Heddwas yn euog o gicio ei wraig i lawr grisiau

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd Huw Orphan yn euog o achosi niwed corfforol difrifol

Mae heddwas wedi ei gael yn euog o dorri cefn ei wraig trwy ei chicio i lawr y grisiau yn eu cartref.

Cafwyd Huw Orphan, 31 o'r Barri, yn euog gan reithgor o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe wnaeth Amy Burley, sydd hefyd yn swyddog heddlu, dorri ei chefn yn y digwyddiad yn oriau m芒n y bore ar 8 Ebrill 2020.

Dywedodd wrth y llys ei bod hi'n dal mewn poen hyd heddiw, a'i bod hi'n ei chael hi'n anodd chwarae gyda'i phlant.

Roedd Orphan wedi gwadu ymosod arni, gan ddweud wrth y rheithgor ei fod wedi ei chicio hi ar ddamwain yn dilyn ffrae.

Dieuog o gyhuddiad mwy difrifol

Cafwyd yn ddieuog o gyhuddiad mwy difrifol o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Ond fe wnaeth y rheithgor benderfynu ei fod yn euog o achosi niwed corfforol mewn digwyddiad arall hefyd.

Fe wnaeth y cwpl gyfarfod tra'n gweithio i Heddlu Gwent yn 2017, gan briodi yn 2019, ond clywodd y llys eu bod yn ffraeo yn aml.

Ar y noson dan sylw, dywedodd Orphan fod ei wraig wedi ei faglu ar y grisiau, a'i fod wedi ei chicio mewn camgymeriad tra'n ceisio neidio yn uwch i fyny'r grisiau i'w hosgoi.

Dywedodd mai ei wraig oedd wedi colli ei thymer, ac nid ef.

Ond roedd yr erlyniad wedi honni ei fod wedi cicio ei wraig yn fwriadol, gan wneud iddi "hedfan am yn 么l" i lawr y grisiau, a thorri ei chefn.

Bydd Orphan yn cael ei ddedfrydu ar 25 Hydref.