Ail dymor fel cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i Joseff Gnagbo

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Joseff Gnagbo ei ail-ethol mewn cyfarfod cyffredinol ddydd Sadwrn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cadarnhau y bydd Joseff Gnagbo yn parhau yn gadeirydd ar y mudiad.

Yng nghyfarfod cyffredinol y gymdeithas yn Bow Street ddydd Sadwrn, penderfynwyd y byddai Mr Gnagbo - a wnaeth ffoi i Gymru o'r Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica - yn parhau yn y r么l am ail dymor.

Cafodd ei benodi i'r r么l yn wreiddiol ym mis Hydref 2023 - a hynny ar 么l bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith ers sawl blwyddyn.

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Gnagbo fod y mudiad "wedi adeiladu llawer" yn ei flwyddyn gyntaf yn gadeirydd, "ond mae angen adeiladu ymhellach".

鈥淧an gymerais yr awenau fel Cadeirydd, roeddwn yn gwybod y byddai鈥檙 frwydr dros y Gymraeg yn un heriol. Ond roeddwn yn hyderus yng nghryfder ac ymrwymiad y gymuned hon," meddai.

"Gyda鈥檔 gilydd, rydym wedi parhau i ymladd dros hawliau鈥檙 Gymraeg, adeiladu ar sylfeini鈥檙 rhai a ddaeth o鈥檔 blaenau, ac rydym wedi parhau i bwyso am newid.

鈥淢ae鈥檔 anrhydedd cael fy ethol fel Cadeirydd am ail dymor. Bydd fy ffocws ar ehangu cyrhaeddiad ein hymgyrchoedd, cryfhau ein partneriaethau, ac ar sicrhau bod Cymdeithas yr Iaith yn parhau i fod yn rym cryf dros gyfiawnder ieithyddol a chymdeithasol."