Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G诺yl yn dod 芒 gwaith Morfydd Llwyn Owen gartref i Bontypridd
Dros benwythnos 11-13 Hydref mae g诺yl newydd yn cael ei chynnal ym Mhontypridd a Threfforest i ddathlu gwaith a bywyd y gantores a'r gyfansoddwraig lleol Morfydd Llwyn Owen, dros ganrif ers iddi farw yn boenus o ifanc.
Gobaith yr 诺yl gymunedol yw i gyflwyno ei cherddoriaeth i gynulleidfa newydd, ac i ddathlu ei thalentau yn ei milltir sgw芒r.
Ond pwy oedd hi?
O Drefforest i Lundain
Cafodd Morfydd Llwyn Owen ei geni yn Nhrefforest ger Pontypridd ar 1 Hydref 1891 i William a Sarah Jane Owen, a oedd eu hunain yn gerddorol. Dangosodd dalent cerddorol yn ifanc; roedd hi'n chwarae鈥檙 piano yn bedair oed ac wedi dechrau cyfansoddi yn chwech oed.
Cafodd ei gwaith cyntaf ei gyhoeddi pan oedd hi'n 17 oed, sef emyn-d么n o'r enw Trefforest.
Aeth Morfydd i astudio cerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yna yn Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, ble astudiodd gyfansoddi a chanu. Cafodd yrfa ddisglair yn y coleg yn Llundain, gan ennill nifer o wobrau a medalau am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Charles Lucas, y rhuban glas am gyfansoddi.
Cyfansoddwr toreithiog
Yn Llundain roedd yn troi mewn cylchoedd Bohemaidd oedd yn cynnwys D.H. Lawrence, Ezra Pound a'r Tywysog Felix Yusupov o Rwsia, oedd yn rhan o'r cynllwyn i ladd Rasputin.
Ond cafodd hefyd gefnogaeth a chroeso cynnes gan gapel Cymraeg Charing Cross a chymdeithas ehangach Cymry Llundain, gan gynnwys canu o flaen y Prif Weinidog o Gymru, David Lloyd George.
Ynghyd 芒 bod yn gantores mezzo-soprano ddawnus, roedd hi鈥檔 gyfansoddwr toreithiog.
Cyfansoddodd rhyw 180 o ddarnau gwahanol o gerddoriaeth yn ystod ei hoes, a oedd yn cynnwys emyn-donau, cerddoriaeth siambr, gweithiau corawl a cherddorfaol, unawdau piano a chaneuon, ac roedd llawer o'i gwaith wedi eu hysbrydoli gan dirluniau ac alawon gwerin Cymru.
Roedd hi'n gwneud gwaith arloesol gyda Y Fonesig Ruth Herbert Lewis i gofnodi caneuon gwerin Cymraeg; gwaith wnaeth sicrhau fod rhai o'n halawon ddim wedi mynd yn angof.
Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mewn alawon traddodiadol Rwsiaidd. Fe lwyddodd i gael Cymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru i astudio yn Rwsia, ond yn anffodus roedd yn amhosib teithio yno yn ystod y Rhyfel Mawr.
Galar a cholled
Yn 1917, priododd Morfydd y meddyg a'r seicdreiddiwr Ernest Jones mewn seremoni gyfrinachol, wythnosau yn unig ar 么l cwrdd.
Roedd ei gyrfa fel cantores wedi dechrau prysuro erbyn hynny - perfformiodd yn Eisteddfod Genedlaethol 'Y Gadair Ddu' ym Mhenbedw yn 1917 - ond gan nad oedd Ernest yn awyddus i鈥檞 wraig ganu ar lwyfannau cyhoeddus, dechreuodd berfformio'n llai rheolaidd.
Llai na dwy flynedd wedi鈥檙 briodas roedd wedi marw, a hynny ar 7 Medi 1918, ychydig wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 27 oed.
Roedd galaru mawr am farwolaeth y cerddor ifanc - bywyd a oedd wedi cael ei dorri mor fyr - gyda nifer yn galaru hefyd am y gerddoriaeth oedd ddim eto wedi cael ei chyfansoddi ganddi.
Sylw haeddiannol
Un sy鈥檔 cymryd rhan yn yr 诺yl yw鈥檙 hanesydd a churadur Dr Rhian Davies, sydd wedi astudio gwaith y gyfansoddwraig ers degawdau.
Mae camp gerddorol Morfydd Llwyn Owen fel cyfansoddwraig a pherfformiwr, ei phryd 芒'i gwedd trawiadol a'i phersonoliaeth fywiog, yn ogystal 芒鈥檌 marwolaeth trasig wedi cyfuno i sicrhau ei bod yn cael ei chofio fel "gobaith mawr coll" cerddoriaeth Gymreig, meddai Dr Davies.
鈥淗yd yn oed fel myfyriwr isradd, roedd yna gynnwrf yngl欧n 芒 Morfydd yn y papurau newydd fel yr un mwyaf addawol o鈥檙 to newydd o gyfansoddwyr a oedd yn cael eu hyfforddi yng Nghaerdydd.
鈥淧arhaodd ei llwyddiant yn yr Academi, gydag adolygiadau gwych o鈥檌 chyfansoddiadau yn dilyn perfformiadau mewn ystafelloedd perfformio fel Wigmore Hall, a lleoliadau llawer mwy fel Royal Albert Hall a London Palladium.
鈥淢ae gwaith lleisiol a cherddorfaol Morfydd yn arbennig o bwysig. Mae caneuon fel I Wyryf y Gofidiau a Gweddi y Pechadur 鈥 a gafodd eu cyfansoddi ganddi yn 20 a 21 oed 鈥 yn glasuron na fydd yn gadael y repertoire, ond mae yna nifer o berlau eraill hefyd. Roedd hi鈥檔 hyfryd cael clywed rhai ohonyn nhw鈥檔 cael eu canu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
鈥淓rs i mi atgyfodi Morfa Rhuddlan 鈥 cerdd d么n Morfydd ar gyfer cerddorfa lawn - gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒 yng Ng诺yl Gregynog yn 2014, mae鈥檙 gerddorfa hefyd wedi chwarae ei Nocturne yn y 大象传媒 Proms yn 2018.
鈥淢ae diddordeb ryngwladol wedi bod yn ei gwaith yn ddiweddar, gyda pherfformiadau a darllediadau o鈥檌 chyfansoddiadau wedi bod yn Ewrop, Mecsico, Yr Ariannin, Awstralia, UDA a Chanada.
鈥淵n yr 诺yl, bydd modd clywed ystod o waith Morfydd 鈥 yn ganeuon, cerddoriaeth gorawl, siambr a phiano 鈥 oll yn rhad ac am ddim, gan fod y trefnwyr yn awyddus i ddod 芒 Morfydd gartref a dathlu ei gwaddol ysbrydoledig o fewn ei chymuned ei hun.鈥
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi yn 2018.