Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Al Parr
Tro Alun Parrington neu Al Parr yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Al yn prysur gwneud enw iddo fo ei hun fel comed茂wr.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae bellch yn byw yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Yn 2019 fe ddechreuodd wneud stand-yp ar 么l i ffrind roi ei enw i lawr.
Ers hynny mae'n sgwennu ac actio mewn prosiectau ar gyfer S4C, fel Deli Derfel, Iawn M锚t?, a fo oedd cyflwynydd y noson gomedi gyntaf LGBTQ+ i S4C erioed ei ddangos, sef Ffyrnig n么l yn 2022.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Roedd Dad yn obsessed efo hen geir, ac fel teulu sa ni鈥檔 mynd i lot o Sioea Hen Geir.
Felly un o rheina dwi鈥檔 meddwl. Eironic, chos nesh i鈥檓 pasho鈥檔 nhest gyrru tan o'n i鈥檔 25.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Adra, sef ardal Dyffryn Nantlle.
Dwi'n methu'r lle鈥檔 anferthol ers symud i Rhuddlan n么l yn 2022.
Dwi wrth fy modd mynd a鈥檙 ci (Oreo) am dro pam fydda i adra, a gweld yr olygfa hudolus o Foel Tryfan tuag at Yr Wyddfa. Very Lord of the Rings!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ffyni, Geeky a Sassy.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Lot gormod o ddewis! O'n i鈥檔 gweithio mewn Tesco pan o'n i鈥檔 student a weithia fyswn i'n servio pobl mewn full on American accent just i neud gweddill y staff chwerthin.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dwi鈥檔 gwatchad Grey鈥檚 Anatomy ar y funud a newydd orffan cyfres 11 lle ma' un o鈥檙 prif gymeriadau (na鈥檌 ddim enwi) yn marw.
Un gair鈥 devastated.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, talu am aelodaeth gym ond ddim mynd.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Wild: From Lost to Found on the Pacific Crest Trail gan Cheryl Strayed. Llyfr a ffilm hollol anhygoel sy鈥檔 adrodd stori wir.
Mae pob tro鈥檔 fy atgoffa nad ydi cyfnodau anodd mewn bywyd yn para' am byth.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Dad. Yn anffodus fu farw fy nhad (Gareth Parrington) yn sydyn pan o'n i鈥檔 wyth mlwydd oed.
Sa鈥檔 meddwl y byd cal cyfarfod fo eto, ond dwi鈥檓 yn si诺r be sa fo鈥檔 feddwl o fi鈥檔 bod yn gomed茂wr a dim mechanic chwaith. Sori Dad.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Methu meddwl am dim byd ddiddorol. Dwi eitha agored fel person, rhy agored 'sa pobl sydd wedi gweld fy stand-yp yn ei ddeud mashwr鈥.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Selfie efo Russell T Davies. Dwi鈥檔 ffan enfawr o Doctor Who, ac hefyd o holl waith Davies.
Fo ydi un o ysgrifenwyr teledu gorau erioed. Felly, pan neshi digwydd ei weld tra鈥檔 Manceinion am y diwrnod, roedd rhaid i mi ofyn am selfie.
Roedd o鈥檔 ofnadwy o annwyl ac yn gwrando wrth i mi ramblo ymlaen am gymaint oedd ei waith o鈥檔 golygu i fi.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
'Swn i鈥檔 licio deud wbath rili meddylgar, ond os dwi鈥檔 hollol onast swni鈥檔 trio clirio pob dim dwi wedi ei casglu dros y blynyddoedd.
'Swn i鈥檓 yn licio meddwl am fy nheulu yn gorfod sortio trwy peil anferth o ddillad a eiddo ar 么l fi fynd.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Ydi o鈥檔 cal bod yn berson ffuglennol? 'Swn i鈥檔 licio bod yn Superman am y dydd.
Dwi 'di bod yn ffan o鈥檙 ffilms eiconig Christopher Reeve ers o'n i鈥檔 ddim o beth. Felly 'sa cael ei bwerau am ddiwrnod yn anhygoel.
Dwi鈥檔 meddwl am hyn pob tro dwi鈥檔 styc mewn traffig: 鈥淪a鈥檔 neis gellu just hedfan wan a bod adra mewn chydig funudau鈥.