大象传媒

'Camgymeriadau gyda pholisi 20mya ond mae'n achub bywydau'

Lee Waters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Lee Waters y dylai'r llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy a hysbysu pobl yn well cyn i'r newid ddod i rym

  • Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi defnyddio 鈥渕wy o synnwyr cyffredin鈥 wrth weithredu鈥檙 terfyn cyflymder 20mya, medd y gweinidog oedd yn gyfrifol am y polisi dadleuol.

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 dywedodd Lee Waters, a ymddiswyddodd fel gweinidog trafnidiaeth ym mis Mawrth, ei bod hi鈥檔 鈥渆ithaf amlwg鈥 bod y polisi wedi lleihau cyflymder ac wedi achub bywydau.

Ond pan gafodd ei holi beth fyddai鈥檔 ei wneud yn wahanol, dywedodd y dylai'r llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy cyn cyflwyno'r polisi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd nifer o arwyddion eu difrodi wedi i'r polisi 20mya ddod i rym

Mae'r polisi - a gyflwynwyd ym mis Medi 2023 - yn golygu mai 20mya, yn hytrach na 30mya, yw'r terfyn cyflymder bellach mewn ardaloedd trefol, gyda chynghorau lleol yn gallu gwneud eithriadau.

Ar hyn o bryd mae'r polisi yn cael ei adolygu wedi i bron i hanner miliwn o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid ac mae nifer o arwyddion ffyrdd wedi'u difrodi.

Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng draean yn chwarter olaf y llynedd.

Cyfaddefodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn ddiweddar fod gweithredu deddf 20mya dadleuol Cymru yn creu problemau.

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 dywedodd Lee Waters y dylai'r Llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy a hysbysu pobl yn well cyn i'r newid ddod i rym.

"Byddai fe wedi bod yn fwy synhwyrol i siarad 芒 phobl a gwrando ar bobl cyn i'r newid ddod i mewn," meddai.

"Dwi'm yn meddwl bod y llywodraeth gyfan wedi bod gymaint y tu 么l i'r ymgyrch ag ymgyrchoedd eraill - roedd yna lawer mwy o hysbysebu cyn yr ymgyrch rhoi organau, er enghraifft.

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod hynny鈥檔 gamgymeriad a dwi鈥檔 meddwl bod yn rhaid i bawb, gan gynnwys fi, roi eu llaw lan a derbyn y cyfrifoldeb,鈥 ychwanegodd.

Dywedodd Waters hefyd fod rhai cynghorau yn "gyndyn o symud y tu hwnt i lythyren y ddeddf pan oedd ganddyn nhw hyblygrwydd i wneud hynny".

Wrth gyfeirio at y gwrthwynebiad i'r polisi, dywedodd Lee Waters ei fod wedi bod yn "fwy ac wedi para'n hirach na'r hyn yr oeddem yn ei ragweld".

鈥淒w i ddim yn meddwl ein bod ni wedi paratoi鈥檙 tir ddigon a ddim yn meddwl bod pobl wedi rhagweld cymaint o newid fyddai hwn,鈥 meddai, gan ychwanegu y gallai 鈥済ymryd amser鈥 i bobl dderbyn y polisi.

鈥淔e gymerodd amser hir i bobl ddod i arfer 芒 gwregysau diogelwch, fe gymerodd amser hir i bobl ddod i arfer 芒'r gwaharddiad o ysmygu mewn mannau cyhoeddus - ond nid ydym wedi cefnu ar unrhyw un o'r polis茂au hynny a fyddwn i ddim yn cefnu ar hwn,鈥 meddai.

Ychwanegodd ei fod yn hyderus bod 鈥測 data a鈥檙 dystiolaeth yn dangos y bydd yn achub bywydau, ac ymhen amser bydd yn setlo i lawr鈥.

'Miloedd wedi ymateb'

Wrth siarad ar raglen Bore Sul Radio Cymru dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: 鈥淢ae 'na dal i fod problemau 鈥 lot o gwynion yngl欧n 芒鈥檙 20mya. Mae hwnna yn rhywbeth yn amlwg fydd angen i ni ddiwygio rhywfaint ac mae rhan o鈥檙 broses yna wedi dechrau, wrth gwrs.

鈥淒w i'n meddwl bod consensws i gael yn y boblogaeth bod angen cadw at 20mya o gwmpas ysgolion a meysydd chwarae ac ati a dw i'n meddwl o ran yr ardaloedd built up areas - dyna le mae鈥檙 drafodaeth angen bod just o ran y through roads yna.

"Dyna beth sydd wedi dod n么l dw i鈥檔 meddwl o鈥檙 cyhoedd.

"Ni wedi annog y cyhoedd i gysylltu gyda'u llywodraeth leol nhw, i ddweud pa strydoedd sydd yn achosi鈥檙 problemau fwyaf iddyn nhw. Mae miloedd wedi ymateb. Mae鈥檔 rhaid i lywodraeth leol nawr mynd trwy鈥檙 ymatebion yna.

"Bydd hyn yn cymryd tamaid bach o amser - felly fydd e ddim yn rhywbeth fydd yn digwydd dros nos. Ond gobeithio bydd pobl yn gweld gwahaniaeth ar lawr gwlad."