Trydariad arweinydd y Tor茂aid am 20 mya wedi niweidio'r Senedd - dyfarniad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi cael ei gyhuddo o ddwyn anfri ar y sefydliad drwy alw'r terfyn cyflymder 20mya yn bolisi 鈥渂lanced鈥 ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd Andrew RT Davies wedi mynnu mai "mater o farn" oedd ei ddewis o eiriau ond fe fydd yn cael ei geryddu'n swyddogol yr wythnos nesaf ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Comisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain, ei bod hi'n ddyletswydd ar yr aelod fel "arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a chyn aelod profiadol o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i osod esiampl dda".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson fod y disgrifiad "blanced" - hynny yw, cyffredinol - yn anghywir oherwydd bod y terfyn rhagosodedig, oedd yn 30mya yn flaenorol, yn destun eithriadau.
Derbyniodd Mr Bain ddwy g诺yn wahanol mewn perthynas ag Andrew RT Davies yn defnyddio'r ymadrodd ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd y trydariad 鈥 a bostiwyd ar 么l i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ddod i鈥檙 casgliad bod y term 鈥渂lanced鈥 yn 鈥渁nfanwl ac anghywir鈥 鈥 yn dweud: 鈥淭orrwyd llwybr bws arall diolch i derfynau cyflymder 20mya cyffredinol Llafur a Phlaid Cymru.鈥
Ystyriodd y Comisiynydd a oedd yr aelod wedi torri鈥檙 rheolau a ganlyn o鈥檙 cod ymddygiad:
Rheol 1 鈥 Rhaid i aelodau gynnal yr egwyddorion cyffredinol.
Rheol 2 鈥 Rhaid i aelodau weithredu'n onest.
Rheol 3 鈥 Ni chaiff aelodau ymddwyn mewn modd sy'n dwyn anfri ar y Senedd neu ei haelodau yn gyffredinol.
Cytunodd y pwyllgor safonau trawsbleidiol 芒 chanfyddiad y comisiynydd bod Mr Davies wedi torri rheolau 1 a 3, ond nad oedd yn torri rheol 2 oherwydd bod y comisiynydd wedi dod i'r casgliad "nad oedd unrhyw fwriad i dwyllo".
Dywedodd y pwyllgor bod "achos o dorri'r cod ymddygiad gan unrhyw Aelod o鈥檙 Senedd yn fater difrifol... Mae enw da Senedd Cymru, a ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad, yn dibynnu ar allu'r aelodau i ddangos uniondeb ac arweinyddiaeth drwy eu gweithredoedd."
Bydd Davies yn cael ei geryddu gan y Senedd brynhawn dydd Mercher.
Yr adroddiad yw'r cyntaf gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ers i Hannah Blythyn ddod yn gadeirydd.
Roedd hi鈥檔 weinidog Llafur cyn iddi gael ei diswyddo gan y prif weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, a oedd wedi honni mai hi oedd ffynhonnell stori a ddatgelodd ei fod wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o sgwrs gr诺p yng nghyfnod y pandemig.
Gwadodd Blythyn hynny.
Mae un o gydweithwyr Davies, Natasha Asghar hefyd wedi cael ei cheryddu鈥檔 swyddogol am alw鈥檙 terfyn cyflymder 20mya yn bolisi 鈥渂lanced鈥.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi
- Cyhoeddwyd14 Medi
- Cyhoeddwyd6 Medi