Pobol y Cwm: 'Hanfodol' cynnal y Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cyfres Pobol y Cwm ei seilio ar ardal Gwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae un o s锚r cyfres Pobol y Cwm yr 80au a'r 90au wedi dweud bod hi'n hanfodol bod ardaloedd fel Cwm Gwendraeth yn parhau fel cadarnle i'r Gymraeg, wrth i'r gyfres ddathlu hanner can mlwyddiant.

Bu Gwyn Elfyn yn chwarae rhan Denzil Rees am 28 mlynedd, ac mae wedi byw yn yr ardal wnaeth ysbrydoli'r gyfres ers yn fachgen ifanc.

Mae ystadegau yn dangos bod y nifer sy'n siarad Cymraeg wedi gostwng yn ardal Pontyberem o 73.3% yn 2001 i 60.7% yn 2021.

Mae'r arbenigwr ar gynllunio ieithyddol, Meirion Prys Jones, wedi galw am gynllun gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒'r dirywiad ieithyddol yng nghymoedd y de-orllewin.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ceisio sicrhau ffyniant i鈥檔 cymunedau ledled Cymru drwy sawl rhaglen".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gwyn Elfyn bod cynnal y Gymraeg fel iaith naturiol yn "hanfodol" yn y gymuned

Pan gafodd cyfres Pobol y Cwm ei darlledu gyntaf ym 1974, y diwydiant glo oedd un o brif gyflogwyr yr ardal gyda miloedd yn gweithio mewn pyllau fel Cynheidre.

Mae Deris Williams, cyn-gyfarwyddwr Menter Iaith Cwm Gwendraeth, wedi ei magu yn yr ardal ac yn cofio cymdeithas wahanol iawn yn 1974.

Dywedodd: "Roedd yna gymdeithas glos iawn wrth gwrs. Roedd yna lowyr o gwmpas. Dwi'n ddigon hen i gofio gweld glowyr yn dod o'r ffas heb folchi hyd yn oed, yn ddu. Cymuned agos.

"Y gymanfa ganu, y capel yn bwysig iawn. Yn rhan annatod o'n cymdeithas. Y cymunedau yn tynnu at ei gilydd yn agos iawn."

Fe gaeodd y pwll glo olaf ym 1991, ac ers hynny mae sefyllfa'r Gymraeg wedi dirywio law yn llaw gyda'r dirywiad economaidd.

'Mi alla i fynd am wythnos gyfan heb siarad Saesneg'

Yn 么l Gwyn Elfyn, mae'n medru byw ei fywyd fwy neu lai yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg o hyd, er bod yr iaith wedi gwanhau yn yr ardal.

"O ran pobl ein hoedran ni, ni'n dal i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg yn llwyr. Mi alla i fynd am wythnos gyfan heb siarad Saesneg."

Ond roedd o'r farn fod mewnlifiad "wedi dylanwadu" ar hynny.

"Efallai ddim llai o Gymraeg ond ychydig bach mwy o Saesneg o rai cyfeiriadau," meddai.

Dywed bod cynnal y Gymraeg fel iaith naturiol yn "hanfodol" yn y gymuned.

Er ei fod yn cydnabod fod "pethe wedi gwella siwd gymaint yng Nghaerdydd a'r de ddwyrain gydag ysgolion ag addysg Gymraeg", gyda phobl ifanc yn symud i'r brifddinas, dywedodd ei fod yn "falch iawn pan ni'n cael nhw 'n么l".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Deris Williams fod sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf yn hollbwysig

Yn 么l Deris Williams, mae Menter Iaith Cwm Gwendraeth, menter iaith gyntaf Cymru, wedi gwneud cyfraniad pwysig ers ei sefydlu yn 1991, gyda grant o 拢40,000 am flwyddyn.

"Caeodd y gwaith glo olaf yn 1991 a lansiwyd Menter Cwm Gwendraeth yn 1991 hefyd. Bydde Cwm Gwendraeth yn lawer tlotach heb y fenter iaith.

"Mae'n creu swyddi i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna 10 o staff sylfaenol a 85 o staff yn gweithio mewn clybiau ar 么l ysgol. Erbyn hyn mae yna 26 o fentrau iaith ar draws Cymru."

Cadarnleoedd yn 'ysgyfaint' ar gyfer y Gymraeg

Mae Meirion Prys Jones yn gyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith ac yn arbenigwr ar gynllunio ieithyddol.

Dywedodd fod y cadarnleoedd yn "rhyw fath o ysgyfaint ar gyfer y corff yna o bobl sydd yn siarad Cymraeg. Dyna sydd yn cadw'r Gymraeg yn fyw.

"Mae angen i'r llywodraeth fwrw 'mlaen i wneud rhywbeth am hyn. Hyd y gwela i does gen neb gynllun o fath yn y byd i sicrhau dyfodol y Gymraeg yn yr ardaloedd yma, dyffrynnoedd Gorllewin Cymru sydd i raddau helaeth yn galon y Gymraeg yng Nghymru."

Dywedodd fod angen "sicrhau bod yr economi yn gryfach nag yw hi ar hyn o bryd" a bod angen "dilyn rhai o argymhellion sydd yn adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg".

Disgrifiad o'r llun, Mae Meirion Prys Jones wedi galw am gynllun gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydym yn ceisio sicrhau ffyniant i鈥檔 cymunedau ledled Cymru drwy sawl rhaglen gan gynnwys ARFOR sy鈥檔 cefnogi cymunedau sydd 芒 dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, drwy ymyraethau economaidd sydd hefyd yn creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio鈥檙 Gymraeg o ddydd i ddydd.

鈥淩ydym hefyd yn darparu cyllid grant i nifer o sefydliadau fel y Mentrau Iaith, mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a鈥檙 Urdd sy鈥檔 ymateb i anghenion ieithyddol amrywiol ein cymunedau.

鈥淩ydym ar hyn o bryd yn ystyried canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a byddwn yn ymateb iddo maes o law.鈥

'Parhau yn gymdeithas naturiol Gymraeg'

Wrth i ni nodi 50 mlynedd ers sefydlu'r gyfres a gafodd ei ysbrydoli gan yr ardal, beth yw gobeithion dau o blant y cwm?

Yn 么l Gwyn Elfyn, mae angen cryfhau'r economi a'r Gymraeg: "Dwi'n gobeithio y bydd hi'n parhau yn gymdeithas naturiol Gymraeg fel mae hi nawr. Mae'n fy mhoeni pan mae plant yn siarad Saesneg 芒'i gilydd.

"Dwi ddim yn deall hynny o gwbl. Bydde fe'n braf gweld yr economi yn cryfhau. Bydde fe'n braf gweld pobl Cwm Gwendraeth yn cael ychydig bach o lewyrch."

Mae Deris Williams yn credu fod sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf yn hollbwysig.

"Beth dwi'n gweld yw patrwm ble mae pobl yn eu harddegau yn mynd ar gyfeiliorn, ac yn tueddu i siarad Saesneg 芒'i gilydd ond pan maen nhw yn cael teuluoedd maen nhw eisiau i'w plant i siarad Cymraeg.

"Trosglwyddiad iaith yw'r her fwyaf. Mae hynny yn rhywbeth dwi'n gwybod mae'r Fenter yn mynd i'r afael ag e o ddifrif. Maen nhw wedi penodi swyddog yn benodol i weithio ar hynny i weithio gyda theuluoedd ifanc."