Gemau Olympaidd: Jade Jones allan yn rownd gyntaf y Taekwondo

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Jade Jones wedi colli yn y rownd gyntaf i Miljana Reljikj o Ogledd Macedonia yn y Gemau Olympaidd ym Mharis

Mae'r cyn-bencampwr Taekwondo Jade Jones wedi colli yn y rownd gyntaf yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Fe gollodd y Gymraes o'r Fflint i Miljana Reljikj o Ogledd Macedonia ddydd Iau.

Mae'r canlyniad o ddwy rownd i un i Reljikj yn adran -57kg y merched yn golygu na fydd y Gymraes yn gallu ychwanegu aur arall at ei theitlau Olympaidd yn 2012 a 2016.

Roedd hi'n bosib y gallai Jones frwydro ar gyfer y fedal efydd yn y pendraw pe bai Reljikj yn cyrraedd y rownd derfynol, ond fe gafodd hi ei threchu yn rownd yr wyth olaf.