Cosbi swyddog Abertawe a fetiodd yn erbyn ei d卯m ei hun

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae un o swyddogion Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Abertawe wedi cael dirwy a gwaharddiad o'r gamp am flwyddyn ar 么l cael ei ddal yn betio yn erbyn ei d卯m ei hun.

Fe gyfaddefodd Huw Lake, 61, ei fod wedi gosod 2,476 o fetiau ar gemau p锚l-droed rhwng Ebrill 2018 a Medi 2023.

Mae'n gweithio fel swyddog cyswllt y chwaraewyr, ac mae wedi cael ei gyflogi gan y clwb ers 2004.

Dywed y clwb eu bod wedi rhoi cefnogaeth iddo ers dechrau'r broses ac mae'r gefnogaeth yna yn parhau.

Ap锚l am gosb lymach

Cafodd Mr Lake waharddiad 12 mis o'r gamp ym mis Mawrth gan Gomisiwn Rheoli annibynnol, sydd hefyd yn ei atal rhag unrhyw weithgaredd yn ymwneud 芒 ph锚l-droed.

Roedd tri mis cyntaf y gwaharddiad mewn grym yn syth, gyda'r gweddill yn cael ei ohirio tan ddiwedd tymor 2024/25.

Cafodd ddirwy hefyd o 拢1,500.

Apeliodd Cymdeithas B锚l-droed Lloegr yn erbyn y gosb gan ddadlau nad oedd yn ddigon llym.

Ym mis Mai, fe ddyfarnodd Fwrdd Ap锚l Annibynnol bod gohirio naw mis o'r ddedfryd yn rhy drugarog, a phenderfynwyd gosod gwaharddiad 12 mis llawn yn hytrach.

Betio bron i 拢92,000

Clywodd yr ap锚l bod Huw Lake wedi gosod "o leiaf 2,476 o fetiau'n ymwneud 芒 ph锚l-droed" a bod 130 o'r rheiny鈥檔 betio y byddai'r Elyrch yn colli.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, fe fetiodd bron i 拢92,000, gan golli dim ond ychydig yn llai na 10% o'r arian.

Dywedodd llefarydd ar ran CPD Abertawe: "Mae'r clwb wedi cefnogi Huw trwy achos y Gymdeithas B锚l-droed a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Ychwanegodd na fydd y clwb "yn gwneud sylw pellach ynghylch y mater yma".