakeford, a benodwyd yn ysgrifennydd cyllid yn gynharach y mis hwn gan y prif weinidog newydd Eluned Morgan, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd cyn cyllideb Llywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr.

Mae wedi dal y portffolio cyllid yn flaenorol, a bu hefyd yn weinidog iechyd.

O ran treth incwm, dywedodd wrth y pwyllgor "byddwn yn edrych arno wrth gwrs, fel rydym bob amser yn ei wneud, mae'n lifer pwysig sydd gan Lywodraeth Cymru".

"Yn y broses gyllidebol heb os bydd dadl yn y Cabinet ynglŷn ag a ddylen ni newid cyfraddau treth incwm Cymru ai peidio," meddai.

"Mae yna bob blwyddyn, yn fy mhrofiad i, yn enwedig y blynyddoedd anoddaf.

“Ond yr unig ffordd y gallwch chi godi symiau sylweddol o arian ar gyfer treth incwm yng Nghymru yw trwy gynyddu’r gyfradd sylfaenol.

"Nid yw'r cyfraddau ychwanegol ac uwch yn dod ag unrhyw beth tebyg i swm o arian y gallech chi ei ystyried yn wirioneddol ddefnyddiol i chi ym mhroses y gyllideb.”

'Ddim wedi bwyta ers tridiau'

Dywedodd Mark Drakeford, o ran y gyfradd sylfaenol, fod yna broblem gyda'r hyn a elwir yn "llusgiad cyllidol", lle mae cyflogau'n codi dros y blynyddoedd gyda chwyddiant a mwy o bobl yn cael eu llusgo i dalu treth incwm.

"Byddwch yn talu treth incwm ar incwm o £12,500," meddai.

Disgrifiodd "achos etholaeth a ddaeth i'm ffordd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, o fenyw ifanc sy'n gweithio, sy'n gwneud gwaith pwysig iawn, ond lle mae ei gallu i dalu ei biliau o'i hincwm cymedrol iawn, ychydig y tu hwnt i'w gallu i reoli".

"Dyma berson cyfrifol iawn. Roedd ei llythyr ataf yn dweud nad oedd hi wedi bwyta ers tridiau oherwydd ei bod wedi talu ei bil treth cyngor, a bod hynny wedi ei gadael heb ddim," meddai.

“Dyna’r person sydd gen i yn fy mhen pan rydyn ni’n sôn am godi cyfraddau treth incwm, nid y bobl sy’n gallu gwneud hynny ac a fyddai eisiau gwneud cyfraniad mwy ond y bobl sydd ar ymylon ymdopi ac weithiau ddim yn ymdopi".