Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bangor: Miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae miloedd wedi gorymdeithio drwy strydoedd Bangor i gefnogi Cymru annibynnol.
Dyma鈥檙 digwyddiad diweddaraf i gael ei drefnu gan Yes Cymru ac All Under One Banner (AUOB).
Daeth miloedd hefyd ynghyd yng ngorymdaith debyg yn Abertawe fis Mai.
Yn 么l y trefnwyr mae鈥檙 niferoedd uchel sy鈥檔 mynychu yn dangos bod y galw am Gymru annibynnol yn cynyddu.
Geraint Thomas ydy un o gyfarwyddwyr Yes Cymru ac un o drefnwyr yr orymdaith ym Mangor.
Dywedodd eu bod wedi disgwyl i rhwng tua 6,000 a 8,000 o bobl fynychu.
Ers hynny mae'r mudiadau wedi dweud y gwnaeth dros 10,000 ymuno.
鈥淢ae gweld cymaint o bobl yma ym Mangor yn wych," dywedodd.
"Mae鈥檔 dangos p诺er y neges a鈥檙 cynnydd aruthrol yn y gefnogaeth i annibyniaeth sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
鈥淓in nod ni yma heddiw yw lledaenu鈥檙 neges ymhellach ac i geisio dangos i bobl beth sy鈥檔 bosib i ni fel cenedl.鈥
Ymhlith y miloedd a fynychodd yr orymdaith oedd Llio Roberts.
鈥淒wi鈥檔 meddwl bod hi鈥檔 hynod o bwysig ein bod ni yma heddiw.
"Mae鈥檔 cyfle i rannu ein neges ni i鈥檙 ardal yma ac i weddill y wlad, meddai.鈥
'Lledaenu neges'
Mae Ioan Bryn yn dod o Fangor, ac yn falch i weld gorymdaith o鈥檙 fath yn dod i鈥檞 ddinas enedigol.
Dywedodd: 鈥淢ae鈥檔 wych i gael hwn ym Mangor heddiw, dyma fy nghartref i.
"Mae鈥檔 gr锚t gweld ffrindiau a theulu a gallu lledaenu鈥檙 neges i bobl sydd falle' heb glywed am Gymru annibynnol a beth gallai hynny feddwl."
Mae Angharad Gwyn o Gaernarfon wedi mynychu sawl gorymdaith debyg o鈥檙 blaen.
鈥淗andi iawn cael yr orymdaith yma ym Mangor achos dw i鈥檔 byw ochrau Caernarfon," dywedodd.
"Mae鈥檔 braf bod y digwyddiadau yma yn symud rownd y wlad ac yn dod i lefydd fel Bangor.
"Dwi wedi bod i orymdeithiau tebyg yng Nghaerdydd a llefydd eraill o鈥檙 blaen ac mae鈥檔 bwysig parhau i gynnal nhw i gadw鈥檙 momentwm."