Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
RNLI Pwllheli i wasanaethu eto wedi 'methiant difrifol'
Bydd bad achub 'D-class' RNLI Pwllheli yn gwasanaethu unwaith eto am gyfnodau cyfyngedig o ddydd Mercher ymlaen.
Fe gaeodd yr orsaf ym mis Chwefror yn dilyn 鈥渕ethiant difrifol鈥 yn y berthynas rhwng aelodau鈥檙 criw yno.
Dywedodd yr RNLI nad oedd modd cynnal y gwasanaeth ym Mhwllheli oherwydd "anghytgord parhaus".
Mae'r criw bellach wedi bod yn ailhyfforddi gydag ymarferion ac asesiadau rheolaidd yn cael eu cynnal i sicrhau bod gwirfoddolwyr ar eu hanterth yn eu sgiliau.
'Ffantastig'
Mae hyfforddiant ac asesiadau yn parhau er mwyn gobeithio dychwelyd i wasanaeth llawn yn fuan.
Mae rheolwyr yr RNLI wedi canmol y criw am eu hymroddiad, eu penderfyniad a'u gwytnwch i ail sefydlu'r orsaf, ac yn hyderus y bydd y 'D-class' yn gwbl weithredol yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Caroline Jones, un o'r gwirfoddolwyr ar y lan yn RNLI Pwllheli: 鈥淢ae鈥檔 deimlad hollol wych gallu troi鈥檙 pagers yn 么l ymlaen a dychwelyd at yr hyn rydym wedi鈥檌 hyfforddi i鈥檞 wneud.
鈥淒ros yr wythnosau diwethaf, mae鈥檙 criw wedi rhoi llawer iawn o amser ac ymroddiad i sicrhau ein bod ni鈥檔 barod i fynd yn 么l i achub bywydau.
鈥淩ydyn ni'n gwasanaethu am gyfnodau cyfyngedig i ddechrau - sy鈥檔 newyddion gwych, gan ein bod ni gam yn nes at ddychwelyd i wasanaethu yn llawn.鈥
Dywedodd Chris Gaskin, rheolwr achub bywydau yr ardal: 鈥淢ae ymroddiad ac ymrwymiad y criw ym Mhwllheli i鈥檞 ganmol.
鈥淔e ategodd dwy ran o dair o鈥檙 criw eu hymrwymiad i symud ymlaen gyda鈥檙 orsaf ac rydym hefyd wedi gweld ymgyrch recriwtio hynod lwyddiannus yn y gymuned.
鈥淢ae yna ambell gam arall i'w cymryd, ond dyma鈥檙 cam cyntaf mewn gwirionedd i ddychwelyd y 'D-class' i wasanaeth llawn, sy鈥檔 lle cyffrous i fod.鈥