Canfod crys coll Cymru mewn atig

Ffynhonnell y llun, Casgliad pel-droed Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y crys gafodd ei ddarganfod mewn atig yng Nghaerdydd

Mae yna ddyfalu mawr bod un o'r crysau coch cyntaf erioed i gael ei wisgo gan b锚l-droedwyr Cymru wedi ei ddarganfod mewn atig ar 么l bod ar goll am bron i 40 mlynedd.

Y gred yw bod y crys yn dyddio n么l i 1901-1902 ac fe fydd ymhlith yr eitemau pwysicaf fydd yn cael eu harddangos yn y pendraw yn Amgueddfa B锚l-droed newydd Cymru yn Wrecsam.

Roedd y crys ymhlith nifer o eitemau gafodd eu rhoi i'r amgueddfa gan weddw'r diweddar Alun Evans, cyn Ysgrifennydd a chyn Prif Weithredwr Cymdeithas B锚l-droed Cymru rhwng 1982 a 1995.

Dywed swyddogion fod yna le cryf i gredu mai hwn oedd y crys aeth ar goll o gasgliad y Gymdeithas B锚l-droed wrth iddynt symud eu pencadlys o'r gogledd i Gaerdydd yn 1985.

Crys ar goll!

"Roedd yna grys coch mewn ffr芒m yn yr hen bencadlys yn Wrecsam, gyda disgrifiad yn ei ddyddio 1901 i 1902, meddai Sion Lewis, swyddog ymgysylltu Amgueddfa B锚l-droed Cymru.

"Ond doedd y crys ddim yn y casgliad wnaeth gyrraedd y de. Roedd o wedi mynd ar goll yn rhywle.

"Gallwn ni ddyddio'r crys i'r cyfnod cyn 1915 oherwydd ei steil, ac roedd Cymru yn chwarae mewn gwahanol liwiau heblaw coch cyn 1900.

"Mae yna hefyd olion - wedi eu creu gan yr haul - sy'n awgrymu fod y crys yma wedi ei gadw mewn ffr芒m ar un adeg."

Cafodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru ei sefydlu yn Wynstey Arms Wrecsam yn Chwefror 1886, gan chwarae eu g锚m ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ym mis Mawrth yr un flwyddyn.

Ond ni wnaeth Cymru ddechrau gwisgo'r crys coch tan ddechrau'r ganrif nesa.

"Roedd y crysau wedi eu gwneud o wl芒n neu gotwm ac yna yn cael eu deio.

"G锚m galed wrth feddwl am amodau heddiw. Roedd y sgidiau hefyd yn rhai trymion heb s么n am orfod penio neu gicio hen b锚l ledr yn llawn d诺r," meddai Sion.

Ffynhonnell y llun, Sion Lewis

Disgrifiad o'r llun, Mae Sion Lewis yn gweithio fel Swyddog Ymgysylltu Amgueddfa B锚l-droed Cymru

Bu farw Alan Evans yn 2011. Jane ei weddw wnaeth gysylltu gyda'r amgueddfa gan ei bod ar fin symud t欧.

"Hi wnaeth gysylltu off liwt ei hun, roedd hi'n symud t欧 ac eisiau gwaredu stwff.

"Y teimlad o'n i'n gael oedd nad oedd ganddi hi gymaint o ddiddordeb 芒 hynny mewn p锚l-droed a'i bod yn symud i le llai ac eisiau gwaredu ar bethau.

"Roedd y rhan helaeth yn llyfrau oedd o wedi casglu ac yn yr atig, nifer o lyfrau p锚l-droed fatha When Pele broke our Hearts a King John am y cawr John Charles ac ambell i grys o wahanol dimau rhyngwladol.

"Chware teg roedd ei weddw wedi rhoi gyd o'r eitemau mewn bocsys."

Ym mis Mawrth y llynedd ddaeth Sion a chydweithiwr lawr o'r gogledd i gasglu'r eitemau a hefyd i gasglu deunydd a gwybodaeth o glwb p锚l-droed Pont-y-clun ar gyfer yr amgueddfa newydd.

Ffynhonnell y llun, Casgliad pel-droed Cymru

Disgrifiad o'r llun, Hen farics Wrecsam - adeilad fydd yn gartref i'r amgueddfa newydd

"Ar 么l casglu'r eitemau o Gaerdydd o'n i'n gynnar ym maes parcio Pont-y-clun a dyna ni gyfle i gael golwg yn y bocsys a dyna ni'n gweld y crys coch.

"O'n i wedi gweld lluniau o'r hen grys coch ac roedd hwn yn union yr un steil.

"Yr unig wahaniaeth oedd nad oedd yr un yma mewn ffr芒m.

"Os mai hwn ydi'r un oedd ar goll mae o wedi ffeindio ei ffordd adre ar hyd yr A483 ar 么l yr holl flynyddoedd yma ac yna mor agos i hen gartref y Gymdeithas B锚l-droed yn Fairy Road."

Mae disgwyl i'r amgueddfa b锚l-droed agor ei drysau am y tro cyntaf yn 2026.

Bydd wedi ei lleoli yn hen farics a llysoedd barn y dre, ac yn rhannu'r adeilad gydag Amgueddfa ac Archifau Wrecsam.

Dywed yr amgueddfa mai hwn fydd cartref y casgliad mwyaf o femorobilia p锚l-droed Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru.

Mae'r safle ar gau ar hyn o bryd wrth i'r gwaith o ailwampio鈥檙 adeilad fynd yn ei flaen.