大象传媒

Dyn yn euog o dreisio menyw ddigartref yng Nghaerdydd

Liam Stimpson
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 24 oed wedi ei gael yn euog o dreisio menyw ddigartref yng Nghaerdydd.

Cafwyd Liam Stimpson o Gaerdydd yn euog hefyd o achosi person i ymgymryd 芒 gweithred rywiol heb gydsynio ac achosi anaf corfforol difrifol bwriadol.

Clywodd yr achos bod y fenyw 40 oed wedi cael ei dyrnu, ei chicio, ei stripio a'i threisio ddwywaith o dan bont yn agos at brif orsaf rheilffordd y ddinas yn oriau m芒n 27 Rhagfyr y llynedd.

Gwelodd y rheithgor fideo o'r fenyw yn noeth ac wedi cael ei churo yn ymbil ar Stimpson i stopio.

Mewn un fideo, roedd ei hwyneb wedi chwyddo ac yn gwaedu - roedd ei llygad dde ar gau yn llwyr.

Fe welodd y rheithgor hefyd luniau CCTV o'r fenyw yn dianc ac yn rhedeg i gyfeiriad Stryd y Santes Fair tua 04:45.

Cafodd ei gweld yn cael ei herlid, ei dyrnu a'i chicio tra ar y llawr.

Dywedodd Nicola Powell ar ran yr erlyniad: "Fe wnaeth ei churo hi, ei bychanu a'i diraddio am ei bleser rhywiol ei hun."

Clywodd y llys fod Liam Stimpson yng nghanol y ddinas ar Ddydd San Steffan yn dathlu ei ben-blwydd pan wnaeth o gyfarfod y fenyw, oedd yn ddigartref.

Roedd Stimpson wedi gwadu'r cyhuddiadau, gan honni bod y fenyw wedi cydsynio i gael rhyw ac wedi gofyn iddo recordio'r digwyddiad fel rhan o chwarae r么l rywiol.

Roedd Stimpson yn crio wrth i'r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniad yn Llys y Goron Caerdydd.

Trodd at ei gariad a'i rieni yn yr oriel gyhoeddus a dweud, "wnes i ddim, dwi'n dy garu di", cyn cael ei arwain i ffwrdd.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

'Cyfnod sylweddol dan glo'

Dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins fod y troseddau mor ddifrifol dim ond dedfryd o garchar y gellir ei gyfiawnhau.

Ychwanegodd y dylai ddisgwyl cyfnod sylweddol dan glo.

Fe wnaeth y barnwr hefyd dalu teyrnged i'r rheithgor, oedd yn eu dagrau wrth i'r rheithfarn gael ei darllen.

"Rydych chi wedi gorfod clywed am amgylchiadau annymunol iawn. Dyma fywyd a gwaith y llys," meddai

"Rydyn ni'n ei weld o ddydd i ddydd, ond rhaid i ni byth anghofio'r effaith mae'n ei gael arnoch chi."

Pynciau cysylltiedig