Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
S茂on am ddyfodol Wylfa yn achosi 'rhagor o ansicrwydd'
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Newyddion S4C
Mae adroddiadau bod Llywodraeth y DU yn adolygu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr ar safle Wylfa yn Ynys M么n yn achosi rhagor o "ansicrwydd" i gymunedau, yn 么l yr Aelod Seneddol lleol.
Dros y penwythnos roedd s么n bod yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Milliband wedi galw ar swyddogion i adolygu鈥檙 cynlluniau mewn ymdrech i gyflymu鈥檙 broses o gynhyrchu rhagor o ynni.
Yn 么l Llinos Medi AS, mae angen "sicrwydd a phendantrwydd" i weithwyr a chymunedau鈥檙 ynys yngl欧n 芒 dyfodol y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU nad oes penderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol y safle hyd yn hyn.
Ym mis Mai eleni fe gyhoeddodd llywodraeth geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr, gyda鈥檙 llywodraeth yn prynu鈥檙 safle yn gynharach yn y flwyddyn.
Ond yn 么l adroddiadau yn y Telegraph dros y penwythnos. mae Ed Milliband wedi gofyn i weision sifil adolygu鈥檙 cynllun gyda s么n ei fod yn ffafrio adweithyddion llai allai gynhyrchu ynni yn gynt.
鈥淢a鈥檔 fwy o ansicrwydd鈥, meddai Llinos Medi AS.
鈥淒yma mae trigolion yr ynys wedi byw efo ers dros ddegawd a dyna pam dwi鈥 'di bod yn erfyn ar y llywodraeth i roi sicrwydd i ni.
鈥淏eth bynnag ydi鈥檙 penderfyniad, 'da ni angen gwybod... os ydyn nhw am fynd am orsaf fechan neu am orsaf fawr ar yr ynys.
鈥'Da ni 'di cael yr oedi ac yn byw drwy boen yr oedi ers degawd鈥.
Yn 2019 fe gefnodd cwmni Hitatchi ar eu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr gan ddweud bod diffyg cyllid ac ymrwymiad gan Lywodraeth Prydain ar y pryd a hynny鈥檔 dod a鈥檙 gobaith o filoedd o swyddi i ben.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd Sefydliad y Diwydiant Niwclear yn y Deyrnas Unedig ffigyrau newydd yn dangos bod llai o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y sector niwclear nag yn 2014.
Roedd 40% yn llai yn gweithio yn y sector yng Nghymru o gymharu 芒 deng mlynedd yn 么l ac etholaeth Ynys M么n wedi profi鈥檙 gostyngiad fwyaf dros y cyfnod hwnnw.
Dros y ffin yn Lloegr roedd cynnydd o 65% yn y nifer oedd yn gweithio yn y sector niwclear dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.
Yn 么l yr Athro Catrin Mair Davies o Goleg Imperial Llundain, mae鈥檙 angen am ynni yn fawr.
鈥淢ae Wylfa yn le addas i godi atomfa fawr a hefyd yn le addas i godi rhai bach鈥, meddai.
鈥淢ae angen lot o b诺er trydan arnom ni o ddulliau di-garbon a ni angen nid jest un mawr yn wylfa ond rhai mawr neu lot o rai bach ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.
鈥淒oes dim sicrwydd ynni wedi bod 鈥榙a ni ers sbel鈥.
Wrth ymateb i鈥檙 honiadau fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain nad oedd unrhyw benderfyniad ar y prosiectau na chwaith y technolegau fydd yn cael eu darparu ar draws safleoedd.
鈥淔ydd y penderfyniadau yn cael eu cyhoeddi maes o law," meddai'r llefarydd.