Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pum munud gyda... Dafydd Apolloni
Mae Dafydd Apolloni yn byw'n Llanrwst ac yn gweithio yn y maes ieithyddol.
Mae'n gwneud gwaith ymchwil, cyfieithu a dysgu ieithoedd i oedolion.
Yn 2004 cyhoeddwyd ei gyfrol Roma, Hen Wlad fy Nhad, oedd yn trafod ei brofiad o fywyd Rhufain a’r Eidal.
Erbyn hyn mae newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf, Drws Anna, ac mae dinas Ewropeaidd arall yn chwarae rhan ganolog i'r nofel yma, sef Paris.
Mae hi'n nofel sy'n cael ei disgrifio fel 'stori llawn dirgelwch sy’n herio ein syniadau am hunaniaeth, cof ac atgof.'
Ac yntau wedi byw yn Paris ei hun, dyma dreulio pum munud yn ei gwmni.
Soniwch ychydig amdanoch chi a’ch gwreiddiau.
Ges i fy magu ac es i’r ysgol yn Llanrwst. Fues i’n byw i ffwrdd mewn gwahanol wledydd am flynyddoedd cyn dod yn ôl i Lanrwst.
Ar ochr fy mam, gaeth fy nain ei geni yn Neiniolen a’i magu ym Methesda a fy nhaid yn Nhalysarn.
Mae fy nhad o Rufain, ond o drefi San Bartolomeo a Palestrina - y tu allan i Rufain - roedd fy nain a thaid ar ei ochr o.
Ro’n i’n o lew efo ieithoedd yn yr ysgol a dyna dwi wedi’i wneud ers hynny: dysgu, cyfieithu, pethau ieithyddol i gyd.
Soniwch ychydig am gynnwys y nofel.
Mae cyfieithydd unig yn derbyn galwad ffôn un noson gan ddyn yn gofyn iddo gyfieithu ei atgofion ei hun.
Mae’n ymddangos fod y dyn wedi colli ei gof a’i iaith a felly ddim yn medru deall ei nodiadau ei hun.
Cyfieithiad felly ydy rhan o’r nofel, o gyfnod y dyn hwnnw ym Mharis, flynyddoedd yn ôl, ei fywyd a’i berthynas gyda ffrindiau agos yno.
Ond mae’r broses o gyfieithu gorffennol rhywun arall yn peri i’r cyfieithydd feddwl am ei fywyd ei hun, gan ei arwain i gwestiynu pwy yn union ydy’r dyn yma mae’n cyfieithu ar ei gyfer a pham y daeth ato fo.
Heb ddifetha'r plot, beth yw prif elfennau’r nofel a’r neges yr ydych yn ceisio ei chyfleu?
Y prif elfennau ydy’r ddinas a’r wlad, y gorffennol a’r presennol, bywyd milltir sgwar neu fywyd symudol, ymysg pethau eraill.
Mae iaith yn bwysig ynddi, yn enwedig y cysylltiad rhwng iaith a chof, a pha mor bwysig i’n hunaniaeth bersonol ni ydy’r cysylltiad hwnnw.
'Heriol'
Pam mynd ati i ysgrifennu nofel yn y lle cyntaf, o ble daeth y syniad?
Dwi wedi 'sgwennu ar un ffurf neu’r llall ers blynyddoedd. Mi ddechreues i gadw nodiadau tua chanol y 1990au, tra ro’n i’n byd yn Liberec, yn y Weriniaeth Tsiec.
Aeth y rhain yn ddisgrifiadau a chofnodion o bobl, lleoedd a digwyddiadau, ond wastad efo’r syniad y bydden nhw’n arwain at stori o ryw fath ryw ddydd.
Dwi wrth fy modd efo darllen nofelau ac wedi meddwl erioed byddai’n hwyl rhoi cynnig arni fy hun.
Daeth y syniad o gyfuniad o bethau: rhywun ro’n i’n nabod oedd yn gwrthod aros mewn un lle, cyrraedd Paris yn hwyr un noson heb fatri yn fy ffôn na chyfeiriad, yr amheuaeth nad ydy’r pethau 'dan ni’n eu dweud yn cyfateb i’r hyn mae eraill yn ei ddeall...
Llawer o bethau eraill hefyd.
Oedd hi’n broses anodd mynd ati i ysgrifennu eich nofel gyntaf?
Roedd hon yn heriol gan ei bod hi’n cynnwys dau leoliad a dau gyfnod.
Gan fod y stori’n cynnwys cyfieithiad roedd yn anochel fod yr hanes yn neidio – o’r gwreiddiol i’r cyfieithiad, o un lleoliad i’r llall, rhwng dau gyfnod.
Y broses gyffredin o gofio, cyfleu atgofion, anghofio a cwestiynu ai felly oedd hi go iawn.
Mae’n digwydd pob dydd i ni, ond ar bapur yr her oedd sicrhau fod yr elfennau’n llifo heb fynd yn glymau. Dwi’n gobeithio bod nhw.
Beth yw ystyr y teitl Drws Anna?
Mae yna ddrws ar stryd fach sy’n arwain at lle mae Anna’n byw.
Ond efallai mai Anna ydy’r prif gymeriad mewn ffordd, gan ei bod hi hefyd yn cynnig mynediad at rai o’r pethau hanfodol mae eraill yn eu ceisio.
Os oes yna oriadau yn y stori yma mae’n bosib mai ganddi hi mae’r rhai pwysicaf.
Pam dewis Paris fel lleoliad pwysig i’r nofel?
Mae 'sgwennu am ddinas enfawr yn cynnig posibiliadau a steil gwahanol na 'sgwennu am drefi mawr, neu fach, neu gefn gwlad.
Dwi’n hoff o’r peryg y gall cymeriad wastad fynd ar goll yng nghanol môr o bobl mewn dinas, rhyw fath o unigedd dychrynllyd ar stryd swnllyd.
Fues i’n byw ym Mharis am rai blynyddoedd, ac fel rhywun a fagwyd mewn tref fach mae’r gwrthgyferbyniad hwnnw rhwng y ddinas a’r wlad yn rhywbeth sydd efo fi’n aml.
'Tameidiau gwasgar'
Ydych chi wedi seilio rhai o brofiadau’r cymeriadau ar brofiadau personol?
Do. Gludo tameidiau gwasgar o jig-so at ei gilydd mae rhywun dwi’n meddwl, yndê?
Rhai pethau ddigwyddodd i mi, rhai pethau ddigwyddodd i bobl ro’n i’n nabod, rhai pethau 'dan ni ddim yn sicr a ddigwyddon nhw o gwbl ynteu ai meddwl eu bod nhw ydan ni.
Mae yna elfennau o lawer o bobl yma, un neu ddau’n agosach at y gwreiddiol nag eraill.
Math o hunan-gofiant heb y dyddiadau ydy ffuglen yn aml; cofiant o’n meddyliau ni, o leia’.
Beth nesaf? Oes unrhyw fwriad i ysgrifennu nofel arall?
Mae yna hen straeon byrion gen i dwi wedi mynd ati i’w tacluso, a dwi’n 'sgwennu rhywbeth newydd ers sbelan fach rŵan.
Hefyd mae gen i hen ffrindiau heb air o Gymraeg sydd isio gwybod be’ goblyn dwi’n 'sgwennu felly rhaid imi ail-sgwennu pennod neu ddwy iddyn nhw.
Falla bod nhw’n poeni eu bod nhw ynddi.