Carcharu dyn wnaeth ddwyn fan dynes o Ysbyty Gwynedd

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Sion Williams, o Stryd Edmund, Bangor, ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis

Mae dyn wnaeth ddwyn fan dynes ym Mangor ac yna gyrru'r fan mewn i wal ym Meddgelert wedi cael ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.

Ymddangosodd Sion Williams, o Stryd Edmund, Bangor, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.

Plediodd y dyn 31 oed yn euog i ladrata, gyrru heb yswiriant, methu 芒 stopio ar 么l gwrthdrawiad a methu ag adrodd am wrthdrawiad.

Ychydig ar 么l 11:00 ar 11 Gorffennaf 2024 roedd y ddynes yn aros yn ei fan y tu allan i Ysbyty Gwynedd pan agorodd Williams y drws yn sydyn.

Disgrifiad o'r llun, Roedd y ddynes yn aros yn ei fan y tu allan i Ysbyty Gwynedd pan agorodd Sion Williams y drws yn sydyn

Clywodd y llys nad oedd y ddynes yn adnabod y dyn a'i fod wedi cydio yn ei gwallt a'i llusgo i'r llawr a bu'n rhaid iddi gael tri phwyth yn ei phen-glin.

Fe yrrodd Williams y fan o'r ysbyty ac yn fuan wedyn, derbyniodd yr heddlu alwad 999 yn adrodd am wrthdrawiad ger Beddgelert.

Roedd Williams wedi gyrru i mewn i wal. Rhedodd i ffwrdd gan adael y fan ar y ffordd.

Ychydig yn ddiweddarach fe dderbyniodd yr heddlu alwad a oedd yn dweud bod Williams wedi ceisio mynd i mewn i gartref dynes 74 oed - gan ei gadael yn ofnus ac yn ofidus.

Yn fuan ar 么l 14:00, daeth plismyn o hyd iddo yng Nghefn Maes lle cafodd ei arestio ac yn ddiweddarach ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd yr Ymchwilydd Sifil Stephen Williams: 鈥淩oedd hon yn drosedd arbennig o gas ar fenyw fregus yn ystod golau dydd ar dir ysbyty - man lle dylai fod yn ddiogel.

鈥淢ae鈥檙 hyn ddigwyddodd wedi cael effaith sylweddol arni hi a鈥檌 theulu.

鈥淵n ffodus mae'r mathau hyn o drosedd yn hynod o brin, ac fe wnaethom ddal y sawl oedd yn gyfrifol yn gyflym.鈥