Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pwllheli: Menter i brynu Gwesty'r T诺r wedi codi 拢400,000
- Awdur, Ifan Ywain a Beth Williams
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae menter gymunedol ym Mhwllheli wedi llwyddo i godi 拢400,000 i brynu hen westy yng nghanol y dref.
Daeth y rhan helaeth o'r cyfraniadau yn y diwrnodau olaf, meddai'r fenter, diolch i gefnogaeth "anhygoel".
Mae Gwesty'r T诺r wedi bod ar gau ers dechrau cyfnod Covid, ac roedd 'na bryder yn lleol yngl欧n ag effaith hynny ar y gymuned.
Cafodd Menter y T诺r ei sefydlu ym mis Awst y llynedd, gyda'r nod o ddatblygu'r safle, a'i ailagor fel tafarn, gwesty, bwyty a gofod cymunedol.
Dywedodd Carys Owen, cadeirydd y fenter, fod "prosiect anferth o'u blaenau, ond bod 'na botensial mwy fyth".
'Bywyd newydd i'r dref'
Dywedodd Ms Owen wrth 大象传媒 Cymru Fyw ei bod yn "gobeithio gweld y prosiect yn dod a bywyd newydd i Bwllheli".
"Mae o'n dangos dydi bod modd gwneud y pethau 'ma, bod 'na werth mewn cymryd risg weithiau, bod eisiau i ni drio," meddai.
Roedd y fenter wedi cael blwyddyn gan y perchennog presennol i gasglu'r holl arian, gyda'r dyddiad cau ar 16 Tachwedd.
Y bwriad oedd rhoi cyfle i bobl brynu cyfranddaliadau unigol - gyda phob aelod wedyn yn cael pleidleisio ar benderfyniadau yn ymwneud 芒'r cynllun yn y dyfodol.
Fe lwyddodd y fenter i godi 拢60,000 mewn 12 awr er mwyn talu blaendal am yr adeilad, ond gyda llai na phythefnos i fynd tan y dyddiad cau
Yn y dyddiau yn arwain at y dyddiad cau, mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, yn 么l Ms Owen.
"Mae'r we wedi bod mor brysur, mae hi wedi bod yn wych yma. Dwi wedi bod yn siarad efo lot o bobl busnes, gyda rhai o'r rheini wedi cyfrannu lot fawr o bres.
"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Ma' faint o bobl sydd wedi rhoi 拢100, ac yn ymddiheuro yn dweud mai 'ond hyn fedra i roi', ond eu bod nhw eisiau cyfrannu mwy... mae'r cannoedd bach yna yn bwysicach na'r miloedd mewn ffordd."
Ychwanegodd bod mentrau cymunedol fel hyn yn aml yn gweld cynnydd sydyn mewn cyfraniadau wrth agos谩u at y dyddiad cau.
"Yn hanesyddol, sb茂wch chi ar fenter y Plu, neu Ty'n Llan, ma' pobl eisiau rhoi, ond maen nhw'n dueddol o anghofio, neu wthio fo'n bellach lawr y lein... ond os oes 'na ddyddiad pendant, wedyn mae 'na fwy o frys ella."
Er bod y fenter wedi cadarnhau eu bod nhw wedi codi dros 拢400,000, doedd dim modd rhannu ffigwr pendant am y tro gan eu bod yn dal i brosesu'r taliadau.
Be nesa?
Y bwriad nawr ydy mynd ati i wneud cynlluniau cadarn ar gyfer dyfodol y gwesty, yn ogystal 芒 gwneud ceisiadau am wahanol grantiau.
"Gan nad ydyn ni angen benthyciad ragor, does dim pwysau i orfod agor ar frys er mwyn talu'r llog," meddai Ms Owen.
"Mae'r pres ar gyfer y pryniant i gyd wedi dod drwy'r fenter, felly fedrwn ni gymryd mwy o amser i eistedd lawr a mynd trwy'r cynlluniau yn iawn.
"Fyddwn ni'n eistedd i lawr efo pensaer i wneud cynlluniau pendant, yn dechrau prisio elfennau o'r gwaith, a bydd 'na gyfarfod wythnos nesa i drafod grantiau, a be all weithio i ni."
Ychwanegodd bod lot fawr o waith i'w wneud cyn y bydd modd agor Gwesty'r T诺r unwaith eto ac mai "dechreuad ydy hyn, base camp mewn ffordd, ac mae 'na fynydd mawr iawn o'n blaenau ni".