Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhannu fideos am golli gwallt yn cyrraedd miliynau o bobl
- Awdur, Annell Dyfri
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae menyw ifanc sydd wedi byw gydag alopesia ers iddi fod yn 13 oed yn dweud bod ei "gwallt yn dal i fod yn rili bwysig ond mae byw bywyd yn bwysicach erbyn hyn".
Er i Nicole Thomas, sy'n wreiddiol o Ynys M么n, gael triniaeth lwyddiannus yn ystod ei harddegau fe ddechreuodd hi golli ei gwallt unwaith eto y llynedd.
Dywedodd ei bod wedi "dod i ddysgu sut i ddelio efo'r cyflwr" er ei bod "dal yn rili anodd o ddydd i ddydd".
Mae bellach yn rhannu cynnwys digidol, sy'n cyrraedd miliynau o bobl, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
'Do'n i ddim yn byw'
Wrth edrych yn 么l ar y cyfnod pan gafodd y diagnosis, dywedodd ei fod yn "rili anodd, ro'n i'n hogan yn fy arddegau... dydi o ddim yn beth normal i hogan golli ei gwallt".
Aeth ymlaen i s么n am yr effaith feddyliol gafodd y cyflwr arni fel merch ifanc.
"Doedd gen i ddim lot o hyder, 'swn i'n deud yn sb茂o 'n么l mod i wedi dioddef o iselder hefyd.
"O'n i ddim eisiau gadael y t欧, o'n i ddim eisiau siarad, colli ffrindiau, o'n i ddim hyd yn oed eisiau siarad efo mam a dad. Nes i stopio mynd i'r ysgol.
"'Swn i'n deud alopesia oedd bywyd fi, roedd o'n cymryd drosodd pob dim ac o'n i ddim yn byw."
Erbyn hyn, mae'n dweud ei bod wedi "dysgu sut i ddelio efo'r cyflwr, ma' dal yn rili anodd o ddydd i ddydd".
"Fedrai'm gadael y cyflwr i gymryd dros bywyd fi eto."
Wedi iddi sylwi ei bod yn dechrau colli ei gwallt eto ryw flwyddyn yn 么l, dywedodd ei bod wedi penderfynu rhannu ei thaith ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Fedrai'm cuddio ddim mwy, fedrai'm jyst aros yn stafell fi, roedd rhaid i fi ddechrau siarad," meddai.
Dywedodd ei bod wedi "ffeindio gymaint o gymorth o rannu fy stori... a gobeithio yn sgil hynny 'mod i wedi gallu rhoi cysur a chymorth i bobl eraill sy'n dioddef".
O'r ferch fach ddihyder oedd yn methu gadael ei hystafell wely, i gynhyrchu fideos sy'n denu miliynau o wylwyr, dywedodd: "Dwi鈥檔 meddwl 'sa鈥檙 person o ni yn fy arddegau yn cael sioc huge yn gweld pa mor hyderus ydw i yn rhannu fy stori ar-lein i filiynau o bobl gael gweld.鈥
Ond dywedodd ei bod yn "teimlo鈥榥 reit drist hefyd yn sb茂o 'n么l ar y person oeddwn i achos dwi鈥檔 meddwl fydde stori fi lot gwahanol os fysen i jyst wedi ffeindio鈥檙 hyder 'na o rywle i allu siarad".
Triniaeth newydd yn 'cynnig gobaith'
Er nad oes gwellhad hir-dymor ar gyfer y cyflwr, mae triniaeth newydd wedi ei chymeradwyo ar y gwasanaeth iechyd eleni.
Bydd y cyffur Ritlecitinib neu Litfulo ar gael yng Nghymru, gyda galw sylweddol amdano.
Dywedodd Dr Megan Samuel, sy'n arbenigo mewn cyflyrau sy'n effeithio ar y croen, fod y cyffuriau newydd sydd wedi eu cynnig yn ddiweddar "yn cynnig gobaith" a'u bod yn "addawol iawn i bobl sy'n dioddef o alopesia".
Esboniodd fod y driniaeth newydd yn "helpu'r gwallt i dyfu 'n么l ac yn gweithio mewn ffordd lle mae'n atal y system imiwnedd i ymosod ar y follicles gwallt yna".
Dywedodd fod alopesia yn "gyflwr hynod anodd i鈥榳 drin a s'dim gwellhad ar ei gyfer".
Ychwanegodd fod y cyflwr yn "gallu dod 'n么l... ma' rhai pobl yn dioddef am weddill eu bywyd gyda'r cyflwr yma".
"Ma hwn [y driniaeth newydd] yn gallu bod yn rhywbeth falle bydd yn helpu pobl i gael y gwellhad y maen nhw wedi disgwyl amdano ers sbel".
I Nicole, mae'r driniaeth newydd "wedi rhoi gobaith i ni sy鈥檔 dioddef, doedd gynnon ni ddim opsiynau o鈥檙 blaen".
Mae hi'n "dal i gysidro" a fydd hi'n manteisio ar y driniaeth.