大象传媒

Sut mae sicrhau mwy o reolwyr busnes benywaidd?

Rachael Flanagan, yn gwisgo coch, yn ei swyddfa lliwgar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffactorau fel oriau hyblyg a gofal plant sy'n allweddol, medd Rachael Flanagan, os am helpu menywod ffynnu yn y byd busnes

  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwella鈥檙 gefnogaeth i fenywod allu dod yn arweinwyr ym myd gwaith, yn 么l pennaeth cwmni glanhau blaenllaw.

Dywedodd Rachael Flanagan, wnaeth sefydlu Mrs Buck茅t, bod angen cynnig oriau gwaith hyblyg a gwella argaeledd gofal plant er mwyn cynyddu nifer y rheolwyr benywaidd.

Yn 么l ymchwil y gr诺p busnes CBI Cymru, mae gwahaniaethu a thuedd anymwybodol (unconcious bias) yn rhwystro menywod rhag symud i fod yn rheolwyr, ac y byddai cyfleusterau gofal plant mwy fforddiadwy yn gwella gyrfaoedd.

Mae'r CBI yn dadlau y gall helpu mwy o fenywod i gyflawni eu potensial, a dod yn arweinwyr, gael "effaith sylweddol" ar economi Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwmni Mrs Buck茅t yn cefnogi 400 o staff, gyda 65% yn fenywod

Mae Rachael Flanagan eisiau chwalu ystrydebau'r byd glanhau, a newid agweddau tuag at fenywod yn y gweithle.

"Mae'r dyddiau wedi mynd lle mae rhywun yn plygu dros fop," meddai sylfaenydd Mrs Buck茅t, y cwmni glanhau a gychwynnodd ar 么l iddi fethu arholiad busnes Lefel A.

Menywod yw mwyafrif ei staff, ac mae hi am gael gwared ar y rhwystrau sy'n eu hwynebu mewn llawer o fusnesau eraill.

Cyhoeddodd CBI Cymru data yn dangos fod agweddau negyddol yn y gweithle yn dal menywod yn 么l.

'Diwylliant busnes yn ei gwneud hi'n anodd i fenywod'

I Rachael Flanagan, mae鈥檔 golygu cefnogi menywod a allai ddioddef o ddiffyg hyder, i drio am swyddi fel rheolwyr yn y busnes.

"Rwyf wedi cael rheolwyr sydd wedi gweithio gyda fi, a dwi wedi cael sawl sgwrs gyda nhw ar yr ymylon i ddweud, 'Wir i chi, fe allwch chi wneud hyn'."

Ond, meddai, mae angen i'r dynion yn y swyddfa hefyd fod yn rhan o'r newid mewn agweddau.

"Dylai hi ddim fod fyny i fenywod yn unig i chwalu drwy鈥檙 holl rwystrau gwahanol," meddai.

"Dylai'r dynion yn yr ystafell sylweddoli eu bod nhw eu hunain yn cau cyfleoedd, bod rhywbeth am y diwylliant busnes sy'n ei gwneud hi'n anodd i fenywod."

Ffynhonnell y llun, Mrs Buck茅t

Mae'r gwaith ymchwil gan CBI Cymru a Phrifysgol De Cymru yn dangos yr heriau sy'n wynebu menywod ym myd gwaith.

"Ni allwn wadu bod gwelliannau wedi'i gwneud," meddai prif swyddog pobl y CBI, Asha Musoni.

"Ond mae rhwystrau sefydliadol a diwylliannol yn dal i fodoli.

"Mae'r rhwystrau hynny yn ymwneud 芒 gweithio hyblyg, mynediad at ofal plant digonol, tueddiad yn erbyn merched yn y gwaith, diffyg cyfleoedd mentora a diffyg cefnogaeth i鈥檙 tadau sy鈥檔 gweithio."

Roedd y data yn dangos y gwahaniaeth rhwng profiadau dynion a merched yn y gweithle.

Dim ond 11% o ddynion, o gymharu 芒 48% o fenywod, sy'n credu eu bod yn cael anwybyddu oherwydd eu rhyw pan fydd cyfleoedd am swyddi newydd yn codi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oriau hyblyg a chefnogaeth teulu sydd wedi galluogi Siwan Morgan i lwyddo ym myd busnes

Mae Siwan Morgan yn gydlynydd twf i gwmni Mrs Buck茅t, ac yn cydnabod bod y byd busnes yn heriol i fenywod, ac i famau yn benodol.

"Mae gyda fi tair merch o dan saith mlwydd oed," meddai.

Mae'r cwmni yn cefnogi hyblygrwydd o ran oriau gwaith.

"Mae hwnna'n bwysig iawn i fi ar hyn o bryd. A dwi ddim yn credu ma' hynna'n dal fi'n 么l o ran cyfleoedd yn gwaith, jest bo' ni'n gorfod dangos bo' ni'n gallu 'neud y swydd."

Galw am newid agweddau

Fel ei bos, mae Siwan yn gweld bod angen newid agweddau ehangach tuag at fenywod ym myd busnes.

"Maen nhw鈥檔 dweud mae'n cymryd pentre' i godi plentyn, a fi'n credu bod hynna'n wir.

"Ma' angen lot o gydbwysedd, ma' angen lot o mewnbwn o teuluoedd - mam a dad yn helpu, mam a tad fy ng诺r i鈥檔 helpu mas hefyd, a ma' hyblygrwydd gyda 'ng诺r i yn y gwaith hefyd... fi鈥檔 credu bod hwnna'n bwysig.

"Ni'n ffodus bo' ni mewn sefyllfa bo' ni'n gallu gweithio o amgylch y gofal plant, a casglu'r plant o ysgol. A fi'n credu bod pethe'n newid... wnaeth Covid hefyd helpu, gyda helpu pob' i weithio o adre."

Tra bod y gyfraith yn cefnogi hawliau menywod yn y gweithle, mae'n anoddach osgoi'r agweddau niweidiol sy'n dal menywod yn 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae anghyfartaledd rhwng dynion a menywod unwaith mae gweithwyr yn dechrau cael plant yn 'broblem oesol', medd y gyfreithwraig Fflur Jones

Mae鈥檙 gyfreithwraig Fflur Jones o gwmni Darwin Gray yn dweud bod merched a dynion yn gyfartal iawn hyd nes eu bod yn cyrraedd 30 oed.

"Oherwydd bod merched yn tueddu i gael plant tua'r oed hynny, wedyn maen nhw'n disgyn i lawr y rheng o ran y cyfleoedd sydd gyda nhw," meddai.

"Mae鈥檔 broblem oesol yn anffodus, ac mae angen i gyflogwyr fod yn ddeheuig iawn o ran sut maen nhw鈥檔 trin hynny."

Byddai newid sut mae llwyddiannau gweithwyr yn cael eu cofnodi yn gallu newid agweddau, a gorfodi rheolwyr i sylweddoli鈥檙 cyfraniad mae menywod yn gwneud yn y gweithle.

"Mae cyflogwyr hefo cof byr," meddai Fflur Jones. "Mae pobl yn cofio pwy sydd yn y gweithle ar y funud hon, pwy sydd wedi gwneud yn dda yn y flwyddyn ddiwethaf.

"Ond os mae merched wedi cael amser bant i godi plant, mae'n bwysig cofio cyn hynny maen nhw wedi bod yn seren yn y gweithle."

Gobaith cyhoeddwyr y gwaith ymchwil yw dangos sut mae modd i fenywod ddisgleirio ym myd busnes, a chwalu鈥檙 rhwystrau sydd yna o hyd.

Pynciau cysylltiedig