Merch yn ei harddegau wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol

Ffynhonnell y llun, Google Maps

Disgrifiad o'r llun, Bu Clwb Rygbi Yr Aman ar gau ddydd Sadwrn ac fe gafodd gemau yno eu gohirio

Mae merch yn ei harddegau wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol yn Rhydaman dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw yn dilyn adroddiad o argyfwng meddygol yn y dref nos Wener.

Cafodd merch yn ei harddegau ei chludo i'r ysbyty ar 么l cael ei tharo'n wael, ond bu farw yn oriau m芒n fore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod achos y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd, a bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r crwner.

Cadarnhaodd Clwb Rygbi Yr Aman fod y lle ar gau ddydd Sadwrn a bod gemau wedi eu gohirio.