大象传媒

Gorbryder: Cymorth ar-lein ar gael yn y Gymraeg

Dynes yn defnyddio tabledFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae modd defnyddio'r gwasanaeth yn ddi-enw heb weld meddyg teulu

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru (GIG) wedi lansio rhaglen therapi ar-lein ar gyfer gorbryder yn y Gymraeg.

Dyma'r drydedd raglen therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) i'r GIG ei chyfieithu i'r Gymraeg, gan roi cyfle i bobl gael cymorth yn ddienw ar-lein.

"Mae'n gallu bod yn anodd bod yn agored a rhannu eich meddyliau a'ch teimladau, ac mae'n anoddach fyth os oes rhaid i chi wneud hyn yn eich ail iaith," medd Fionnuala Clayton o'r GIG.

"Mae'n hanfodol ein bod yn chwalu'r rhwystr hwnnw ac yn rhoi'r gofod a'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth lywio ein cynnwys therapiwtig."

Mae'r rhaglen 12 wythnos ar gael i bobl dros 16 oed sydd 芒 symptomau ysgafn i gymedrol o orbryder.

Mae gofyn i ddefnyddwyr rhaglen 'Gofod o Orbryder' ymrwymo i o leiaf 15 munud y dydd, tair neu bedair gwaith yr wythnos.

Does dim rhaid gweld meddyg teulu nac ymuno 芒 rhestr aros i gael mynediad at y gwasanaeth, sy'n dysgu "sgiliau ymdopi ymarferol" i ddefnyddwyr.

Mae'n rhaglen CBT, sef math o therapi sy'n canolbwyntio ar sut mae ein meddyliau ac agweddau yn medru effeithio ar ein teimladau, er mwyn dysgu sut i ymdopi 芒 phroblemau.

Mae cynnydd yn cael ei fonitro gan ymarferwyr cymwys, medd y GIG, sy'n darparu adborth bob pythefnos.

Maen nhw hefyd yn gallu cyfeirio achosion mwy difrifol am gymorth pellach.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Leah Williams bod "methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus"

Mae'r gwasanaeth yn un o ystod eang o raglenni iechyd meddwl ar-lein y mae'r GIG yn eu cynnig.

Mae 30,000 o bobl wedi defnyddio'r rhaglenni ers eu treialu ym Mhowys yn 2018 a'u cyflwyno i weddill Cymru yn 2020.

Dywed un o'r t卯m sy'n monitro'r gwasanaethau hyn, Leah Williams, ei bod hi wedi cael trafferth rhannu ei theimladau yn y gorffennol pan nad oedd modd gwneud hynny drwy'r Gymraeg.

"Roedd fy ymarferwyr iechyd meddwl a'm cwnselwyr yn ddi-Gymraeg. Roedd hi'n anodd i mi fod yn agored a thrafod materion personol," medd Ms Williams, Cydlynydd Ar-lein GIG Cymru.

"Mae methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus, yn enwedig wrth siarad am bwnc sydd yn barod yn emosiynol.

"Pan roeddwn i鈥檔 siarad 芒 chwnselydd Cymraeg, roedd cysylltiad therapiwtig yno鈥檔 syth gan ein bod ni鈥檔 rhannu hunaniaeth a dealltwriaeth ddyfnach o fy mhroblemau a'm hanghenion."