Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taclo 'rhan olaf y jig-so ailgylchu' - plastig
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Dyw casglu plastig o鈥檔 hafonydd, moroedd a鈥檔 strydoedd ni ddim yn ddigon -mae angen mynd gam ymhellach.
Dyna farn arbenigwr sy'n dechrau prosiect i bobl droi gwastraff plastig yn gynnyrch newydd i'r cartref.
Mae Eifion Williams, Prif Weithredwr yn paratoi i ddechrau'r prosiect newydd mewn dwy ardal yng Nghymru.
Fe fydd cynllun Trysori Plastig yn dechrau yn Nhreherbert yn y Rhondda ac ym Mae Colwyn yn ystod yr haf.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i wneud mwy ac yn dweud y byddan nhw'n cyflwyno rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn fuan.
Rhan o'r jig-so ar goll
Mae dros 600 o brosiectau o鈥檙 fath ledled y byd.
Y nod ymhen dwy flynedd yw sefydlu canolfannau tebyg ar hyd a lled Cymru fel bod tua 10 neu 12 o gymunedau 芒鈥檙 cyfleuster yma.聽
Y gobaith yw y gallai taclo gwastraff plastig helpu Cymru i gwrdd 芒 thargedau ailgylchu uchelgeisiol sydd wedi eu gosod, sef ailgylchu 70% o鈥檔 gwastraff erbyn 2024-25.
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf rydyn ni'n ailgylchu ychydig dros 65% ar hyn o bryd.
Dywedodd Mr Williams: 鈥淩ydan ni wedi gneud llawer yng Nghymru i ailgylchu yn ein cartrefi ni ond mae 鈥榥a broblem. Mae 鈥榥a ran o鈥檙 jig-so o鈥檙 cynllun mawr ar goll yma a hwnna ydy plastig.
"Mae 鈥榥a saith gwahanol polymer, mathau gwahanol o blastig os liciwch chi, a鈥檙 broblem ydy os oes 鈥榥a ffatri yn rhywle yn cyfuno鈥檙 saith mae鈥檔 eithriadol o anodd ac eithriadol o ddrud i wahanu nhw eto ac i wneud y cynnyrch newydd, felly mae鈥檔 rhaid i ni ffeindio proses o gadw y polymers yma arwahan.
"Dyna beth sydd wrth wraidd prosiect Trysori Plastig Cymru, achos 鈥榙a ni鈥檔 rhoi yn dwylo鈥檙 bobl y modd i gadw鈥檙 saith polymer ar wahan."
Trwy barhau i wahanu y gwahanol fathau o blastig fe fydd mwy o ddewis wedyn yngl欧n 芒 beth i'w wneud 芒鈥檙 deunydd, gan fod pob un polymer yn gweddu gwahanol fathau o gynnyrch.
Mae Cymru ar hyn o bryd yn drydydd yn y byd o ran lefelau ailgylchu, ond mae arbenigwyr yn poeni y bydd y blynyddoedd nesaf yn heriol wrth geisio cyrraedd targed o Gymru ddi-wastraff.
鈥淒a ni wedi cyrraedd rhyw fath o plateau鈥, yn 么l Mr Williams, 鈥渁c un o鈥檙 pethau mawr yw be' sy'n cael ei alw yn "y broblem plastig", mae鈥檔 moroedd a鈥檔 afonydd yn llawn o鈥檙 pethau yma.
"Os fedrwn ni wahanu y gwahanol polymers yn ein cymunedau fe fyddwn ni wedi cymryd y cam ola鈥 o gyrraedd y nod rhyngwladol o ailgylchu, achos da ni'n stuck ar y 66, 67%.
"Mi fedrwn ni fynd ymhellach 鈥榥a hynny.鈥
Trwsio yn hytrach na thaflu
Mae arbenigwyr fel Dr Gary Walpole, cyfarwyddwr Cymunedau Cylchol Cymru yn dweud y bydd rhaid i bawb ail-ddefnyddio ac ail-greu nwyddau yn y dyfodol.
鈥淓r mwyn i Gymru symud lan o 65% wrth ailgylchu mae鈥檔 rhaid i ni newid pethe tipyn bach oherwydd mae 35% [o wastraff] ar hyn o bryd yn mynd i gael ei losgi er mwyn cynhyrchu ynni.鈥
Mae mesurau newydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn yr Hydref.
Dywedodd llefarydd eu bod "yn cydnabod yn llawn yr angen i wneud mwy ac fe fyddwn cyn hir yn cyflwyno rheoliadau newydd yn y gweithle, gwaharddiad ar blastig untro ac yn ehangu cyfrifoldeb cynhyrchwyr鈥.
Yn 么l Dr Walpole does dim angen taflu gwastraff, gan s么n am gynlluniau fel pentre 鈥淓to鈥 yng nghanolfan ailgylchu Nantycaws ger Caerfyrddin - lle mae nwyddau'n cael eu trwsio a鈥檜 gwerthu.
鈥淔e allwn ni drwsio pethe 鈥 o gelfi i feicie i white goods sydd yn y t欧, ond hefyd mae eisiau cynhyrchwyr newid sut mae nhw鈥檔 'neud pethe er mwyn gallu trwsio nhw鈥檔 llawer hawsach.
"Er enghraifft y spot welds 鈥 alli di ddim tynnu rhwbeth allan a trwsio fe os ydy wedi cael ei spot weldio, felly mae angen symud 'n么l i ddefnyddio screws a gallwn ni ail-neud pethe wedyn.鈥
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fe fydd yr economi gylchol yn 鈥渃reu cyfleon i gymunedau ddod at ei gilydd i helpu symud ymlaen at ddiwylliant o ail-ddefnyddio a thrwsio鈥.
'Cael bywyd arall mas o bethe'
Wrth edrych i鈥檙 dyfodol mae angen addysgu pobl yn well am bwysigrwydd ailgylchu, yn 么l Mari Arthur sy'n arbenigo mewn cynaladwyedd gyda chwmni Afallen.
Mae addysg yn bwysig ochr yn ochr 芒鈥檙 economi gylchol ynghyd 芒 chanolbwyntio ar newid y diwylliant.聽
Mae hi'n cyfaddef ei fod yn dipyn o sialens ond yn dweud bod rhaid i bawb newid y ffordd o fyw a gweithio.
鈥淏ob tro ti鈥檔 rhoi rhywbeth yn y sbwriel mae dal yn mynd rhywle 鈥 mae ishe trio ail ddefnyddio fe", meddai.
"Cyn chi鈥檔 ailgylchu mae angen trio defnyddio fe mwy o weithie i gael bywyd arall mas o pethe achos 鈥榥a beth yw economi gylchol - rhoi mwy o fywyd mewn i unrhyw beth ti wedi prynu.
"Mae cyfle i 'neud arian mas o鈥檙 byd economi gylchol ond mae mwy iddo fe na hynny, mae e yn ffordd o 'neud ein planed yn fwy gwyrdd i genedlaethau sy' i ddod.鈥