大象传媒

'Methiannau gofal' am ddyn a wnaeth ladd dynes a'i thorri'n ddarnau

June Fox-Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw June Fox-Roberts yn ei chartref ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd wedi nodi methiannau yng ngofal claf a laddodd fam-gu 65 oed yn ei chartref ger Pontypridd.

Bu farw June Fox-Roberts ar 么l i Luke Deeley, oedd 芒 chyflwr sgitsoffrenia paranoiaidd, ymosod arni hi yn 2021.

Fe gafodd ei anfon i ysbyty diogel am gyfnod amhenodol ar 么l pledio'n euog i ddynladdiad pan nad oedd yn ei iawn bwyll.

Nododd adroddiad diogelu fod ei deulu yn poeni'n fawr am ei gyflwr ym mis Tachwedd 2021, ychydig wythnosau cyn iddo ladd Ms Fox-Roberts.

Yn 么l yr adroddiad roedd ei driniaeth "yn anghyson" ac fe fethodd asiantaethau 芒 rhannu gwybodaeth amdano wedi iddo fynd ar goll.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiheuro ac wedi derbyn argymhellion yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Luke Deeley ei anfon i ysbyty diogel am gyfnod amhenodol

Roedd June Fox Roberts, 65, wedi gweithio fel ymgynghorydd technoleg gwybodaeth yn ogystal 芒 rhedeg sawl busnes.

Cafodd ei disgrifio gan ei theulu fel "person llawn egni oedd yn gwirioni ar ei phlant a'i hwyrion".

Ym mis Tachwedd 2021, fe gafodd ei lladd mewn ymosodiad ciaidd yn ei chartref ar stad dai yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd.

Roedd Luke Deeley, a oedd yn fyfyriwr 25 oed, wedi dewis ei chartre ar hap a gweld nad oedd y drws wedi ei gloi.

Ar 么l ei tharo'n anymwybodol聽fe dorrodd ei chorff yn ddarnau. Roedd e wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia paranoid.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Cafodd聽adolygiad diogelu ei gynnal i ystyried rhan Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf, Heddlu'r De a Phrifysgol De Cymru yn yr hyn ddigwyddodd.

Yn 么l yr adroddiad roedd yna ddiffyg cyfathrebu rhwng sefydliadau addysg, iechyd, yr awdurdod lleol a'r heddlu gyda'i gilydd a gyda theulu Luke Deeley.

Nododd yr adroddiad bod y gofal gafodd Deeley am seicosis "yn anghyson".

Roedd yna gyfnodau pan nad oedd unrhyw un yn cydlynu ei driniaeth ac roedd yna fwlch o flwyddyn yn ei ofal rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2021.

Doedd yna ddim ffordd o rannu gwybodaeth wrth iddo聽symud i ardal Bwrdd Iechyd gwahanol tra'n fyfyriwr.

A methodd yr heddlu nodi marwolaeth June Fox-Roberts fel "digwyddiad difrifol" ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ani Sheppard bod marwolaeth ei mam wedi difetha ei bywyd

Dywedodd merch June Fox-Roberts, Ani, eu bod nhw'n grac.

"Roedd ganddo hanes o ymddwyn yn dreisgar," meddai.

"Pe byddai fe wedi cael y gofal cywir a chael ei fonitro a fyddai hyn wedi digwydd? Dy'n ni ddim yn gwybod, a fyddwn ni fyth, ond mae'n rhaid i rywbeth newid."

Nid dyma'r tro cyntaf i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wynebu beirniadaeth ar 么l i glaf gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol ladd rhywun.

Fe gafodd y bwrdd iechyd ei feirniadu ar 么l i Zara Radcliffe ladd John Rees mewn siop Co-op yn y Rhondda yn 2020.

Estynnodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg Paul Mears ei "gydymdeimlad dwysaf" i deulu Ms Fox-Roberts gan ychwanegu fod yr adroddiad yn cadarnhau casgliadau ymchwiliad mewnol.

"Ry'n ni'n ymddiheuro am yr achosion lle syrthiodd gofal Luke Deeley'n is na'r safonau uchel ry'n ni'n eu disgwyl ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaethau," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: 鈥淎nfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau June Fox-Roberts.

鈥淩oedd hwn yn ddigwyddiad trasig a effeithiodd ar lawer o bobl, ac rydym yn ymddiheuro i鈥檙 ddau deulu.

鈥淏yddwn yn gweithio gyda鈥檔 partneriaid i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu鈥檔 llawn ac yn ymrwymo i ddysgu gwersi o鈥檙 digwyddiad trasig hwn.鈥

Mae Luke Deeley'n parhau i fod mewn uned ddiogel ar 么l pledio'n euog i ddynladdiad June Fox-Roberts pan nad oedd yn ei iawn bwyll.