ý

Gweithiwr iechyd wedi 'dweud celwydd cyn cam-drin cleifion'

Ysbyty Athrofaol Y FaenorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y troseddau honedig wrth i Ieuan Crump weithio yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod gweithiwr iechyd dan hyfforddiant wedi “sgrechian” ar borthor oedd wedi ceisio dod i mewn i ystafell ble roedd yn cyffwrdd claf benywaidd yn amhriodol.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Ieuan Crump, 26, hefyd wedi “dweud celwydd” wrth y claf am ei lefelau wrin cyn ymosod arni’n rhywiol.

Mae Mr Crump o Gilfach, Sir Caerffili, wedi’i gyhuddo o gyffwrdd yn amhriodol â dwy ddynes oedd yn gleifion yn Ysbyty’r Faenor, Cwmbrân ym mis Awst 2021.

Mae Mr Crump yn gwadu naw cyhuddiad – chwech o ymosodiad rhyw, a thri o ymosodiad drwy dreiddiad.

Wrth roi tystiolaeth dros gyswllt fideo, gofynnwyd i’r ddynes gan yr erlynydd Matthew Roberts i gadarnhau a oedd hi wedi gweld, neu’n adnabod, y ddynes arall ar y ward sy’n honni ei bod hi wedi’i cham-drin hefyd.

“Na,” meddai’r ddynes.

Yn amddiffyn, gofynnodd Andrew Davies a oedd dos o forffin a gafodd ar 13 Awst, cyn i Ieuan Crump ei harchwilio am y tro cyntaf, wedi’i gadael hi gyda “phendro neu’n ddryslyd”.

“Ychydig yn flinedig,” meddai’r ddynes, gan wadu fodd bynnag ei fod wedi’i gwneud hi’n gysglyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ieuan Crump yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Wrth gael ei chroesholi gan Mr Davies, dywedodd y ddynes fod Mr Crump wedi gwneud sgan ar ei phledren ddwywaith, a’i bod wedi cyffwrdd ei fagina ar y ddau achlysur.

Ar yr ail achlysur dywedodd ei fod hefyd wedi cyffwrdd â'i phen-ôl, yn ogystal â’i bronnau ar ôl gofyn a oedd posibiliad ei bod hi’n feichiog.

Cafodd y sgan cyntaf ar y bledren ei gofnodi ar nodiadau’r claf am 13:25 y diwrnod hwnnw gan Ieuan Crump.

Ond dywedodd y ddynes bod nyrs arall wedi dweud wrthi’n ddiweddarach bod Mr Crump wedi “dweud celwydd” ar y nodiadau hynny, gan gofnodi lefel uwch o wrin nag oedd ganddi mewn gwirionedd.

Fe wnaeth y ddynes wedyn siarad gyda’r un nyrs ar ôl yr ail ddigwyddiad honedig o gyffwrdd amhriodol.

“Fe wnaethon ni ddechrau siarad am beth oedd e wedi bod yn gwneud, y sganiau ar y bledren, a dyna pryd wnaethon ni drafod e,” meddai’r ddynes.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau

Fe wnaeth Mr Davies ofyn i'r ddynes egluro beth ddigwyddodd ar ôl iddi sôn am y cyffwrdd amhriodol honedig wrth y nyrs.

“Cyn gynted ag y gwnes i grybwyll hyn i’r nyrsys, wnaethon nhw ffonio’r heddlu,” meddai.

Ychwanegodd bod y nyrs wedi ymateb iddi ar y pryd drwy ddweud: “Petai wedi gwneud hynny i fy mhlant i bydden i’n ei erlid.”

Gofynnodd Mr Davies iddi a oedd hi’n cofio unrhyw sgwrs rhwng Ieuan Crump a’r nyrs arall am yr angen am sgan ar y bledren.

“Na,” meddai.

Gofynnodd Mr Davies i’r ddynes am ddigwyddiad cyn yr archwiliad cyntaf, pan deimlodd hi boen ar ôl i Ieuan Crump geisio ei throi yn y gwely.

“Nes i sgrechian ar ôl iddo droi fy nghlun,” meddai, gan ychwanegu bod nyrs arall wedyn wedi dod i mewn.

Gofynnodd Mr Davies a oedd Ieuan Crump a’r nyrs arall wedi trafod rhoi sgan ar y bledren iddi, gan ddweud ei bod wedi defnyddio’r gair “nhw” yn ei chyfweliad heddlu.

“Dwi ddim yn cofio’r sgwrs yna,” meddai’r ddynes.

Ychwanegodd y ddynes bod Mr Crump wedi rhoi arwydd ar y drws i bobl beidio dod i mewn, wrth iddo ei harchwilio hi.

Pan ofynnwyd iddi a ddywedodd hi wrth Mr Crump y gallai fod yn feichiog, atebodd: “Dwi ddim yn cofio.”

Dywedodd y ddynes wrth y llys fod Mr Crump wedi gwisgo menig yn ystod yr archwiliad cyntaf, ond nid yr ail.

Pan ofynnwyd iddi gan Mr Davies pam bod hynny’n gwrthddweud ei chyfweliad heddlu, dywedodd: “Mae’n rhaid bod camddealltwriaeth, achos roedd e’n bendant yn gwisgo rhai y tro cyntaf, ond nid yr eildro.”

Dywedodd Mr Davies wrthi: “Rwy’n awgrymu ei fod yn gwisgo menig bob tro iddo eich cyffwrdd.”

“Anghywir,” atebodd y ddynes.

Gofynnwyd iddi wedyn am yr ail archwiliad, ble dywedodd bod porthor wedi ceisio dod i mewn i’r ystafell.

“Naeth e sgrechian arno fe a dweud wrtho fynd allan,” meddai’r ddynes.

Dywedodd Mr Davies fod yr amddiffyniad yn derbyn bod Ieuan Crump wedi cynnal archwiliad o stumog y ddynes, ond nad oedd ei throwsus a’i dillad isaf wedi eu tynnu i lawr ar y pryd.

“Na, roedden nhw islaw’r pengliniau,” meddai’r ddynes.

Dywedodd Mr Davies: “Rwy’n dweud ei fod erioed wedi symud eich clun yn fwriadol.”

“Na,” meddai’r ddynes.

Dywedodd Mr Davies: “Wnaeth e erioed regi ar borthor nac aelod arall o staff.”

“Anghytuno,” meddai’r ddynes.

Ychwanegodd Mr Davies: “Doedd e byth yn gofyn cwestiynau personol i chi.”

Unwaith eto dywedodd y ddynes: “Dwi’n anghytuno.”

Dywedodd y ddynes fod Mr Crump wedi cyffwrdd yn ei horganau rhyw am tua 10 munud yn ystod yr ail archwiliad, gan ddweud ei fod yn rhan o’r drefn arferol.

“Roedd e’n dweud bod angen archwilio’r corff i gyd... bod e’n normal, bod e’n gwneud hyn i bawb,” meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi siarad gyda’i mam-gu, mam a chwaer y diwrnod hwnnw, ond heb fynd i “fanylder llawn” am beth ddigwyddodd.

Yn amddiffyn, dywedodd Mr Davies: “Rwy’n awgrymu na wnaeth Ieuan Crump gyffwrdd yn eich fagina o gwbl ar y dydd Gwener hwnnw.”

“Fe wnaeth e,” oedd ymateb y ddynes.

Wrth gael ei holi eto gan yr erlynydd Matthew Roberts, dywedodd y ddynes ei bod hi wedi sôn am yr ymosodiadau honedig mewn manylder am y tro cyntaf ar 14 Awst 2021, y diwrnod canlynol.

Cafodd nodyn hefyd ei ddarllen i’r llys, o’r dyddiad hwnnw ac wedi arwyddo gan y ddynes, lle roedd aelod o staff yn nodi beth roedd yr achwynydd yn dweud oedd wedi digwydd.

Mae Ieuan Crump yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae’r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig