Ymchwilio i honiad o hiliaeth yn erbyn clwb o Gymru

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae honiad o hiliaeth wedi'i wneud ar 么l g锚m CPD Tref Merthyr a Hungerford Town ddydd Llun

Mae clwb p锚l-droed o Gymru yn ymchwilio i honiad o hiliaeth ar 么l g锚m ddydd Llun.

Mae CPD Tref Merthyr, sy'n chwarae'n seithfed haen cynghrair Lloegr, yn dweud eu bod wedi cael gwybod am ddigwyddiad honedig ym Mharc Penydarren.

Mae Hungerford Town wedi cyhuddo 鈥渞han o鈥檙 dorf gartref鈥 o gam-drin yr amddiffynnwr Ramarni Medford-Smith yn hiliol yn ystod y g锚m yn y Southern League Premier South.

Dywedodd Merthyr eu bod yn "condemnio'n gryf" unrhyw ymddygiad o'r fath.

Ar 么l y g锚m dywedodd rheolwr Hungerford, Danny Robinson, bod "p锚l-droed yn amherthnasol heddiw ar 么l yr hyn aeth fy chwaraewr drwyddo".

鈥淢ae cael eich cam-drin yn hiliol yn 2024 yn gwbl anfaddeuol ac mae angen i rywbeth mawr ddigwydd.

Ychwanegodd na fyddai wedi beio'r chwaraewr am adael y cae, ond eu bod wedi trafod a'i fod o eisiau parhau.

"Mae wedi difetha perfformiad gwych gan d卯m da iawn", meddai Robinson.

'Gwaharddiad oes'

Enillodd Merthyr y g锚m 3-0 i symud yn 么l i safleoedd y gemau ail gyfle.

Dywedodd y clwb mewn datganiad ar 么l y g锚m eu bod yn gweithio gyda swyddogion y g锚m a Hungerford Town i ddelio 芒鈥檙 digwyddiad honedig 鈥渃yn gynted 芒 phosibl鈥.

Dywedodd y clwb: "Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau. Fodd bynnag, fel clwb cymunedol, mae CPD Tref Merthyr yn condemnio'n gryf y defnydd o iaith hiliol, sarhaus neu homoffobig o unrhyw ddisgrifiad: boed hynny gan gefnogwr rheolaidd neu achlysurol; gartref neu oddi cartref.

鈥淵n syml, ni fydd ymddygiad o鈥檙 fath yn cael ei dderbyn, a bydd camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw unigolyn sy'n cael ei adnabod - gan gynnwys gwaharddiad oes o鈥檙 clwb, ac unrhyw gamau cyfreithiol a allai ddilyn.鈥

Mae'r clwb yn gofyn i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am yr honiadau i gysylltu 芒 nhw.

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru a Heddlu De Cymru wedi cael cais am eu hymateb.