大象传媒

'Pobl wedi marw' yn sgil oedi gwella gofal iechyd meddwl

Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy gwelliannau heb ddigwydd yn ddigon cyflym mewn ysbytai yn y gogledd, fel Glan Clwyd, meddai'r gr诺p

  • Cyhoeddwyd

Mae honiadau bod bywydau wedi eu colli oherwydd nad yw gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi eu gwneud yn ddigon cyflym.

Daw'r cyhuddiad gan y corff annibynnol Llais, sy'n ymgyrchu ar ran y cyhoedd am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o'r safon uchaf.

Dros y degawd diwethaf mae pedwar adroddiad gwahanol wedi cynnig 84 o argymhellion i wella'r gwasanaeth iechyd meddwl yn y gogledd.

Ond mae adolygiad newydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi canfod mai llai na hanner yr argymhellion sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro ac yn dweud eu bod yn benderfynol o wella'r sefyllfa.

'Mae'r degawd diwethaf yn boenus'

Wrth drafod y mater ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd y cadeirydd Dyfed Edwards, nad yw'n bosib dweud yn union beth aeth o'i le ond "yr hyn sy'n bwysig yw beth rydyn ni am ei wneud o r诺an ymlaen".

"Mae'r degawd diwethaf yn boenus, a'n neges ni heddiw yw bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i ni gydio yn y dyfodol, ac rydyn ni'n gwneud hynny gyda'r nod o gydweithio gyda theuluoedd a gyda phobl eraill sy'n defnyddio ein gwasanaethau heddiw er mwyn creu'r gwasanaethau iechyd a lles gorau posib ar gyfer pobl y gogledd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adroddiad yn gyfle i edrych at y dyfodol meddai Dyfed Edwards

Daeth gwybodaeth am broblemau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2013 pan gaewyd ward dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddi-rybudd.

Dywedodd adroddiad i'r problemau yno fod rhai cleifion oedrannus yn cael eu trin 鈥渇el anifeiliaid mewn s诺鈥.

Ond hyd yn oed cyn hynny roedd y bwrdd iechyd yn ymwybodol o broblemau yn uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Daeth ymchwiliad i'r casgliad fod diwylliant o fwlio yno a mor芒l staff yn isel, oedd yn golygu nad oedd pryderon am ddiogelwch cleifion yn cael y sylw priodol.

Ar y cyfan, cynhaliwyd pedwar ymchwiliad ar wah芒n rhwng 2013 a 2018, a gwnaed nifer fawr o argymhellion i'w gweithredu er lles y gwasanaeth ar draws y gogledd.

37 o 84 argymhelliad wedi dod i rym

Eleni mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (CBS) wedi cynnal adolygiad i weld a gafodd y newidiadau hynny eu rhoi ar waith.

O'r 84 o argymhellion, mae'r CBS yn dweud mai dim ond 37 (44%) oedd yn cael eu gweithredu'n llawn a'u hymgorffori fel rhan o waith arferol staff.

Roedd rhywfaint o dystiolaeth, yn 么l y CBS, bod 41 o newidiadau yn cael eu rhoi ar waith (49%) a dim tystiolaeth ar gyfer y chwe argymhelliad arall (7%).

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Joyce Dickaty yn 2012

Bu farw Joyce Dickaty pan oedd hi'n derbyn triniaeth ar ward Tawel Fan yn 2012.

Mewn ymateb i'r adolygiad dywedodd ei mab, Phil Dickaty: 鈥淩oedd yr argymhellion hyn i fod i gael eu gwneud amser maith yn 么l.

鈥淢ae鈥檙 ffaith ein bod ni yma yn dal i drafod pethau sydd heb eu gwneud, ddeng mlynedd ers yr achos gwaethaf, yn fy mhoeni i'n ofnadwy."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n siom bod rhaid dal i drafod "pethau sydd heb eu gwneud", meddai Phil Dickaty

Mae adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud bod angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr edrych ar frys ar ddiogelwch cleifion, yn enwedig y risg o gleifion yn ceisio niweidio eu hunain.

Yn gynharach y mis hwn, daeth crwner i'r casgliad bod esgeulustod gan y bwrdd iechyd wedi cyfrannu at farwolaeth claf mewn ward iechyd meddwl yn 2020.

Y llynedd, cafodd y bwrdd iechyd ddirwy ar 么l i glaf arall farw ar 么l hunan-niweidio mewn ysbyty gwahanol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen panel goruchwylio annibynnol er mwyn gwella'r sefyllfa, meddai Geoff Ryall-Harvey

Dywedodd llefarydd ar ran Llais, Geoff Ryall-Harvey: "Rydym wedi bod yn dweud wrth y bwrdd iechyd am lawer o'r deng mlynedd diwethaf nad yw pethau wedi'u gwneud, ac nad oedd pethau yr honnir eu bod wedi'u gwneud, wedi digwydd.

"Yn y deng mlynedd hynny bu nifer o ddigwyddiadau pellach 鈥 mae鈥檙 effaith wedi bod yn barhaus, ac mae mwy o drasied茂au a mwy o fywydau wedi'u colli yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Yr hyn sydd ei angen arnom yw panel goruchwylio annibynnol a fydd yn cadarnhau pan fydd pethau wedi'u gwneud a phryd y gellir eu cymeradwyo."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi comisiynu'r adolygiad gan y CBS yn sgil "sawl adolygiad beirniadol, adroddiad ac erlyniad".

"Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn canfyddiadau'r adolygiad ac rydym yn disgwyl iddyn nhw gael eu gweithredu, a hefyd parhau i wneud gwelliannau wrth weithredu polis茂au diogel ar draws y gwasanaethau iechyd meddwl.

"Rydym yn falch bod awduron yr adroddiad wedi sylwi ar ymroddiad staff y bwrdd iechyd a'u hymrwymiad clir i ofal cleifion a gwella'r gwasanaeth."

Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Fel bwrdd rydym yn croesawu'n fawr yr adolygiad hwn o gynnydd, mae'n ein hatgoffa bod pobl wedi cael eu siomi ac rydym yn ymddiheuro'n llwyr amdano.

"Er gwaethaf treigl amser ni fyddwn byth yn anghofio gofal a phrofiadau gwael cleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd a arweiniodd at yr adolygiadau hyn a dyma sy'n parhau i'n gyrru ymlaen i wella'r safonau gofal, yn ogystal 芒'r driniaeth a ddarparwn.

"Er bod llawer o gynnydd wedi'i wneud mae mwy eto i'w gyflawni ac mae'r bwrdd yn benderfynol o gymryd camau sy'n gwella gwasanaethau, a byddwn yn gwneud hynny ar y cyd 芒 chleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd."