Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trychineb glofa Gresffordd yn ysbrydoli opera newydd
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Bron i ganrif ers un o drychinebau glofaol gwaethaf Cymru, mae opera wedi ei chyfansoddi yn adrodd yr hanes.
Fe gafodd 266 o ddynion a bechgyn eu lladd mewn ffrwydrad dan ddaear yng nglofa Gresffordd ger Wrecsam yn 1934.
Bwriad yr opera 鈥楪resffordd - I'r Goleuni Nawr鈥 ydy cyflwyno鈥檙 hanes i genedlaethau newydd a chadw鈥檙 cof am y drychineb yn fyw.
Mae awdur y geiriau, Grahame Davies, yn teimlo na chafodd y digwyddiad y sylw mae鈥檔 ei haeddu, er ei fod yn 鈥渄rychineb ofnadwy ar raddfa fawr鈥.
鈥淓r ei bod hi鈥檔 drychineb mor ddiweddar, dim ond 90 mlynedd yn 么l, dydy hi ddim yn rhywbeth sy鈥檔 rhan o鈥檙 ymwybyddiaeth gyhoeddus, ddim yng Nghymru ac yn sicr ddim ym Mhrydain鈥, medd Mr Davies, sy鈥檔 or-诺yr i asiant glowyr a fu鈥檔 delio gyda鈥檙 dynion a鈥檜 teuluoedd wedi'r drychineb.
Mae鈥檔 dweud bod 鈥渁nwybodaeth鈥 am Gresffordd, ac yn awgrymu fod hynny o bosib yn ymwneud a lleoliad y drychineb.
鈥淢ae 'na bobl sydd erioed wedi clywed am y drychineb hon ac mae hyn efallai oherwydd ei fod mewn maes glo yng ngoledd Cymru a ddim wedi gwreiddio cymaint yn y cof cyffredin ag y buasai digwyddiad mor fawr wedi gwneud fel arall.鈥
鈥淔elly rhan o鈥檙 bwriad oedd i drio atgoffa pobl o ba mor wael oedd hyn, o鈥檙 camwedd mae'n ei gynrychioli a faint oedd yr effaith ar y gymuned ac i sicrhau bod hyn yn aros yn rhan o鈥檙 cof cyffredin,鈥 meddai Mr Davies.
Ymdrech amhosib
Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio dan ddaear pan dorrodd ffrwydrad trwy'r pwll yn oriau m芒n y bore ar 22 Medi, 1934.
Y gred ydy bod nifer y gweithwyr ar y safle yn fwy na'r arfer gan fod nifer wedi dyblu eu shifftiau er mwyn mynd i wylio g锚m b锚l-droed yn Wrecsam yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dim ond chwech o'r glowyr a lwyddodd i ddringo allan o'r mwg a'r llwch, a'r tanau cynddeiriog oedd yn dal i losgi eu cydweithwyr.
Fe gafodd tri o weithwyr achub eu lladd dan ddaear ac o fewn deuddydd penderfynwyd bod y tanau a鈥檙 perygl o ragor o ffrwydradau yn ei gwneud hi鈥檔 amhosib parhau.
Mae cyrff 253 o鈥檙 dynion a鈥檙 bechgyn wedi eu claddu yno hyd heddiw.
Mae s么n bod dynion wedi colli hanner eu cyflogau am nad oedden nhw wedi cwblhau eu shifft a bod cyflogau glowyr eraill yn eu pocedi dan ddaear, gan adael teuluoedd mewn tlodi.
Yn gynhyrchiad gan NEW Sinfonia, bydd yr opera yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Llanelwy ar achlysur 90 mlwyddiant y drychineb fis Medi fel rhan o 糯yl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Mae wedi ei chyfansoddi gan Jonathan Guy a bydd yn cael ei harwain gan ei frawd Robert, y ddau'n hanu o ardal Wrecsam a chysylltiad teuluol hefyd 芒'r diwydiant glo.
Dywedodd Cadeirydd yr 糯yl, y Gwir Barchedig Nigel Williams, fod cofio鈥檙 hanes yn 鈥渄dyletswydd鈥.
鈥淢ae鈥檙 drychineb wedi dylanwadu ar deuluoedd, ar yr ardal, ac mae鈥檔 bwysig i ni gofio bod 鈥榥a ardal lofaol wedi bod o amgylch Wrecsam a bod llefydd fel Gresffordd wedi cael eu dylanwadu mor ofnadwy fel hyn.鈥
鈥淒wi鈥檔 meddwl bod gennym ni ddyletswydd i gofio am y rhai gollodd eu bywydau, y teuluoedd gafodd eu heffeithio ac i roi teyrnged iddyn nhw.鈥