Problemau technegol yn tarfu ar wasanaethau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyw rhai meddygfeydd ddim yn gallu gweithredu fel arfer yn sgil y problemau technegol

Mae problemau technegol byd-eang wedi cael effaith sylweddol ar systemau nifer o feysydd awyr, darlledwyr, a meddygfeydd fore dydd Gwener.

Dywedodd cwmni Microsoft eu bod yn parhau i fynd i鈥檙 afael ag 鈥渆ffaith barhaus鈥 y problemau ar eu gwasanaethau.

Nid yw union achos y broblem yn hysbys, er bod sawl cwmni wedi beio'r nam ar feddalwedd seiberddiogelwch Crowdstrike sy'n effeithio ar gyfrifiaduron Windows.

Dywedodd cwmni trenau Trafnidiaeth Cymru bod y problemau technegol wedi effeithio arnyn nhw ond ar hyn o bryd maen nhw'n dweud bod 鈥測 gwasanaethau'n rhedeg fel arfer ond efallai y bydd newidiadau byr rybudd".

Y cyngor i gwsmeriaid yw gwirio y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd un feddygfa yn Llanrhymni, Caerdydd: 鈥淎r hyn o bryd ni allwn gael mynediad i鈥檔 system glinigol.

"Rydym yn gweithredu gwasanaeth cyfyngedig nes ein bod ni鈥檔 gwybod mwy. Ffoniwch dim ond os yw鈥檔 argyfwng; gallwch ddefnyddio wasanaeth111 neu fynd i fferyllfeydd lleol.鈥

Dywedodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), sy鈥檔 gyfrifol am systemau digidol GIG Cymru, fod 鈥済wasanaethau hanfodol鈥 yn 鈥済weithredu fel arfer.鈥

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: 鈥淩ydym yn ymwybodol o rywfaint o effaith ar wasanaethau digidol lleol ledled Cymru ac ar rai defnyddwyr ap GIG Cymru.

"Mae DHCW, byrddau iechyd, a鈥檔 timau cyflenwyr digidol yn gweithio鈥檔 galed i ddatrys y problemau ac yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyw hi ddim yn ymddangos fod trafferthion ym maes awyr Caerdydd ar hyn o bryd, ond mae yna gyngor i gwsmeriaid wirio y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio

Dyw hi ddim yn ymddangos fod trafferthion ym maes awyr Caerdydd ar hyn o bryd ond mae cwsmeriaid TUI yn dweud bod yna broblemau gyda gwirio bagiau.

Mae tair hediad TUI fod i adael maes awyr Caerdydd yn ddiweddarach heddiw.

Rhybuddiodd cwmni hedfan Ryanair am 鈥渁mhariadau posib ar draws y rhwydwaith鈥 yn sgil y problemau technegol.

Nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi adrodd am broblemau mawr neu amhariad ar eu systemau technegol.

Nid oedd teledu Sky News yn gallu darlledu yn fyw oherwydd y problemau.

Mae cwmni trenau mwyaf Prydain hefyd wedi rhybuddio teithwyr i ddisgwyl oedi ar y rhwydwaith. Cyhoeddodd Govia Thameslink Railway (GTR), sy鈥檔 rheoli cwmn茂au Southern, Thameslink, Gatwick Express, a Great Northern, rybudd ar eu cyfrifon cymdeithasol.

Dywedodd y cwmni: 鈥淩ydym ar hyn o bryd yn profi problemau technegol eang ar draws ein rhwydwaith cyfan. Mae ein timau arbenigol wrthi鈥檔 ymchwilio i ganfod achos y broblem."