Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Ceredigion 'ddim wedi asesu effaith cau ysgol ar y Gymraeg'
Mae Cyngor Ceredigion wedi'u beirniadu am beidio asesu'n gywir yr effaith o gau ysgol wledig yn y sir ar y Gymraeg.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mewn llythyr at gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon nad oedd y cyngor sir wedi cydymffurfio 芒 safonau鈥檙 iaith cyn cynnal ymgynghoriad ar gau'r ysgol.
Yn yr ohebiaeth rhwng y cyngor a swyddfa'r comisiynydd, a gafodd ei rhyddhau ddydd Gwener, mae'r cyngor yn cydnabod nad ydyn nhw wedi cydymffurfio 芒'u cyfrifoldebau o dan safonau'r iaith.
Mae Cyngor Ceredigion wedi cael cais am sylw.
Mae'r ohebiaeth hefyd yn dangos bod y cyngor yn ymrwymo i fynd ati 鈥渇el mater o flaenoriaeth鈥 i ddiwygio鈥檙 ddogfen Asesiad Effaith ar y Gymraeg, cyhoeddi'r fersiwn newydd ar eu gwefan, a chynnig rhagor o amser ymateb i'r ymgynghoriad.
Gan fod y cyngor yn cydnabod eu bai, dywed y comisiynydd nad oes angen cynnal ymchwiliad i鈥檙 achos.
Mae Ysgol Llangwyryfon yn un o dair ysgol wledig yng ngogledd Ceredigion sy鈥檔 destun ymgynghoriadau ar eu cau - mae Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn hefyd yn wynebu bygythiadau i鈥檞 dyfodol.
Mae disgwyl y bydd ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd yn agor yn hwyrach yn y mis, wedi i鈥檙 cyngor ymgynghori 芒鈥檙 Eglwys yng Nghymru.
Yn 么l Meleri Williams, sydd 芒 dau o blant yn ysgol Llangwyryfon, ddylai'r cyngor ddim bwrw 'mlaen gyda'r cynnig i gau'r ysgol.
"Fi'n credu bod e'n bryd iddyn nhw i ddechre meddwl ydyn nhw'n neud eu gwaith yn iawn yn y lle cyntaf i ddeud y gwir achos mae'r safiad ma' nhw'n honni eu bod am safio wrth gau'r ysgol yma'n chwerthinllyd i gymharu' a'r effaith bydde'n ga;l ar y gymuned yma, y plant - ma'r plant yn barod yn betrusgar - ma'r rhieni'n grac.
"Dylse cau ysgol wledig Gymraeg gref fel hon ddim bod ar eu rhestr nhw yn y lle cyntaf."
Dywedodd Ffred Ffransis, o Gymdeithas yr Iaith: "Mae Cyngor Ceredigion eisoes yn wynebu cwyn nad ydyn nhw wedi dilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion o ran chwilio'r holl opsiynau cyn penderfynu cau ysgol.
"Ond nawr mae gyda ni'r g诺yn newydd 'ma. Dydyn nhw ddim wedi gwneud asesiad iawn o effaith cau'r ysgol ar yr iaith Gymraeg
"Mae'n nodweddiadol o'r brys sydd wedi bod. Mae nhw wedi penderfynu bod nhw am gau y pedair ysgol ac wedyn ticio bocsys i ddangos bod nhw wedi ystyried posibiliadau eraill - 'di ticio bocs 'effaith ar y Gymraeg', dweud fod y plant yn mynd i ysgol Gymraeg arall felly dim effaith ar y Gymraeg.
"Ond wrth gwrs, fel mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud, 'di nhw heb ystyried bod Llangwyryfon yn ysgol naturiol Gymraeg, Cymraeg yw iaith iard yr ysgol - mae'n un o'r llefydd pwysicaf i ni gadw.
"Mae peryg hefyd bydde rhieni y mewnfudwyr - os yw eu gwaith yn Aberystwyth - bydde nhw ddim yn mynd at ysgol gyfagos, bydde nhw'n mynd 芒'r plant i ysgol Saesneg yn nhre Aberystwyth."
'Angen asesiad llawn o'r effaith'
O ran y camau y dylai'r cyngor gymryd, dywedodd Mr Ffransis: "Nid ar chwarae bach 'da chi'n amharu ar addysg plant a 'da chi'n amddifadu cymuned o'i hysgol.
"Yr hyn ddylen nhw wneud yn yr achos yma ydi gwneud asesiad llawn o be fydd effaith cau Ysgol Llangwyryfon ar y Gymraeg yn yr ardal, beth yw effaith ar addysg y plant, beth yw effaith integreiddio mewnfudwyr mewn ysgol ar hyn o bryd lle mae'r Gymraeg yn iaith yr iard chwarae, a be fydd yr effaith ar y gymuned?"
"Fydd pobl ifanc, teuluoedd ifanc isio ymsefydlu mewn cymuned sydd heb ysgol?" ychwanegodd.
"Mae Ceredigion wedi cau tri dwsin o ysgolion o fewn yr 20 mlynedd diwethaf - y mwyafrif yn ysgolion gwledig Cymraeg ond does neb wedi ymdrechu i wneud unrhyw ymchwil i weld be yw effaith hyn ar addysg y plant, iaith addysg y plant, iaith y cymunedau.
"Mae gyda ni ddwsinau o gymunedau gwledig Cymraeg sydd yn heneiddio. Mae angen ysgolion yn eu plith nhw."
Dywedodd cynghorydd sir Llangwyryfon, Gwyn Wigley Evans: "Dw i'n siomedig nad oedd y cyngor wedi cydymffurfio 芒 gofynion safonau'r Gymraeg, a dw i'n falch deall eu bod yn mynd i gwympo ar eu bai, fel y dylen nhw wneud.鈥
Ychwanegodd: "Dwi'n cael llwyth o alwadau, mwy nag arfer a bobl yn gofyn i fi beth arall sydd yn anghywir yn y ddogfen.
"Ni 'di gweld yn barod bod y ffigyrau oedd am 拢30,000 am gost y bysys wedi mynd i fyny i 拢70,000 ac amcangyfrif ydi o dal. Os ydi hynna'n gywir, neu os ydi o'n fwy, does na'm safio o gwbl."