Beirniadaeth o ardal LHDTC+ yr Urdd yn 'warthus'

Disgrifiad o'r fideo, Barn rhai o Eisteddfodwyr am yr ardal LHDTC+ newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd
Cipolwg
  • Am y tro cyntaf, mae gan yr Urdd ardal i'r gymuned LHDTC+ ar faes yr eisteddfod
  • Cafodd y syniad ei feirniadu gan rai ar y cyfryngau cymdeithasol fel un "gwirion"
  • Dywedodd prif weithredwr yr Urdd ei bod hi'n "warthus" gweld rhai o'r sylwadau "sarhaus ac eithafol"
  • Mae eraill, fel y cyflwynydd Owain Wyn Evans a'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles, wedi cefnogi safbwynt yr Urdd

Mae prif weithredwr yr Urdd wedi dweud bod beirniadaeth gan rai o ardal LHDTC+ ar faes yr eisteddfod ieuenctid yn "gwbl warthus".

Eleni am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd, cafodd ardal Cwiar Na Nog ei sefydlu er mwyn dathlu a chynnig cyfle i ddysgu mwy am y gymuned cwiar yng Nghymru.

Mae'r babell liwgar wedi ei dynodi fel "lle saff" gan yr Urdd i blant a phobl ifanc gymdeithasu, rhwydweithio a dysgu mwy am eu hunaniaeth drwy'r iaith Gymraeg.

Yn ogystal â chynnal digwyddiadau, mae Cwiar Na Nog hefyd yn gwerthu bathodynnau rhagenwau.

Disgrifiad o'r llun, Ardal Cwiar Na Nog ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon

Mae staff yr Urdd wedi bod yn gwisgo'r bathodynnau drwy'r wythnos, gan annog eraill i wneud yr un peth.

Mae hyd yn oed Mr Urdd wedi bod yn gwisgo bathodyn 'Fe/Fo'.

Ond wrth hyrwyddo hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'r mudiad ieuenctid wedi cael eu beirniadu gan rai.

Dywedodd un defnyddiwr Twitter o'r enw Helen: "Pam? Gadewch i blant fwynhau heb wthio'r ideoleg yma arnyn nhw."

Roedd sylwadau eraill yn cynnwys y geiriau "gwirion", "siomedig" a "gwarthus".

Ychwanegodd person arall ar Twitter: "Mae'n ŵyl i blant, nid gŵyl LHDTC.

"Fydd fy mhlant i ddim yn gwneud unrhyw beth gyda'r Urdd yn y dyfodol."

Ymateb 'positif' pobl ifanc

Ond mae eraill wedi canmol yr Urdd am fod yn gynhwysol, gan ddilyn eu mantra o 'Urdd i Bawb'.

"Dyma fi'n datgan bod aelodau go iawn y gymuned LHDTC+ yn gwerthfawrogi cael ein gweld a'n derbyn," meddai Alun Saunders, sy'n ddramodydd, actor a pherfformiwr drag.

"Diolch i'r Urdd."

Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd fod beirniadaeth gan rai yn "gywilyddus".

"Bydd yr Urdd yn parhau i ddangos ein cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mistar Urdd - gyda'i het fwced enfys - wedi bod yn bresenoldeb amlwg ar y maes yn Llanymddyfri

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Urdd: "Mae’r sylwadau sarhaus ac eithafol a rannwyd gan rai unigolion yn erbyn safbwynt yr Urdd i gefnogi’r gymuned LGBTQ+ yn siomedig tu hwnt.

"Fel mudiad cynhwysol ac agored sy’n cefnogi ein holl bobl ifanc mae’n bwysig i ni ddangos cefnogaeth.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i bartneriaid ardal ‘Cwiar Na Nog’ am eu cefnogaeth i ddatblygu arlwy y maes eleni ac mae’r ymateb gan ein pobl ifanc yn bositif iawn.

"Os oes unrhyw berson ifanc wedi eu heffeithio gan y sylwadau mae swyddogion ieuenctid yr Urdd a’n partneriaid ar gael i gynnig cymorth."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Owain Wyn Evans yn gwisgo bathodyn rhagenwau wrth ymweld â'r maes ddydd Iau

Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau ydy'r cyflwynydd Owain Wyn Evans, sydd wedi siarad yn y gorffennol am ddelio gyda sylwadau sarhaus am ei rywioldeb.

"Pa mor lwcus y'n ni bod yr Urdd yn newid gyda'r amseroedd fel ardal Cwiar na Nog?" meddai wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg.

"Tase rhywbeth fel hyn wedi bodoli pan o'n i'n iau bydde fe wedi newid bywyd fi'n llwyr.

"Mae'n dangos bod e'n iawn i fod yn hoyw, bod e'n iawn i fod yn LGBT."

Disgrifiad o'r fideo, Jeremy Miles: "Dwi ddim yn deall o lle mae'r feirniadaeth honno'n dod"

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles, oedd hefyd ar faes yr eisteddfod ddydd Iau, nad oedd yn "deall" pam fod rhai pobl yn beirniadu'r bathodynnau rhagenw.

"Yn syml, mae hwn yn rhywbeth mae pobl ifanc Cymru wedi gofyn amdano fel rhan o ymgysylltiad yr Urdd," meddai.

"Felly'r lleisiau mae gen i ddiddordeb eu clywed yw lleisiau pobl ifanc Cymru, achos dyna pwy mae'r Urdd yn eu gwasanaethu.

"Os 'dych chi eisiau gwisgo bathodyn, gwisgwch un, ac os nad ydych chi eisiau gwisgo bathodyn, peidiwch.

"Mae hwn yn fater o gynwysoldeb a chyfartaledd, a dwi'n meddwl fod e'n ddatblygiad positif."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Aled Rosser fod pobl ifanc yn gallu dod at Cwiar Na Nog i "ofyn cwestiynau heb feirniadaeth"

Aled Rosser oedd un o drefnwyr ardal Cwiar Na Nog ar y maes.

"Mae'n really bwysig bod yr arlwy yna yn dod o lawr gwlad, pobl ifanc cwiar Cymru," meddai.

"Y peth pwysig 'naeth ddod o'r sgwrs oedd bod nhw eisiau gofod saff, gallu gofyn cwestiynau heb feirniadaeth.

"O'dd cynnig bathodynnau rhagenwau yn bwysig iawn.

"Ni 'di cael ymateb cadarnhaol ac mae Mr Urdd hefyd yn gwisgo'i ragenw.

"Ond cychwyn ydyn ni, ni eisiau datblygu fe i fod yn rhywbeth mwy a mwy gweledol."

Disgrifiad o'r llun, Mae pabell Cwiar Na Nog wedi bod yn gwerthu bathodynnau rhagenwau fel y rhain

Mae Merched Cymru yn disgrifio eu hunain fel grŵp llawr gwlad sy'n "amddiffyn a chryfhau hawliau ar sail rhyw merched a menywod".

Maen nhw wedi beirniadu safbwynt yr Urdd, ac yn benodol am y ffaith eu bod nhw'n "canolbwyntio ar ragenwau".

Ychwanegodd y mudiad eu bod nhw'n "cefnogi mentrau ystyrlon i fynd i’r afael â rhywiaeth, homoffobia a stereoteipio ar sail rhyw", gan gynnwys gadael i blant "fod eu hunain".

"Nid yw canolbwyntio ar ragenwau yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r stereoteipiau hyn," meddai'r mudiad.

"[Mae'n] hyrwyddo’r gred anwyddonol bod ‘hunaniaeth rhywedd’ a stereoteipiau yn fwy arwyddocaol nag os ydym yn wrywaidd neu’n fenywaidd yn gorfforol.

"Nid yw'n briodol felly i fudiad fel yr Urdd wthio ideoleg ddadleuol sydd heb unrhyw sail mewn gwirionedd, ac sy'n groes i'r hyn a wyddwn am ddatblygiad y plentyn."