Ydy’r diwylliant yfed yng Nghymru yn waeth nag mewn llefydd eraill?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O Sesiwn Fawr Dolgellau i Tafwyl a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, bydd nifer o wyliau cerddorol yn cael eu cynnal yng Nghymru dros yr haf.

Yn y mwyafrif bydd alcohol yn cael ei werthu – ond ydy’r rhan yma o’r dathlu yn bwysicach yn ein gwlad ni nag mewn gwledydd eraill?

Ar raglen Dros Ginio ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru roedd Jennifer Jones yn trafod y diwylliant o yfed alcohol gyda’r gantores o Gaerdydd Mabli Tudur ac Andrew Misell o elusen Alcohol Change UK.

Oes ‘na ddiwylliant o yfed mewn gwyliau mawr fel Glastonbury?

Mabli Tudur

Roedd Glastonbury yn anhygoel ond doedd alcohol ddim yn main event yno. Dyw pobl ddim yn mynd i Glastonbury er mwyn yfed. Mae gymaint o bethau’n digwydd mewn gwyliau cerddorol erbyn hyn ac mae rhywbeth i bawb yno.

Ffynhonnell y llun, Mabli Tudur

Mae yfed mewn gŵyl yn rhywbeth personol a does neb yn mynd i feirniadu pobl sy’ ddim yn gwneud, neu sy’ yn.

Hefyd mae cymaint o bobl yna ti’n mynd i wario hanner dy amser yn ciwio.

Dwi erioed wedi gweld cymaint o trollies efo alcohol yn fy mywyd. Mae Glastonbury yn caniatáu hynny (mynd ac alcohol eich hun) a’n teimlo’n rili saff. Mae stiwardiaid ym mhob man.

Ffynhonnell y llun, Mabli Tudur

‘Nes i weld pobl tu ôl i’r bar yn gwrthod servio pobl os oedden nhw yn edrych fel bod nhw wedi yfed gormod.

‘Nes i weld lot o arwyddion yn dweud gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon o ddŵr. Dwi ddim yn credu bod e’n bosib i feddwi over the top mewn rhywle fel ‘na achos mae gymaint o bethau eraill i'w wneud - nid dyna’r rheswm mae pobl yn mynd yno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Andrew Misell

Mae beth mae Mabli wedi dweud yn wir – mae Glastonbury yn ŵyl unigryw oherwydd ei maint.

Yn aml iawn mae pobl yn mynd yn bennaf oherwydd y gerddoriaeth.

Ond mae rhai yn yfed gormod ac mae ‘na beryglon mewn yfed mewn gŵyl fel yna – chi mewn llond cae o ddieithriad, mae ‘na berygl o fynd ar goll. Mae ‘na berygl o yfed dan haul boeth.

Pan chi yng nghanol rhywbeth mawr fel yna mae eisiau bod yn fwy carcus.

Ffynhonnell y llun, Andrew Misell

Mae’n anodd i blismona ond o dan y gyfraith cewch chi ddim gwerthu alcohol i rhywun sy’n feddw ond wrth gwrs sut chi’n diffinio beth yw meddwdod mewn person?

Dwi wedi gweithio mewn tafarndai felly ac mae tafarnwyr fel 'na yn werth y byd – pobl sy'n cadw golwg ar eu cwsmeriaid ac yn plismona yn anffurfiol ar eu cwsmeriaid nhw.

Dyna un fantais i yfed mewn tafarn yn hytrach nac adref ar y soffa – mae ‘na berson sobor i gadw golwg arno chi.

Ac un ffordd hawdd i orwneud e yw mynd â llwyth o alcohol gyda chi (i ŵyl) yn y lle cyntaf. Ac wrth gwrs mae pobl yn gwneud hynny oherwydd fod y ciwiau yn anferth a'r prisau yn uchel.

Does neb eisiau pregeth am faint dylen nhw yfed. Y cyfan allwn ni wneud yw awgrymu yfed digon o ddŵr a chadw golwg ar faint chi’n yfed fel bod chi’n mwynhau’r diwrnod cyfan.

Ydy yfed alcohol mewn digwyddiadau chwaraeon yn ddiwylliant wahanol?

Andrew Misell

O ran chwaraeon roedd (ein ymchwil) ni’n edrych yn benodol ar bobl fel Prydeinwyr Asiaidd – mae pobl o’r cefndir yna o gymunedau lle mae traddodiad Mwslemaidd neu Hindwaidd lle dyw alcohol ddim yn rhan o’r darlun fel arfer.

Roedd pobl yn dweud bod nhw’n fodlon mynd i rywle le mae alcohol yn cael ei werthu ond bod nhw’n gweld rhyw bwynt le mae’r yfed yn croesi rhyw ffin ac mae pobl yn dechrau mynd yn amharchus ac mae’r awyrgylch yn troi.

Os oedd gyda ni rhyw amcan o ran gwyliau a chwaraeon, cadw’r yfed yr ochr iawn o’r ffin yna fel bod pawb yn mwynhau a dwi’n meddwl byddai rhan fwyaf o bobl yn weddol fodlon ar hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cefnogwyr rygbi Cymru'n mwynhau'r Chwe Gwlad gyda peint o gwrw

Ydy’r diwylliant yfed mewn gwyliau yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr?

Mabli Tudur

Sei’n gwybod beth yw e - dwi wedi bod i cwpl o wyliau o gwmpas Lloegr ond mae’r diwylliant alcohol o fewn gwyliau yng Nghymru i weld yn fwy. Dwi’n gweld lot mwy o bobl yn dal diodydd – ond dwi hefyd ddim yn gwybod os ydy e achos bod y gwyliau yna yn llai o seiz a fod llai o bethau i neud.

Dwi’n credu bod ni fel Cymry yn lico yfed a lico cael amser da – se i'n baio nhw ond dwi yn gweld gwahaniaeth.

Dwi’n joio cael peint ond o’n i hefyd yn neud yn siŵr mod i’n bwyta digon a’n yfed digon o ddŵr.

Andrew Misell

Yn ôl yr ystadegau mae’r Cymry a’r Saeson yn yfed yn weddol debyg ond eto dwi wedi clywed llawer o bobl yn sôn am yr hyn maen nhw’n ei weld sef rhyw ddiwylliant yfed Cymraeg yn rhannol o’r eisteddfod ac mewn pethau fel Sesiwn Fawr Dolgellau.

Dyna’r dystiolaeth mae pobl yn rhoi i fi – at ei gilydd mae’r ddwy boblogaeth yn yfed yn weddol debyg i’w gilydd ond falle fod eithriadau tu fewn i hynny.

Dwi eisiau cychwyn sgwrs ac i bobl feddwl a siarad am beth maen nhw’n neud a siarad yn onest.

Yn ein diwylliant ni ni’n dda am siarad yn smala am alcohol neu rhyw ffug edifeirwch ond mae eisiau i ni fel oedolion gydnabod beth ni’n neud, bod gyda ni’r peth ‘ma mae rhan fwyaf ohono ni’n mwynhau ond sy’n gallu bod yn beryg a bod ni’n trin e gyda tipyn o barch ac yn siarad yn onest amdano fe. Byddai hynny yn llwyddiant i fi.

Gwrandewch ar y sgwrs ar Dros Ginio.