'Angen osgoi cymharu bywydau pobl ifanc 芒'u rhieni'

Ffynhonnell y llun, Ellie Harris

Disgrifiad o'r llun, Mae Ellie Harris o Ferthyr yn dal i fyw gyda'i rhieni
  • Awdur, Charlie Buckland ac Ellie Carter
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae nifer o bobl ifanc yn teimlo y dylid rhoi mwy o ffocws ar ddathlu cerrig milltir bywyd mwy perthnasol iddyn nhw, yn hytrach na chymharu gyda bywydau eu rhieni.

Priodi, prynu t欧 ac yna cael plant oedd y drefn neu'r disgwyliad traddodiadol i nifer mewn cenedlaethau blaenorol, ond mae rhain yn bethau sy'n digwydd yn hwyrach ym mywydau nifer o bobl ifanc y dyddiau hyn, un ai o ddewis, neu oherwydd ffactorau fel arian.

Mewn fideos sydd wedi eu rhannu gan ddegau o filiynau o bobl ar Tiktok yn ddiweddar, mae pobl ifanc wedi bod yn cymharu eu bywydau nhw gyda bywydau eu rhieni pan yr oedden nhw yr un oed.

Yn aml, mae'r fideos yma yn dangos bod y rhieni yn briod neu wedi llwyddo i brynu t欧, tra bod y person ifanc ddim - ond mae 'na alw nawr am roi mwy o sylw i gerrig milltir eraill mwy addas i'r genhedlaeth ifanc.

Roedd rhieni Ellie Harris, 25, yn briod gyda thri o blant yn ei hoed hi, ond mae hi'n credu nad yw pobl yn cydnabod y ffaith ei fod yn "amser cwbl wahanol".

Mae hi'n annog eraill i ddathlu eu campau eu hunain, boed hynny'n gadael swydd y maen nhw'n anhapus ynddi neu dechrau rhedeg, yn hytrach na chymharu 芒'r cenedlaethau o'u blaenau.

Daeth astudiaeth gan yr elusen Relate i'r gasgliad bod 95% o Gen Z (pobl gafodd eu geni rhwng 1997 a 2012) ac 88% o millennials (pobl gafodd eu geni rhwng 1980 a 1997) yn teimlo bod rhai cerrig milltir bywyd y dylai cymdeithas eu hadnabod yn well, gan gynnwys rhedeg marathon, gadael perthynas sydd ddim yn iach neu gadael swydd.

Ffynhonnell y llun, Ellie Harris

Disgrifiad o'r llun, Mae Ellie wedi teithio'r byd, rhywbeth nad oedd ei rhieni wedi gallu ei wneud yn ei hoedran hi

Un o'r gwahaniaethau mawr rhwng pobl ifanc heddiw a chenedlaethau blaenorol yw bod nifer yn byw gyda'u rhieni tan eu bod yn llawer h欧n.

Dywedodd Ellie, o Ferthyr, sy'n byw gyda'i mam o hyd, nad oes ganddi unrhyw fwriad i 'setlo lawr' yn fuan.

鈥淢ae鈥檔 amser hollol wahanol, dydw i ddim yn gwybod sut wnaethon nhw (ei rhieni) hynny bryd hynny.

鈥'Dwi ddim am wneud y pethau hynny, a dim just oherwydd ei fod allan o gyrraedd ar hyn o bryd.

鈥淔yddwn i ddim yn gallu prynu cartref ar fy nghyflog i nawr, byddai鈥檔 rhaid i mi wneud gyda rhywun arall.鈥

Teithio 'yn garreg filttir enfawr'

Fe wnaeth Ellie gymryd seibiant o'i gwaith y llynedd i fynd i deithio o amgylch Awstralia a de ddwyrain Asia am dros flwyddyn.

鈥淣es i deithio i ochr arall y byd, a dwi鈥檔 meddwl bod hynny鈥檔 garreg filltir enfawr."

Dywedodd nad oedd y cyfleoedd i deithio yr un fath i鈥檞 rhieni ac maen nhw鈥檔 ei hannog i fynd i weld y byd.

鈥淢ae Mam bob amser yn dweud nad yw鈥檔 difaru dim o鈥檌 dewisiadau, ond fydden i wedi hoffi gwneud mwy.鈥

Ffynhonnell y llun, Natalie Earley

Disgrifiad o'r llun, Roedd Natalie Earley yn teimlo dan bwysau wrth weld ffrindiau yn priodi ac yn prynu tai

Mae Natalie Earley, 28, mewn sefyllfa debyg gan ei bod hi hefyd yn dweud bod ei rhieni wedi priodi ac wedi prynu t欧 pan yr un oedran 芒 hi, rhywbeth sy鈥檔 teimlo fel "byd arall" o'i gymharu 芒 lle mae hi nawr.

Mae Natalie wedi bod 芒 phartner ers cryn amser ond dydi hi ddim yn bwriadu prynu cartref, priodi na chael plant yn y dyfodol agos, ac mae'n hapus 芒 hynny.

"Rwyf wedi rhannu t欧 gyda phobl eraill ers gadael y brifysgol," meddai.

"Er fy mod i鈥檔 gyfforddus 芒 pheidio 芒 bod yn berchen ar fy nghartref fy hun, mae o mor bell allan o'n nghyrraedd yn ariannol.鈥

'Mae cymaint mwy i fywyd'

Dywedodd Natalie ei bod hi'n arfer teimlo dan bwysau wrth weld rhai o'i ffrindiau'n cyflawni'r cerrig milltir hynny, ond nid yw'n poeni am y peth rhagor.

鈥淩oedd teithio yn agoriad llygad i mi... ni gyd yn byw ar ras yn y DU," meddai.

鈥淒yw e ddim yn flaenoriaeth i mi, ac er y dylwn ni ddathlu cerrig milltir traddodiadol mae cymaint mwy i fywyd hefyd.

鈥淥s ydyn ni鈥檔 teimlo fel dathlu rhywbeth yna mae鈥檔 werth dathlu, yn enwedig os ydych chi鈥檔 falch ohono.鈥

Yn 么l yr arbenigwr cyllid personol, Laura Pomfret, mae'r tirwedd economaidd rhwng cenedlaethau h欧n a'r rhai iau yn dra gwahanol.

鈥淒ydi mwynhau coffi bob wythnos ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i arbedion ar gyfer blaendal am d欧,鈥 dywedodd Laura.

Ychwanegodd fod y sefyllfa economaidd y tu allan i reolaeth pobl yn llwyr.

鈥淗eb gefnogaeth rhieni nac etifeddiaeth, yn fathemategol mae鈥檔 llawer anoddach i genedlaethau iau feddwl am y buddsoddiadau mawr hynny.鈥