大象传媒

'Wnei di ddim cyrraedd 30 os wyt ti'n dal i yfed'

Disgrifiad,

Profiad Ellie McIntyre o drawsnewid ei bywyd ar 么l cyfnod o ddibynnu ar alcohol

  • Cyhoeddwyd

Yfed trwy ei harddegau a mynd i rehab yn ei hugeiniau cynnar - dyma oedd realiti Ellie McIntyre.

Mae Ellie, 26 o'r Felinheli, wedi bod yn sobor ers bron i bedair blynedd, ac mae hi nawr yn gweithio gyda phobl ifanc bregus sy'n ddigartref neu'n cael trafferth cadw tenantiaeth.

Mae ffigyrau newydd a roddwyd i'r 大象传媒 gan elusen yn dangos bod naw o bob 10 o yfwyr yng Nghymru yn defnyddio o leiaf un dechneg i gymedroli eu hyfed.

Mae'r ystadegau'n dangos bod cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y bobl ifanc 18-34 oed sydd byth yn goryfed, gyda mwy yn troi at "sobrwydd ysbeidiol" lle maen nhw'n rhoi'r gorau i yfed, ond nid yn gyfan gwbl.

Ffynhonnell y llun, Ellie McIntyre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ellie yn dweud bod ei bywyd wedi trawsnewid yn llwyr ers troi'n sobor

Fe wnaeth Ellie ddechrau yfed pan oedd hi yn ei harddegau, ond doedd hi heb sylwi ei fod yn broblem tan yn ddiweddarach.

"'Nes i ddechrau mynd i barti tai pobl - i fi oedd hwnna yn beth reit normal i berson ifanc 'neud," meddai.

"Ond 'nes i sylwi, pob tro o'n i eisiau mynd step yn bellach na phawb arall - o'n i ddim eisiau i'r parti stopio."

Pan aeth Ellie i'r brifysgol ym Mangor, dywedodd fod yfed alcohol a mynd mas yn rhywbeth oedd yn mynd law yn llaw.

"Nes i weld mynd i brifysgol fel rhyw ryddid - oedd neb yn edrych a neb yna i gwestiynu," meddai.

"O sb茂o n么l r诺an, o'n i yn mynd step yn bellach na phawb arall, o'n i byth isio mynd adra a oedd yr alcohol mor rhad."

'Cuddio pob potel'

Yn y cyfnod yma, roedd yfed Ellie yn mynd fwy yn rheolaidd.

"O'n i'n byw adra efo mam adeg hynny - o'n i tua 19, 20 oed.

"Doedd neb yn gwybod faint o'n i'n yfed o gwbl, o'n i'n 'neud yn si诺r bo' fi'n cuddio pob potel.

Dywedodd ei bod hi'n cuddio poteli alcohol o dan ei gwely er mwyn ceisio cuddio'r gwir, ond cafodd ei gweld gan ei mam yn cael gwared arnynt.

"Nes i drio mynd 芒 nhw i bin efo neb yn sylwi, ond yn amlwg oedd mam wedi sylwi.

"Ti methu cuddio rhywbeth fel 'na - mae鈥檔 dangos."

Ffynhonnell y llun, Ellie McIntyre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y poteli roedd Ellie wedi cuddio o dan ei gwely tra'n ceisio cuddio ei hyfed

Dywedodd Ellie ei bod hi yn cofio sawl peth a wnaeth iddi sylwi bod angen help arni.

"Oedd rhaid i fi stopio gweithio, o'n i yn colli pawb o gwmpas fi," meddai.

"Y peth gwaetha i fi yn sb茂o n么l, oedd dim ots gen i 'mod i'n brifo pobl o gwmpas fi."

Ond dywedodd Ellie ei bod wedi cymryd sgwrs gyda meddyg i wneud iddi ailasesu ei blaenoriaethau.

"O'n i yn yr ysbyty a wnaeth doctor ddweud wrtha i, 'os ti ddim yn stopio hwn r诺an nei di ddim cyrraedd 30' - o'n i'n yfed o leiaf litr o fodca yn y diwedd," meddai.

"O'n i wedi cyrraedd rock bottom, o'n i'n yfed trwy'r dydd bob dydd, a methu deall sut i fyw heb yfed."

Ffynhonnell y llun, Ellie McIntyre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ellie bod hi yn teimlo'n "reit unig" cyn dweud ei bod hi angen help

Cafodd Ellie atgyfeiriad gan y meddyg "ar ddamwain", meddai.

"Es i yna am boen yn y cefn, a wnaeth o ofyn 'wyt ti鈥檔 yfed alcohol?' a nes i ddweud faint."

Cafodd Ellie atgyfeiriad i uned camddefnyddio sylweddau Bron Castell yng Nghaernarfon.

"O'n i yna am ddwy neu dair blwyddyn, ac un diwrnod nes i decstio'r ddynes oedd yn cefnogi fi a dweud 'dwi angen help'."

"O fewn dwy wythnos i hynny, 'naeth hi roi'r referal mewn i rehab ym Manceinion."

'Fyswn i ddim yma heddiw'

Ar 么l teimlo'n fregus yno i ddechrau, yn y pendraw dywedodd fod bod yno yn "rhyddhad".

"O'n i yn 23 yn mynd i rehab, a pan nes i gyrraedd ges i panic, a dweud 'mod i ddim am aros a dwi ddim angen bod yma," meddai Ellie.

"Ond dwi mor falch nes i aros, oherwydd nes i sylwi bo' fi angen bod yno.

"O'n i yna am bedwar mis, a fedra i ddweud yn onest, pe bawn i ddim wedi mynd yno, fyswn i ddim yma heddiw".

Mae digwyddiadau di-alcohol yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU, yn enwedig gyda myfyrwyr.

"Sobrwydd ysbeidiol" yw'r term newydd ymhlith y genhedlaeth iau sydd am roi'r gorau i yfed ar adegau, ond nid yn gyfan gwbl.

Chris Evans, 23 o Aberaeron sy'n cynnal digwyddiadau Drink n Draw yng Nghaerdydd.

Mae wedi ymuno 芒 chorff FOR Cardiff, i lansio ymgyrch "Fy Niod, Fy Newis".

Y nod yw hyrwyddo dewisiadau amgen i weithgareddau traddodiadol gyda'r nos sy'n canolbwyntio ar yfed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er nad yw Chris yn sobor ei hun, mae'n deall pam fod pobl yn gwneud y dewis i beidio ag yfed

"Rwy'n dod o dref fechan ac yn dod i Gaerdydd - mae'n hawdd mynd i mewn i ddiwylliant o yfed alcohol," meddai Chris.

"Wnes i ddim hyd yn oed yfed llawer nes dod i'r Brifysgol, mae'n hawdd cael dy sgubo i fyny."

Er nad yw Chris yn sobr, mae'n deall pam fod pobl yn gwneud y dewis i beidio ag yfed.

"Doedd myfyrwyr rhyngwladol sy'n methu neu'n dewis peidio ag yfed alcohol ddim hyd yn oed wedi croesi fy meddwl," meddai.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i roi rhywle diogel i bobl gymdeithasu ac i fod yn hyderus i fod yn chi'ch hun."

Ffynhonnell y llun, Dr Will Mackintosh
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Will Mackintosh yn awyddus i rybuddio am effeithiau tymor byr goryfed, yn ogystal 芒'r rhai tymor hir

Dywedodd Dr Will Mackintosh, meddyg teulu yn Sancl锚r, fod pobl iau bellach yn fwy ymwybodol o'r risgiau yn ymwneud ag alcohol.

鈥淵n draddodiadol, pan fyddan nhw鈥檔 meddwl am gamddefnyddio alcohol mae pobl h欧n yn meddwl am glefyd yr afu, ond mae pobl iau yn fwy ymwybodol o鈥檙 gwahanol niwed y gall alcohol ei gael arnoch chi,鈥 meddai.

Mae Dr Mackintosh hefyd eisiau tynnu sylw at risgiau goryfed, nid yn unig yn y tymor hir ond yn y tymor byr.

鈥淵 prif beth i mi yw, rwy鈥檔 pryderu y gall pobl sy鈥檔 cymryd rhan mewn goryfed hefyd deimlo鈥檔 fyrbwyll a mentro.鈥

Ffynhonnell y llun, Ellie McIntyre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ellie (chwith) nawr yn helpu pobl ifanc bregus

Erbyn hyn, mae Ellie yn sobor ers bron i bedair blynedd ac yn dweud bod ei bywyd wedi newid yn llwyr.

"Mae bywyd wedi 'neud full 360," meddai.

Mae'n dweud ei bod hi'n "lwcus" ei bod hi nawr yn gweithio i gefnogi pobl ifanc bregus sy'n ddigartref neu'n cael trafferth cadw tenantiaeth.

"Dwi'n gallu defnyddio profiad fi i helpu nhw," meddai Ellie.

"I unrhyw berson sydd yn poeni am alcohol, fedra i ond dweud wrthoch chi, mae 'na ochr arall - mae 'na ffordd allan.

"Mae bywyd yn parhau heb alcohol - fedra i fynd allan r诺an yn joio fy hun heb yfed."

Os yw'r materion yn y stori hon wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.

Pynciau cysylltiedig